Sioe WOW
Mae Sioe WOW yn dymchwel y waliau rhwng yr ystafell ddosbarth a’r gweithle – ac yn cynnig cyfleoedd cofiadwy i gwrdd â phobl ysbrydoledig.
Beth yw Sioe WOW?
Mae Sioe WOW yn sianel ar-lein sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n trefnu profiadau go iawn yn y byd gwaith i ysbrydoli pobl ifanc ynghylch y dyfodol.
Mae Am Adeiladu yn gweithio mewn partneriaeth â Sioe WOW i dynnu sylw at wahanol agweddau'r diwydiant adeiladu nad yw pobl ifanc yn gyfarwydd â nhw o bosibl, ac i ddangos y cyfleoedd gyrfa anhygoel sydd ar gael i bawb.
Adnoddau Sioe WOW
Mae Sioe WOW, sy’n darlledu i ysgolion ledled y DU, yn defnyddio cyfuniad golygyddol o ffilmiau o ansawdd uchel, newyddiaduraeth ymchwiliol a sesiwn holi ac ateb fyw gydag arbenigwyr i ddarparu gwybodaeth newydd a pherthnasol am weithleoedd modern.
Gwyliwch y Sioe Adeiladu arbennig yma a darllenwch yr holl straeon adeiladu unigol ar wefan Sioe WOW. Mae cynlluniau gwersi i gyd-fynd â phob Sioe hefyd - cafodd y rhain eu paratoi gan athrawon sy’n cysylltu cynnwys y rhaglen yn uniongyrchol â’r cwricwlwm.
Gallwch weld yr amrywiaeth o Adnoddau i Athrawon Sioe WOW yma, gyda phob un wedi’i restru o dan y Sioe benodol.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am Sioe WOW a chofrestru i gael yr holl ffilmiau a deunyddiau yn rhad ac am ddim cyn gynted ag y cânt eu rhyddhau, ewch i wefan Sioe WOW isod.