Prentisiaethau yng Nghymru
Mae prentisiaethau yng Nghymru yn wahanol i brentisiaethau yn Lloegr a’r Alban, ond yr un yw’r egwyddorion sylfaenol. Byddwch yn ennill sgiliau proffesiynol gyda chyflogwyr drwy gyfuniad o ddysgu ymarferol ac academaidd, gan ennill cyflog ar yr un pryd. Mae prentisiaeth yn agored i chi os ydych chi dros 16 oed, yn byw yng Nghymru ac nad ydych chi mewn addysg amser llawn.
Sut mae prentisiaethau’n wahanol yng Nghymru?
Mae prentisiaethau yng Nghymru yn debyg o ran strwythur i rai Lloegr, ond mae rhai gwahaniaethau. Mae pedair lefel – Prentisiaeth Sylfaen, Prentisiaeth, Prentisiaeth Uwch a Gradd-brentisiaeth.
Pa mor hir yw prentisiaeth yng Nghymru?
Mae’n cymryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd i gwblhau prentisiaethau yng Nghymru. Bydd fel arfer yn cymryd pedair blynedd i gwblhau Gradd-brentisiaeth, a 2-3 blynedd i gwblhau prentisiaethau Lefel 3.
Pa fathau o brentisiaethau sydd yna yng Nghymru?
Enw |
Lefel addysgol gyfwerth |
Gofynion mynediad |
Llwyddo mewn 5 TGAU gyda graddau 4-9 |
Fel arfer, does dim angen cymwysterau ffurfiol |
|
Llwyddo mewn 2 bwnc Safon Uwch |
Fel arfer, bydd angen pasio 3 pwnc TGAU |
|
HNC, Gradd sylfaen neu flwyddyn gyntaf Gradd israddedig |
Fel arfer, mae angen pasio 5 TGAU, yn ogystal â graddau Safon Uwch, NVQ/SVQ neu gymhwyster BTEC Cenedlaethol. |
|
Gradd Anrhydedd lawn |
Fel arfer, bydd angen pasio 5 TGAU, cymwysterau Safon Uwch, NVQ/SVQ neu gymhwyster BTEC Cenedlaethol, ac efallai y bydd rhai graddau Safon Uwch penodol yn ofynnol ar gyfer rhai prentisiaethau penodol.Foundation (Level 2) |
Prentisiaeth Sylfaen (lefel 2)
Mae Prentisiaeth Sylfaen yng Nghymru yn debyg i brentisiaeth lefel Ganolradd yn Lloegr, ac yn arwain at gymhwyster Lefel 2. Ni ddylid drysu hyn â phrentisiaeth Sylfaen yn yr Alban, ar gyfer myfyrwyr cyn iddynt adael yr ysgol.
Fel arfer, nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer prentisiaethau sylfaen, ond efallai y bydd rhai cyflogwyr yn mynnu eich bod wedi pasio TGAU mewn Saesneg a Mathemateg ar raddau penodol. Mae yr un mor bwysig eich bod yn gallu dangos brwdfrydedd a pharodrwydd i gwblhau’r rhaglen.
Gall prentisiaeth Sylfaen roi’r sgiliau i chi symud ymlaen i brentisiaeth Lefel 3, gwneud i chi ddeall mwy am yr hyn rydych chi’n ei hoffi am swydd a rhoi mwy o hyder i chi fel person.
Prentisiaeth (Lefel 3)
Mae prentisiaeth Lefel 3 yng Nghymru yn cyfateb i Uwch Brentisiaeth yn Lloegr. Fel arfer, bydd angen i chi basio o leiaf dri TGAU ar raddau 9-4, ac efallai y bydd rhai cyflogwyr yn mynnu eich bod wedi pasio mwy o bynciau neu eich bod wedi pasio pynciau penodol. Mae’n cymryd 2-4 blynedd i gwblhau prentisiaethau Lefel 3, gydag un diwrnod yr wythnos o amser astudio neu floc penodol o amser ar gyfer dysgu yn y coleg.
Mae amrywiaeth enfawr o gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau Lefel 3 ledled Cymru. Ewch i wefan Gyrfa Cymru i chwilio am swyddi gwag yn eich ardal chi.
Prentisiaethau Uwch (Lefel 4 i 5)
Cymwysterau Lefel 4 i 5 yw prentisiaethau uwch yng Nghymru ac maen nhw’n weddol debyg i Brentisiaethau Uwch yn Lloegr. O safbwynt addysgol, maent yn gyfwerth â HNC, Gradd Sylfaen neu flwyddyn gyntaf Gradd Anrhydedd.
Mae’r gofynion mynediad yn amrywio, ond bydd angen cymwysterau Safon Uwch, prentisiaeth Lefel 3, HNC neu gymhwyster BTEC Cenedlaethol ar gyfer y rhan fwyaf o gynlluniau prentisiaeth Uwch. Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn gofyn i brentisiaid fod wedi pasio mewn pynciau perthnasol neu eu bod wedi cael profiad blaenorol yn y gwaith. Edrychwch ar y fframwaith ar gyfer prentisiaethau Uwch sydd ar gael ar wefan Ardystio Prentisiaethau Cymru.
Dylech hefyd fod wedi’ch cyflogi eisoes yn y sector lle rydych yn dymuno dilyn prentisiaeth Uwch ynddo, a bod gennych hawl i fyw a gweithio yn y DU ac yn cael eich cyflogi am 50% o’ch amser yng Nghymru.
Gradd-brentisiaeth (Lefel 6)
Mae Gradd-brentisiaeth yng Nghymru yn debyg i radd-brentisiaethau yn Lloegr a phrentisiaethau Graddedigion yn yr Alban. Mae prentisiaid yn cyfuno gweithio i gyflogwr ag astudio mewn prifysgol, gan arwain at gymhwyster sy'n cyfateb i radd Anrhydedd.
Manteision Gradd-brentisiaeth yw y gall myfyrwyr sy’n ansicr a ydynt am ddilyn prentisiaeth neu fynd i brifysgol i gael y gorau o’r ddau fyd, gan ennill cyflog ar yr un pryd. Mae'r gofynion mynediad ar gyfer Gradd-brentisiaethau yn debyg i'r rhai ar gyfer graddau traddodiadol, ac fel arfer byddant yn gofyn am ddau neu dri o gymwysterau Safon Uwch, ac efallai y bydd angen rhai graddau penodol ar gyfer rhai prentisiaethau penodol, neu NVQ neu gymhwyster BTEC Cenedlaethol.
Mae Gradd-brentisiaethau newydd yn cael eu datblygu yng Nghymru drwy’r amser, ond maent yn cael eu cynnig ar hyn o bryd mewn swyddi TGCh, digidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch. Maen nhw’n brentisiaethau Lefel 6 a 7 a dyma’r brentisiaeth uchaf y mae’n bosibl ei dilyn yng Nghymru.
Sut mae gwneud cais am brentisiaeth yng Nghymru?
Os ydych chi’n meddwl bod prentisiaeth yn addas i chi, a’ch bod yn byw yng Nghymru, ewch i wefan prentisiaethau Llywodraeth Cymru i gael rhagor o fanylion am y gwahanol lefelau o brentisiaethau, y gofynion mynediad, astudiaethau achos ac i chwilio am swyddi gwag.