Chwilotwr Gyrfa
Tarwch olwg ar ein chwilotwr gyrfa, i weld y gwahanol rolau ym maes Adeiladu
Ydych chi wedi gweld rolau prentisiaeth yn cael eu hysbysebu ar wahanol lefelau ond ddim yn siŵr beth mae hynny’n ei olygu? Mae'r erthygl hon yn dadansoddi pob lefel ac yn esbonio beth sydd ei angen arnoch i wneud cais amdanynt. Byddwn hefyd yn trafod y gwahanol lwybrau y gallech eu dilyn wrth i chi symud ymlaen yn eich prentisiaeth a ble i fynd nesaf.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn Am Adeiladu a gallwn ni helpu. Neu, os ydych chi’n barod, gwnewch gais am brentisiaeth a dechreuwch ar eich gyrfa ddelfrydol ym maes adeiladu.
Mae lefelau prentisiaethau’n gweithio ychydig yn wahanol i lefelau academaidd arferol. Yn y byd academaidd, byddwch yn astudio TGAU, Safon Uwch neu raddau baglor, bydd lefelau prentisiaethau’n cael eu graddio yn ôl:
Mae gan bob un rif lefel neu rifau lefelau cyfatebol. Po uchaf yw’r rhif, yr anoddaf yw’r cymhwyster.
Dyma ddadansoddiad o bob prentisiaeth, ei lefel, a’r hyn mae’n cyfateb iddo o ran cymwysterau academaidd:
Enw | Lefel | Lefel Addysgol Cyfatebol |
---|---|---|
Canolradd |
2 |
TGAU |
Uwch |
3 |
Safon Uwch |
Uwch |
4,5, 6 a 7 |
Gradd sylfaen ac uwch |
Gradd |
6 a 7 |
Gradd Faglor neu Feistr |
Efallai eich bod hefyd yn meddwl tybed beth mae cymwysterau fel NVQ yn cyfateb iddynt. Fel arfer, bydd y rhan fwyaf o brentisiaethau’n integreiddio cymhwyster NVQ. Yn aml, bydd prentisiaid canolradd yn gweithio tuag at NVQ Lefel 2, bydd uwch brentisiaethau yn gweithio tuag at NVQ Lefel 3, a bydd prentisiaethau uwch yn gweithio tuag at NVQ Lefel 4.
Weithiau, mae lefelau cymwysterau ychydig yn wahanol mewn gwledydd eraill. Gallwch weld beth mae lefel cymhwyster yn ei olygu yn y DU ac yng ngweddill Ewrop yma.
Bydd dewis y brentisiaeth orau i chi yn dibynnu ar eich profiad blaenorol, lefel eich addysg, a'r math o waith rydych chi'n gweld eich hun yn ei wneud ym maes adeiladu. Efallai eich bod yn awyddus i newid gyrfa a bod gennych eisoes gymwysterau blaenorol neu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eich helpu i ddechrau ar brentisiaeth ganolradd neu brentisiaeth uwch yn syth. Neu, efallai eich bod yn dechrau’n syth o’r ysgol.
Mae gennych lawer o opsiynau i’w hystyried, ond peidiwch â phoeni. Mae gan Am Adeiladu ganllaw defnyddiol ar y gwahanol ffyrdd o ddechrau adeiladu, yn ogystal â’r holl fanteision gwych o ddilyn prentisiaeth.
Mae prentisiaeth yn cymryd o leiaf un flwyddyn ond gall gymryd hyd at chwe blynedd i’w chwblhau, yn dibynnu ar ei lefel. Gall rhai ffactorau ddylanwadu ar faint o amser mae prentisiaeth yn ei chymryd, fel eich gyrfa neu brofiad blaenorol, neu’r math o rôl rydych chi’n dilyn prentisiaeth ar ei chyfer.
Prentisiaethau Canolradd (Lefel 2), mae prentisiaethau’n cyfateb i bum cymhwyster TGAU. Mae fel arfer yn cymryd rhwng 12 a 18 mis i gwblhau prentisiaethau canolradd; wedi’u rhannu rhwng 80% yn y gwaith ac 20% o astudio, er bod hyn yn gallu amrywio.
Byddwch yn astudio tuag at gymwysterau ar yr un lefel â phum cymhwyster TGAU, fel NVQ Lefel 2, a chymhwyster sy’n seiliedig ar wybodaeth fel Diploma a Thystysgrif BTEC, ond bydd hyn yn benodol i’r sector a’r swydd rydych chi’n brentis ynddi.
