Gyrfaoedd Adeiladu Tai Adeiladu Cymunedau
Enw’r Gweithgaredd:
Adeiladu Cymunedau - Deall Dylanwad Daearyddiaeth ar Adeiladu Tai
Disgrifiad o’r Gweithgaredd:
Cyfres o 10 cyflwyniad PowerPoint a chynlluniau gwersi amserol sy’n edrych ar agweddau ac effeithiau daearyddol a chymdeithasegol adeiladu tai.
Nod y Gweithgaredd:
Annog ymchwilio drwy ddeg o wersi thematig. Bydd cyfranogwyr yn dod i ddeall sut mae daearyddiaeth yn dylanwadu ar adeiladu tai.
Dyma rai o’r themâu:
- Pam mae angen cartrefi newydd arnom
- Sut mae poblogaethau wedi newid ledled y DU
- Sut mae adeiladwyr yn diwallu anghenion lleol
- Beth yw cymuned gynaliadwy?
- Sut mae’r cyngor yn penderfynu ble i adeiladu tai newydd
- Ble y dylid adeiladu cartrefi newydd
- Adeiladu cartrefi mewn amgylcheddau heriol
- Sut y gellir creu cartrefi newydd sy’n defnyddio ynni'n fwy effeithlon
Cynulleidfa (Oedran a Argymhellir):
11 - 16 oed (Mae pob gweithgaredd yn gysylltiedig â’r cwricwlwm ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 a 4 yn Lloegr).
Maint y grŵp:
Nid oes cyfyngiad ar nifer y cyfranogwyr.
Rhagor o wybodaeth:
Gellir cysylltu’r adnodd hwn â gweithgareddau Archwilio Adeiladu Tai a Byw Mewn Ffordd Wyrdd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd yn Y Gymdeithas Ddaearyddol a Gyrfaoedd ym Maes Adeiladu Tai
Dogfennau i’w Llwytho i lawr
Llwytho Pob Dogfen i Lawr:
Gyrfaoedd Adeiladu Tai Adeiladu Cymunedau - Pob Dogfen