Facebook Pixel

Prentisiaethau

Mae’n debyg eich bod wedi clywed am grefftau fel gwaith coed neu osod brics, ond mae llawer o rolau eraill nad ydych efallai wedi’u hystyried. Edrychwch isod ar amrywiaeth o rolau sydd ar gael yn y diwydiant:

Ble i ddod o hyd i brentisiaeth adeiladu?

Talentview yw’r lle i bobl ddod o hyd i brentisiaethau adeiladu yn Lloegr. I'r rhai sy'n byw yn yr Alban ewch i wefan Apprenticeship Scots. Dylai unigolion yng Nghymru fynd i wefan llywodraeth Gyrfa Cymru.

Gallwch chwilio am brentisiaeth ar y gwefannau hyn gan ddefnyddio’r ffurflen isod:

Byddwch yn cael eich tywys i un o'r tair gwefan isod i weld prentisiaethau sydd ar gael yn eich gwlad ar gyfer eich term chwilio.

Pa brentisiaethau sydd ar gael ym maes adeiladu?


Pa Lefel Prentisiaeth Alla i Ei Cymryd?

Enw

Lefel addysgol gyfwerth

Prentisiaeth Sylfaen

Llwyddo mewn 5 TGAU gyda graddau 4-9

Prentisiaeth Safonol

Llwyddo mewn 2 bwnc Safon Uwch

Prentisiaeth Uwch

HNC, Gradd sylfaen neu flwyddyn gyntaf Gradd israddedig

Gradd-brentisiaeth

Gradd Anrhydedd lawn

Pam dewis prentisiaeth mewn adeiladu?

Fel prentis, byddwch yn cael cyflog wrth ddysgu, felly gallwch gael cymhwyster diwydiant-benodol heb fod angen benthyciad myfyriwr. Byddwch yn gyflogedig yn llawn amser (fel arfer rhwng 31-40 awr yr wythnos), sy’n cynnwys yr amser rydych yn ei dreulio gyda’ch darparwr hyfforddiant.

Mae prentisiaid yn cael cyflog ac, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol, efallai y bydd ganddynt hawl i rai budd-daliadau hefyd.

Faint gall prentis ei ennill?

Yr isafswm cyflog presennol ar gyfer prentisiaid yw £6.40 yr awr, fel y’i pennir gan y Llywodraeth. Mae hyn yn berthnasol os yw’r prentis o dan 18 oed, neu os yw ym mlwyddyn gyntaf y brentisiaeth, waeth beth fo’i oedran.

A ddylwn i gwblhau prentisiaeth neu fynd i brifysgol?

Cwestiwn da! Mae manteision i gwblhau gradd neu brentisiaeth. Mae gan gyflogwyr barch mawr at y ddau lwybr.

Mae cyrsiau prifysgol sy’n gysylltiedig ag adeiladu yn aml yn canolbwyntio ar astudiaeth ddamcaniaethol, ond mae llawer yn cynnwys profiad ymarferol ar ffurf blwyddyn yn y diwydiant. Os byddwch yn cwblhau prentisiaeth lefel uwch neu radd, bydd eich cymhwyster yn cyfateb i radd israddedig neu radd meistr, ond byddwch wedi cael llawer mwy o brofiad ymarferol.

Prentisiaeth

  • Mae’n cymryd 1 - 5 blwyddyn i’w cwblhau
  • Gallwch ddechrau eich gyrfa’n syth ar ôl gadael yr ysgol
  • Byddwch yn rhannu amser rhwng eich cyflogwr a darparwr hyfforddiant
  • Mae’r pwyslais ar ddysgu sgiliau ymarferol yn ymwneud â rôl benodol
  • Gellir dilyn dros 100 o rolau drwy brentisiaethau, gyda mwy yn cael eu hychwanegu
  • Byddwch yn cael cyflog wrth i chi ddysgu, heb ffioedd dysgu

