Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn llwyddo yn fy mhrentisiaeth?
Mae’n bosibl methu eich prentisiaeth.
Tua diwedd rhaglen brentisiaeth, mae prentisiaid yn cael asesiad Pwynt Gorffen (EPA). Asesiad annibynnol yw hwn i weld a yw’r prentis wedi ennill y sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiad a ddisgwylir gan y cyflogwr a darparwr yr hyfforddiant. Os byddwch chi’n methu'r asesiad hwn, mae nifer o opsiynau ar gael i chi.
Efallai fod rhesymau eraill pam nad yw prentisiaid yn cwblhau eu prentisiaeth.
Pam allai rhywun fethu prentisiaeth?
Dyma rai rhesymau dros fethu prentisiaeth:
- Methu'r Asesiad Pwynt Gorffen
- Cael eich diswyddo
- Terfynu’r brentisiaeth yn gynnar
Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n gadael y brentisiaeth gyda’r sgiliau a’r profiad ond nid y cymhwyster.
Allwch chi ailsefyll eich Asesiad Pwynt Gorffen?
Gallwch, cewch chi ailsefyll neu ail-wneud yr asesiad pwynt gorffen. Os argymhellir eich bod chi’n ailsefyll yr asesiad, dylai eich cyflogwr a'ch darparwr hyfforddiant weithio gyda'ch sefydliad asesu pwynt gorffen (EPAO) i ddarparu cynllun gweithredu sy'n eich cefnogi i baratoi ar gyfer ailsefyll. Mae'n syniad da i ofyn am ddyddiad newydd cyn gynted â phosibl ar gyfer ailsefyll yr asesiad.
Dim ond y cydrannau a fethwyd yn yr asesiad gwreiddiol y bydd yn rhaid i chi eu hailsefyll, nid pob modiwl. Eich cyflogwr sy’n talu’r gost o ailsefyll.
Awgrymiadau ar gyfer ailsefyll eich Asesiad
Os ydych chi’n mynd i ailsefyll eich asesiad, mae'n bwysig eich bod chi’n paratoi'n drylwyr ar ei gyfer. Dyma rai o’r pethau i’w hystyried:
- Gosodwch amserlen i chi eich hun er mwyn paratoi
- Adolygwch beth aeth o'i le gyda'r asesiad gwreiddiol
- Edrychwch ar eich arweiniad eto
- Trefnwch absenoldeb astudio gyda'ch cyflogwr
- Peidiwch â mynd i banig wrth ailsefyll
Cael eich diswyddo o brentisiaeth
Mae’n bosibl cael eich diswyddo o brentisiaeth, ond rhaid i’r diswyddiad ddigwydd mewn ffordd sy’n gyfreithiol ddilys.
Os nad yw’r prentis yn bodloni’r cymwyseddau a’r safonau angenrheidiol sy’n ofynnol gan y cyflogwr, mae’n gyfreithlon i’r cyflogwr derfynu’r cytundeb â’r prentis. Gyda phrentisiaethau tymor penodol gallai fod yn ofynnol i’r cyflogwr dalu cyflog y prentis am y tymor cyfan, oni bai fod cymal yn y contract ynghylch terfynu’n gynnar.
Mae gan y prentis hefyd yr hawl i derfynu’r brentisiaeth. Fel gydag unrhyw swydd, bydd cyfnod rhybudd, ond os mai penderfyniad y prentis yw dod â’r brentisiaeth i ben yn gynnar, ni fyddan nhw’n cael eu talu am weddill y rhaglen.
Oes rhaid i mi dalu unrhyw arian yn ôl os byddaf yn methu fy mhrentisiaeth?
Nac oes. Cyfrifoldeb y cyflogwr yw ad-dalu unrhyw arian a allai fod yn ddyledus i’r darparwr hyfforddiant. Hyd yn oed os mai penderfyniad y prentis oedd terfynu’r brentisiaeth, ni fyddan nhw’n atebol am unrhyw gostau sy’n codi o’r brentisiaeth a fethwyd. Os bydd eich cyflogwr neu'ch darparwr hyfforddiant yn gofyn i chi dalu unrhyw arian, does dim hawl ganddyn nhw i wneud hynny.
Dechrau prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu
Dydy’r rhan fwyaf o brentisiaethau ddim yn gorffen fel hyn!
Yn wir, maen nhw’n ffordd wych i ddechrau arni mewn pob math o ddiwydiannau. Mae gennym ni’r holl wybodaeth yma er mwyn i chi ddechrau arni ym maes adeiladu, gan gynnwys canllawiau i dros 170 o wahanol swyddi.