Theorem Pythagoras
Ein partner, yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid Adeiladu, sy’n darparu’r adnodd hwn.
Nod y sesiwn hon yw cael myfyrwyr i feddwl am y ffordd mae eu hastudiaethau mathemateg yn berthnasol i’r byd gwaith. Mae’n cynnwys gweithgaredd ymarferol ‘gosod allan’ sy’n mynd i’r afael â Theorem Pythagoras a phwysigrwydd onglau sgwâr mewn adeiladu. Ategir y gweithgaredd gan gyfrifiadau ar daflen waith.
Nod y sesiwn yw dod â dysgu mathemateg yn fyw i’r myfyrwyr yng nghyd-destun gwaith ar y safle adeiladu a chodi ymwybyddiaeth myfyrwyr am yrfaoedd ym maes adeiladu a llwybrau i mewn i’r diwydiant.
Ar gyfer pwy mae hwn?
Anelwyd y sesiwn hon i’w chyflwyno i fyfyrwyr CA3.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?
Dylai gymryd 50 munud i gwblhau’r gweithgaredd hwn.
Dogfennau i’w Llwytho i lawr
Llwytho Pob Dogfen i Lawr:
Theorem Pythagoras - Pob Dogfen
Maint y ffeil: 8.5MB
Theorem Pythagoras - Pob Dogfen