Facebook Pixel

Prentisiaethau Gosod Brics

Beth yw Gosod Brics?

Mae gosodwyr brics yn broffesiwn hanfodol yn y diwydiant adeiladu, sy’n gyfrifol am osod brics, blociau concrid a cherrig wedi’u torri ymlaen llaw mewn morter. Mae gosodwyr brics yn adeiladu, yn ymestyn ac yn atgyweirio adeiladau domestig a masnachol, a strwythurau eraill fel sylfeini, waliau, simneiau neu waith maen addurnol. Mae cyrraedd diwedd prosiect a gallu dweud ‘Fi wnaeth adeiladu hwn’ yn cynnig ymdeimlad o gyflawniad go iawn i osodwyr brics.

Yma byddwn yn edrych ar beth mae prentisiaethau gosod brics yn ei gynnig, yr amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael, y sgiliau a’r profiad maen nhw’n caniatáu i chi eu datblygu, cyfleoedd datblygu gyrfa yn y dyfodol a llawer mwy.

bricklayer laying bricks in wall

Sut mae prentisiaethau gosod brics yn gweithio?

Fel arfer bydd eich amser fel prentis gosod brics yn cael ei rannu rhwng eich cyflogwr a’ch darparwr hyfforddiant (fel coleg), gydag o leiaf 20% o’ch oriau gwaith arferol yn cael eu treulio ar hyfforddiant. Bydd eich darparwr hyfforddiant yn dweud wrthych chi pryd a ble fydd eich hyfforddiant.

Mae profiadau o brentisiaethau gosod brics yn amrywio yn dibynnu ar y cwmni rydych chi’n gweithio iddo. Bydd gweithio gyda chwmni sy’n adeiladu cartrefi o’r newydd yn arwain at brofiad gwahanol i weithio gyda chwmni sy’n canolbwyntio ar waith adnewyddu. Waeth ble rydych chi’n cwblhau eich prentisiaeth gosod brics, byddwch yn dysgu’r un sgiliau ac ymddygiad sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol wrth feithrin gwybodaeth am y diwydiant adeiladu ehangach.

Pa mor hir yw prentisiaethau gosod brics?

Mae prentisiaethau gosod brics fel arfer yn cymryd rhwng 24 a 30 mis, yn dibynnu ar lefel y cymhwyster, y darparwr hyfforddiant neu’r cyflogwr.

Faint o gyflog fyddwch chi’n ei gael fel prentis gosod brics?

Fel prentis gosod brics, mae gennych hawl i gael eich talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol – mae lefelau hyn yn dibynnu ar eich oedran.

Mae prentis gosod brics yn cael ei dalu am y canlynol:

  • Eich oriau gwaith arferol
  • Hyfforddiant sy’n rhan o’ch prentisiaeth
  • Astudio tuag at gymwysterau mathemateg a Saesneg os ydyn nhw’n rhan o’ch prentisiaeth

Hefyd, mae gennych hawl i’r isafswm lwfans gwyliau o 20 diwrnod y flwyddyn ynghyd â Gwyliau Banc.

 

Pa fathau o brentisiaethau gosod brics sydd ar gael?

Prentisiaeth Lefel 2 Gosod Brics

Y brentisiaeth Lefel 2 mewn gosod brics yw’r cymhwyster safonol y mae cyflogwyr yn ei gydnabod yn genedlaethol ac yn chwilio amdano.

  • Mae’n cymryd rhwng 24 a 30 mis i’w gwblhau, ond os ydych chi wedi cwblhau cyrsiau gosod brics o’r blaen neu os oes gennych chi brofiad perthnasol, gall hyn fod yn llai
  • Os nad ydych chi wedi cyflawni hyn yn barod, bydd angen i chi gwblhau Lefel 1 mewn Mathemateg a Saesneg (mae modd gwneud hyn yn ystod eich prentisiaeth), a gwneud Lefel 2 hefyd cyn i chi gwblhau eich rhaglen
  • Mae cwblhau’r brentisiaeth gosod brics yn golygu y byddwch yn bodloni’r gofynion ar gyfer cerdyn CSCS i weithio’n ddiogel ar safle.

 

Prentisiaeth Lefel 3 Gosod Brics

Mae’n bosibl datblygu eich sgiliau ymhellach a dilyn prentisiaeth lefel 3 mewn gosod brics:

  • Yn gyntaf, rhaid i chi fod wedi cwblhau prentisiaeth gosod brics Lefel 2
  • Mae'r cwrs fel arfer yn para 24 mis
  • Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn cael Diploma Uwch mewn Gosod Brics ac NVQ Lefel 3 mewn gosod brics

Mae Lefel 3 (neu uwch) yn cyfateb i ddwy radd Safon Uwch, ac mae llawer o osodwyr brics dan hyfforddiant sy’n cyrraedd y lefel hon yn mynd ymlaen i arbenigo mewn maes penodol, fel gwaith brics treftadaeth, neu hyd yn oed fynd i’r brifysgol.

Prentisiaeth Fodern Lefel 6 SCQF mewn Gosod Brics

Mae rhaglen brentisiaeth Gosod Brics Lefel 6 yr Alban yn cyfateb i’r brentisiaeth Lefel 2 mewn gosod brics yn Lloegr.

Adeiladu Lefel 3 mewn Gosod Brics

Mae’r cymhwyster Lefel 3 Adeiladu mewn Gosod Brics (neu Lefel 3 Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu) yng Nghymru yn cyfateb i’r brentisiaeth gosod brics Lefel 2 yn Lloegr. 

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu yn ystod prentisiaeth gosod brics?

