Beth yw manteision cymryd rhan yn gystadleuaeth SkillBuild?
Manteision i ddysgwyr a phrentisiaid:
- Gwella sgiliau technegol a chyflogadwyedd ac ychwanegu at eich CV
- Dysgu sgiliau newydd yn eich crefft
- Profi eich hun yn erbyn dysgwyr eraill
- Cystadlu mewn amgylchedd cyfeillgar, amrywiol ac ysbrydoledig
- Dewisiadau gyrfa gwell
Manteision i golegau a darparwyr hyfforddiant:
Drwy ddangos eich ymrwymiad a’ch cefnogaeth i’r myfyrwyr sy’n cystadlu, rydych chi’n gwneud y canlynol:
- Grymuso eich myfyrwyr a’ch prentisiaid i weithio’n effeithlon dan bwysau
- Dangos i ESTYN sut rydych chi’n bodloni safonau’r fframwaith arolygu drwy ddefnyddio gweithgareddau cystadlu i ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel
- Asesu sgiliau gweithredol eich myfyrwyr a’ch prentisiaid yn erbyn sefyllfaoedd gwaith go iawn
- Dangos ansawdd eich rhaglenni hyfforddi drwy lwyddiant mewn cystadlaethau
- Darparu ffordd unigryw o gyfuno addysgu, dysgu ac asesu er mwyn sicrhau canlyniadau go iawn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid o bob oed a gallu
Manteision i gyflogwyr:
- Rhoi hwb i berfformiad eich busnes yn y tymor hir
- Dysgu eich prentisiaid i weithio’n effeithlon dan bwysau
- Tynnu sylw at ymrwymiad eich sefydliad i godi safonau mewn dysgu seiliedig ar waith.
- Codi safonau eich prentis i lefel ryngwladol
- Trawsnewid set sgiliau eich prentis