Prentisiaethau graddedig yr Alban
Mae Prentisiaeth Raddedig yn yr Alban yn rhoi cyfle i fyfyrwyr yr Alban gyfuno lefel uwch o brofiad mewn diwydiant ag astudiaeth academaidd mewn coleg neu brifysgol. Mae Prentisiaid Graddedig yn aml wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen cyn dilyn eu cyrsiau Uwch, ac mae’r prentisiaethau lefel gradd hyn yn datblygu eu sgiliau ymhellach yn y maes o’u dewis. Mae mwy i Brentisiaethau Graddedig na chael swydd well. Maent yn ymwneud â sbarduno twf economaidd yn yr Alban.
Beth yw Prentisiaethau Graddedig yr Alban?
Prentisiaethau Graddedig yr Alban yw’r lefel gyntaf o Brentisiaethau yn yr Alban. Mae Prentisiaethau Graddedig wedi’u cynllunio i roi profiad o fyd gwaith i fyfyrwyr israddedig, ar yr un pryd ag y maen nhw’n astudio ar gyfer gradd. Maen nhw’n cynnig manteision i brentisiaid a chyflogwyr. Gall prentisiaid ennill y lefel uchaf o gymhwyster proffesiynol, yn ogystal ag ennill cyflog. Mae gan fusnesau fynediad at gyflenwad o unigolion talentog y maen nhw’n gwybod sydd â’r sgiliau arbenigol i wneud yn dda yn eu sefydliad.
Mae cyfleoedd am Brentisiaethau Graddedig ar gael mewn nifer cynyddol o brifysgolion a cholegau yn yr Alban. Mae’r meysydd pwnc yn cynnwys sectorau fel Adeiladu a Busnes, Peirianneg Sifil a Seiberddiogelwch.
Beth sydd ei angen arnaf i wneud cais am Brentisiaeth Raddedig yr Alban?
Mae gofynion mynediad Prentisiaeth Raddedig yn debyg i'r rheiny ar gyfer gradd israddedig, a bydd yn amrywio yn ôl y cwrs a’r sefydliad. Fodd bynnag, bydd angen i chi fod yn byw yn yr Alban er mwyn gwneud cais, a bod gennych yr hawl i fyw a gweithio yn yr Alban hefyd.
Mae cyllid ar gyfer Prentisiaethau Graddedig ar gael gan Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban.
Pa oedran sydd angen i mi fod?
Gallwch chi wneud cais am Brentisiaeth Raddedig os ydych chi’n 16 oed ac nid oes terfyn uchaf o ran oedran. Gallai rhai cyrsiau fod wedi cael eu cyfyngu i ymgeiswyr dros 18 oed oherwydd gofynion iechyd a diogelwch.
Faint o Brentisiaethau Graddedig sydd ar gael?
Ar y cyfrif diweddaraf, roedd Prentisiaethau Graddedig ar gael mewn 11 pwnc gwahanol (Apprenticeships.Scot), gan gynnwys Cyfrifeg, Peirianneg Sifil, Rheoli Busnes, Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig a Gwyddor Data. Mae prifysgolion a cholegau’r Alban a llywodraeth yr Alban yn cydweithio i gynyddu mynediad at Brentisiaethau Graddedig yn yr Alban.
Sut bydd Prentisiaeth Raddedig yn datblygu fy ngyrfa?
Mae prentisiaid ar Brentisiaeth Raddedig yn rhoi eu dysgu academaidd ar waith mewn sefyllfaoedd ac amgylcheddau gwaith go iawn. Mae'r cyrsiau hyn yn unigryw i'r Alban, felly bydd graddedigion ar y droed flaen wrth ymuno â’r byd gwaith ledled y DU.
Mae prentisiaid yn cael y gorau o’r ddau fyd – y gallu i ennill cyflog ac ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod gan y diwydiant, yn ogystal â gallu astudio, byw a chymdeithasu ar y campws. Byddwch chi’n treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yn y gweithle, ond bydd amser hefyd i gael ‘profiad o brifysgol’.
Sut mae gwneud cais am Brentisiaeth Raddedig yn yr Alban?
Os hoffech chi ddechrau ar y droed flaen yn eich gyrfa gyda Phrentisiaeth Raddedig, a’ch bod chi’n byw yn yr Alban, ewch i wefan Apprenticeships.scot i gael rhagor o fanylion, astudiaethau achos a chwilio am swyddi gwag.