Adnodd Paratoi Cyflwyniad Gyrfaoedd
Enw’r Gweithgaredd:
Adnodd Paratoi Cyflwyniad Gyrfaoedd
Disgrifiad o’r Gweithgaredd:
Bydd y cyflwyniadau’n rhan o gyfres o gyflwyniadau gyrfaoedd adeiladu y gellir eu defnyddio gyda gwahanol gynulleidfaoedd. Daw pob un gyda nodiadau cyfarwyddyd llawn i gynorthwyo’r gwaith o’i gyflwyno. Gallwch ddewis a dethol y sleidiau PowerPoint i greu eich cyflwyniad gyrfa pwrpasol eich hun. Bydd cyflwyniadau eraill yn cael eu hychwanegu yn ddiweddarach.
Nod y Gweithgaredd: Nod y cyflwyniadau yw helpu unrhyw un sydd angen codi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw’r sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig i sut rydym yn byw ein bywydau bob dydd neu i dynnu sylw at y cyfleoedd gyrfa niferus ac amrywiol sy’n bodoli i bobl o bob oed a gallu.
Cynulleidfa:
- Pob oedran
- Dylanwadwyr e.e. athrawon, cynghorwyr gyrfaoedd
- Cyflwyniad Cyffredinol i Yrfaoedd Adeiladu: Trosolwg o’r sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig a gyrfaoedd cysylltiedig. Gall Llysgenhadon y Diwydiant ddefnyddio’r templedi sleidiau ar gyfer “Fi a’m Gyrfa” drwy ychwanegu eu sleidiau eu hunain
- Llwybrau i’r Maes Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig: Mae'r cyflwyniad yn ymdrin â llwybrau i’r diwydiant adeiladu o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys: Prentisiaethau mewn masnach, technegol ac uwch; llwybrau addysg uwch a phobl sy’n newid gyrfa/dychwelyd i yrfa.
Rhagor o wybodaeth: Cyfeiriwch at Daflen Flaen yr Adnoddau
Dogfennau i’w Llwytho i lawr
Llwytho Pob Dogfen i Lawr:
Adnodd Paratoi Cyflwyniad Gyrfaoedd - Pob Dogfen