Dod o hyd i’r rôl i chi
Dros 16? Rhowch gynnig ar ddefnyddio ein Chwilotwr Gyrfa i archwilio’r rolau adeiladu sydd fwyaf addas i chi yn seiliedig ar eich diddordebau, eich sgiliau a’ch cymwysterau.
Mae prentisiaethau’n rhoi cyfle i chi ddysgu sut mae gwneud swydd benodol...tra byddwch yn y swydd! Mae miloedd o brentisiaethau ar gael, i’ch helpu i hyfforddi ar gyfer dros 100 o wahanol rolau yn y diwydiant adeiladu.
Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am seiri coed, bricwyr a phenseiri, ond mae llawer o brentisiaethau hefyd ar gyfer swyddi nad ydych efallai wedi’u hystyried. Ydych chi erioed wedi meddwl am fod yn simneiwr, yn arbenigwr cadwraeth, yn archeolegydd, neu’n beiriannydd twnelu? Gallwch hyfforddi ar gyfer y swyddi hyn a llawer mwy, fel prentis adeiladu.
Gan fod prentisiaethau’n cael eu cynnig gan gyflogwyr, mae pob cyfle yn gwbl unigryw. Felly ni waeth a ydych chi’n llunio cynlluniau safle, yn prynu tir, yn goruchwylio prosiectau drilio neu’n gweithio gyda pheiriannau trwm, eich profiad chi fydd hwn.
Roedd yn braf cael defnyddio fy sgiliau artistig i ddatrys problemau.
Lexxi, Peiriannydd CAD