Mae’r gofynion mynediad ar gyfer prentisiaethau canolradd yn amrywio. Bydd rhai cyflogwyr yn gofyn am ddau neu fwy o gymwysterau TGAU, ond efallai na fydd angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch chi. Os nad oes gennych chi TGAU mewn Saesneg a mathemateg, fel arfer bydd angen i chi ddilyn cymwysterau yn y pynciau hyn fel rhan o'r brentisiaeth.
Ar ôl cwblhau Lefel 2, gallwch fynd ymlaen i gwblhau Uwch Brentisiaeth a Phrentisiaethau Uwch. Fodd bynnag, os nad oes angen rhain ar gyfer y rôl rydych chi’n chwilio amdani, gallwch fynd ymlaen i weithio a chael mwy o brofiad ymarferol. Efallai hefyd y bydd mathau eraill o gynlluniau hyfforddi neu fentora ar gael yn eich man gwaith, yn hytrach nag astudio ffurfiol.
Mae Uwch Brentisiaethau (Lefel 3) yn cyfateb i lwyddo mewn dau bwnc Safon Uwch. Os oes gennych gymhwyster Lefel 3 yn Beth yw Uwch Brentisiaeth? barod, gan gynnwys Safon Uwch, mae’r Uwch Brentisiaeth yn ffordd wych o ennill sgiliau ymarferol yn y gwaith a phrofiad mewn swydd a sector penodol.
Byddwch yn cymysgu eich gwaith gydag amser astudio. Efallai y bydd eich cyflogwr yn trefnu bod hyn yn digwydd am un diwrnod yr wythnos, neu'n gosod y cyfnodau astudio mewn blociau. Byddwch yn cwblhau eich prentisiaeth o fewn dwy i bedair blynedd.
Mae’r gofynion mynediad yn amrywio, ond fel arfer bydd angen o leiaf pum TGAU arnoch, gyda graddau 9 i 4/A* i C, gan gynnwys Saesneg a mathemateg.
Gallwch ddewis naill ai fynd ymlaen i gwblhau Prentisiaeth Uwch, neu ddechrau rhoi eich sgiliau a'ch cymhwyster newydd ar waith. Nid oes angen astudio pellach ar gyfer pob rôl, neu efallai y byddai’n well gennych barhau i gael profiad ymarferol am gyfnod cyn cwblhau cymhwyster arall.
Gall Prentisiaethau Uwch (Lefel 4) fod yn; NVQ Lefel 4, Diploma Genedlaethol Uwch (HND) neu’n radd sylfaen. Mae rhai yn cynnig y cyfle i symud ymlaen i Lefel 7, lefel gradd ôl-radd.
Gall gymryd hyd at bum mlynedd i gwblhau Prentisiaeth Uwch, a bydd swydd barhaol yn aros amdanoch ar ôl cwblhau llawer o brentisiaethau uwch. Os na fydd y cwmni’n eich cyflogi ar ôl y brentisiaeth, neu os byddwch yn dewis chwilio yn rhywle arall, byddwch yn dal i fod yn ymgeisydd cyflogadwy iawn.
Gall gofynion mynediad ar gyfer prentisiaeth uwch gynnwys o leiaf pum TGAU gradd A* - C (9 – 4 ar y system raddio newydd), gan gynnwys Saesneg a mathemateg.
Efallai y bydd cyflogwyr hefyd yn gofyn am gymwysterau Lefel 3, gan gynnwys Safon Uwch, NVQ, neu BTEC. Mae rhai cyflogwyr yn disgwyl eich bod wedi astudio pynciau sy'n berthnasol i'r brentisiaeth, fel gwyddoniaeth neu beirianneg.
Ar ôl Prentisiaeth Uwch, gallwch fynd ymlaen i gwblhau Gradd-brentisiaeth. Mae'r rhain yn debyg i Brentisiaethau Uwch, ond gallwch ddefnyddio'r rhain i gael gradd baglor lawn (Lefel 6) neu radd meistr (Lefel 7).
Fel gyda’r holl brentisiaethau eraill, rydych yn gweithio ac yn astudio, ond byddwch yn astudio mewn prifysgol y tro hwn. Mae’n cymryd tua thair i chwe blynedd i gwblhau Gradd-brentisiaeth yn dibynnu ar lefel y cwrs. Ar hyn o bryd, dim ond yng Nghymru a Lloegr y maen nhw ar gael, er y gellir gwneud ceisiadau o bob rhan o'r DU.
Mae Prentisiaethau Adeiladu yn ffordd wych o ymuno â’r diwydiant. Mae gennym yr holl wybodaeth yma i chi ddechrau arni, o ba rolau sydd ar gael, i gwis personoliaeth. Bydd y rhain yn eich helpu i ddod o hyd i’r math gorau o rolau sy’n addas i chi a’r ffordd rydych chi’n hoffi gweithio.