Mae llawer mwy i fywyd fel briciwr na gosod brics – gadewch i ni edrych ar ba sgiliau hanfodol eraill y byddwch yn eu hennill yn ystod eich prentisiaeth gosod brics: 

  • Peryglon iechyd a diogelwch, rheoliadau a deddfwriaeth gyfredol, a phwysigrwydd datganiadau dull. Codau ymarfer ac arferion gweithio diogel, gan gynnwys ymwybyddiaeth o asbestos a defnyddio cyfarpar diogelu personol yn gywir.
  • Egwyddorion gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid.
  • Gwahanol ddulliau cyfathrebu.
  • Gwahanol gyfnodau, mathau o ddulliau adeiladu, ystyriaethau inswleiddio, cynaliadwyedd, rheoli cyfleusterau, tân, lleithder a diogelu’r aer.
  • Pwysigrwydd ac ystyriaethau rhinweddau thermol, aerglosrwydd ac awyru mewn adeiladau.
  • Mathau o ddeunyddiau, eu defnyddiau a’u gwerth. Ymwybyddiaeth o gostau ac ystyriaethau amgylcheddol/ymwybyddiaeth o wastraff e.e. rheoli dŵr wyneb ac ailgylchu.
  • Dulliau adeiladu modern, technoleg adeiladu cyflym, blociau amgen, gwaith maen, systemau cladin dur a phren.
  • Gosod allan ac adeiladu gwaith brics, gan gynnwys bwâu cymhleth a gwaith brics o’u hamgylch, gwaith brics crwm ar gynllun, gwaith brics ceugrwm ac amgrwm, gwaith brics ôl-ogwydd, nodweddion addurnol cymhleth, conglfeini onglau aflem/llem a gwaith brics wedi'i atgyfnerthu.
  • Dewis y deunyddiau a’r adnoddau sydd eu hangen i osod ac adeiladu lleoedd tân a simneiau gan ddefnyddio deunyddiau fel aelwydydd, plinthiau, leininau ffliwiau, potiau simnai a dulliau modern eraill.

 

Y cymwysterau sydd eu hangen i osod brics

I fod yn friciwr, gallech:

  • Gweithio tuag at NVQ Lefel 2 mewn Galwedigaethau Trywel (Adeiladu).
  • Cwblhau Prentisiaeth Lefel 2 Gosod Brics.

Bydd angen i chi gael 2 TGAU neu fwy ar raddau 9-3 (A* i D) neu gymwysterau cyfatebol.

I fod yn friciwr, gallech:

  • Prentisiaeth Fodern Lefel 6 SCQF Gosod Brics.

Bydd angen 2 neu fwy o gymwysterau 5 yr Alban arnoch ar raddau A i D.

I fod yn friciwr, gallech:

  • Gweithio tuag at NVQ Lefel 2 mewn Gosod Brics.
  • Cwblhau Prentisiaeth Fodern Lefel 3 mewn Gosod Brics. 

Bydd angen i chi gael 2 TGAU neu fwy ar raddau 9-3 (A* i D) neu gymwysterau cyfatebol.

Bydd pob lefel o brentisiaeth yn gofyn i brentisiaid weithio ar safleoedd adeiladu, lle bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch.

 

Y sgiliau sydd eu hangen i osod brics

Mae gosodwyr brics yn dda gyda’u dwylo, mae angen iddynt allu gweithio’n dda gydag eraill a rhoi sylw rhagorol i fanylion. Rhaid i chi fwynhau bod y tu allan gan fod gosodwyr brics yn gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd.  

 

Y rhagolygon ar gyfer y dyfodol a chamu ymlaen yn eich gyrfa

Mae gan y rheini sydd wedi cwblhau prentisiaeth gosod brics ddyfodol disglair o’u blaenau. Mae galw mawr am osodwyr brics cymwys yn y diwydiant adeiladu, felly bydd galw mawr amdanoch gan gyflogwyr. P’un ai a ydych chi eisiau gweithio ar ddatblygiadau tai mawr, gwaith adnewyddu masnachol neu waith brics treftadaeth – bydd prentisiaeth gosod brics yn agor llawer o ddrysau.

Hefyd, mae gosod brics yn cynnig cyflog cyfartalog o £38,000 yn y DU, gyda llawer o osodwyr brics profiadol yn ennill mwy na hyn. 

Mae llawer o osodwyr brics cymwys yn mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain ym maes gosod brics. Neu maen nhw’n dod yn oruchwyliwr safle i hyfforddi prentisiaid gosod brics eraill neu’n arbenigo mewn adrannau eraill fel gwaith maen.

 

Sut i wneud cais am brentisiaeth gosod brics

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am brentisiaeth gosod brics, un o’r pethau gorau i’w wneud yw chwilio am swyddi gwag sy’n cael eu cynnig gan gwmnïau adeiladu lleol. Chwiliwch ar wefannau swyddi a defnyddiwch wasanaeth prentisiaethau y llywodraeth. Os ydych chi wedi cael rhywfaint o brofiad gwaith blaenorol mewn cwmni, gofynnwch a yw'n cyflogi unrhyw brentisiaid newydd. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am unrhyw rôl brentisiaeth, felly bydd angen i chi lunio CV, ysgrifennu llythyr eglurhaol a mynd i gyfweliad

Rhagor o wybodaeth am rôl gosodwr brics

Ble i ddod o hyd i brentisiaethau gosod brics?

Dewiswch un o’r safleoedd postio swyddi isod i ddod o hyd i brentisiaethau gosod brics yn Lloegr, Cymru a’r Alban.

Dyluniwyd y wefan gan S8080