Y Brifysgol

  • Mae gradd llawn amser yn cymryd 3 - 4 blwyddyn i’w cwblhau
  • Gallwch wneud cais am swyddi ar lefel uwch ar ôl i chi raddio
  • Byddwch yn treulio amser mewn darlithoedd a seminarau neu ar astudio unigol - neu gall fod trwy ddysgu o bell
  • Mae'r pwyslais ar astudio academaidd, er mae nifer o raddau’n ymwneud ag adeiladu’n cynnig blwyddyn mewn diwydiant
  • Gallwch ddewis o filoedd o gyrsiau, a all arwain at yrfa ym maes adeiladu
  • Byddwch yn talu ffioedd dysgu hyd at £9,520 y flwyddyn yn y DU (cywir fel y mae yn 2021).

Sut wyf yn dod o hyd i gyflogwr?

Er mwyn dod yn brentis adeiladu, bydd angen i chi ddod o hyd i gyflogwr a all ddarparu hyfforddiant yn y gwaith. Gallai hyn fod yn fusnes bach neu fawr, yn gwmni lleol, yn aelod o'r teulu neu'n unigolyn hunangyflogedig.

Os nad oes gennych gyflogwr eto, peidiwch â phoeni. Mae yna lawer o ffyrdd i ddod o hyd i rywun sydd eisiau eich cyflogi fel prentis:

  • Gwnewch gais am brentisiaethau yn Nghymru, Lloegr, neu  Yr Alban
  • Cofrestrwch a llwythwch eich CV ar wefannau swyddi fel Indeed neu Totaljobs, lle byddwch hefyd yn gallu trefnu i gael gwybod am swydd sydd ar gael fel hysbysiad trwy e-bost, a gall cyflogwyr hefyd gysylltu â chi'n uniongyrchol.
  • Edrychwch ar wefannau cwmnïau adeiladu’n unionyrchol i wirio’r adran prentisiaethau/swyddi gwag a dilynwch eu sianeli cyfryngau cymdeithasol.
  • Cysylltwch â'ch coleg lleol, darparwr hyfforddiant arbenigol neu asiantaeth rheoli prentisiaethau i gofrestru eich diddordeb oherwydd efallai y gallant eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr.
  • Gofynnwch i'ch ffrindiau, teulu neu gymdogion i weld a oes ganddynt unrhyw brentisiaethau lle maent yn gweithio.

Wrth siarad â chyflogwyr, rhowch wybod iddynt, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, y gallent gael hyd at £12,000 mewn grantiau gan y llywodraeth neu Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) am eich cyflogi. Bydd hyn yn eu helpu i dalu costau eich cyflogi.

Mae cyllid hefyd ar gael drwy'r Lefi Prentisiaethau neu drwy rai cymhellion gan y llywodraeth. Bydd hyn yn eu helpu i dalu costau eich cyflogi.

Beth sy’n digwydd wedi i mi orffen fy mhrentisiaeth? 

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich prentisiaeth adeiladu, byddwch yn cael cymhwyster diwydiant-benodol.

Efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig swydd llawn amser i chi (ar ei strwythur cyflog) neu gallwch drafod y posibilrwydd o symud ymlaen i brentisiaeth lefel uwch gyda nhw. Wrth gwrs, efallai y byddwch yn dewis edrych yn rhywle arall am waith a chael profiad gyda chyflogwr arall.

Os nad yw'r cwmni y gwnaethoch gwblhau eich prentisiaeth gyntaf ag ef yn gallu darparu'r profiad gwaith cywir i chi ar gyfer cymhwyster lefel uwch, efallai y bydd angen i chi edrych yn rhywle arall i barhau â'ch hyfforddiant.

What happens when I finish my apprenticeship?

Straeon Prentisiaid Go Iawn

“Mae cymaint o wahanol lwybrau heblaw prifysgol llawn amser i gyrraedd yr yrfa rydych chi ei heisiau. I mi, prentisiaeth oedd honno"

Bianca, Peiriannydd Adeiladu

Clywch straeon go iawn gan brentisiaid adeiladu go iawn...

Dyluniwyd y wefan gan S8080