Tetrahedron Enfawr
Enw’r Gweithgaredd:
Tetrahedron Enfawr
Disgrifiad o’r Gweithgaredd:
Mae’r tetrahedron enfawr (pyramid trionglog) yn weithgaredd effeithiol, i greu strwythur 4 metr x 4 metr gan ddefnyddio dim ond hoelbrennau a bandiau elastig.
Mae’r pwyslais ar waith tîm a gwrando ar gyfarwyddiadau a’u dilyn. Mae modd cynnwys llawer o rolau yn y diwydiant adeiladu yn y gweithgaredd yn ogystal â’r broses adeiladu, sy’n golygu ei fod yn weithgaredd eglurhaol rhagorol, ac yn llawn hwyl.
Nod y Gweithgaredd: Hyrwyddo amrywiaeth eang o yrfaoedd adeiladu ac agweddau gwahanol ar y broses adeiladu, gan gynnwys: iechyd a diogelwch, gwaith tîm, datrys problemau peirianneg a gweithio o fewn amserlenni.
I’r cyfranogwyr ddefnyddio’r sgiliau allweddol sy’n berthnasol i’r diwydiant adeiladu e.e. cydweithredu, cyfathrebu, datrys problemau, cynllunio.
Cynulleidfa (Oedran a Argymhellir):
- 11 - Oedolion
- Yn Cynnwys Dylanwadwyr e.e. athrawon, cynghorwyr gyrfaoedd
Maint y Grŵp: Gall cyfranogwyr weithio mewn grwpiau bach/timau o 2 - 4 o bobl, ond nid oes cyfyngiad ar faint cyffredinol y grŵp.
Rhagor o wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd, ewch i Daflen Flaen y Gweithgaredd, sy’n rhoi gwybodaeth am y canlynol:
- Paratoi a’r Adnoddau y bydd eu hangen arnoch
- Cysylltiadau â’r Cwricwlwm/ Sector/ Sgiliau Cyflogadwyedd
- Gweithgareddau Ymestyn
- Amserlen a Awgrymir
Dogfennau i’w Llwytho i lawr
Llwytho Pob Dogfen i Lawr:
Llwythwch yr holl ddogfennau i lawr ar gyfer y Gweithgaredd Tetrahedron Enfawr.