Facebook Pixel

Prentisiaethau Teilsio

Beth yw Teilsio Waliau, Lloriau a Thoeau?

Bydd teilswyr waliau a lloriau yn gweithio ar safleoedd adeiladu mewn prosiectau adeiladu preswyl a masnachol newydd, ac ar gyfer cwsmeriaid preifat, yn gwneud addasiadau neu’n uwchraddio ystafelloedd ymolchi neu geginau. Mae teilswyr toeau neu weithwyr toi yn gweithio y tu allan yn bennaf, gan deilsio toeau cyflawn, neu arbenigo mewn meysydd fel gorchuddion neu gladin. Mae gweithwyr toi yn gosod teils ac yn trwsio toeau. 

Prentisiaethau yw un o’r llwybrau mwyaf poblogaidd at yrfa teilsio, ond beth ddylech chi ei ddisgwyl o brentisiaeth teilsio?  

A floor tiler laying tiles on site

Sut mae prentisiaethau teilsio yn gweithio?

Bydd prentisiaethau teilsio waliau a lloriau a phrentisiaethau teilsio toi yn rhoi’r sgiliau hanfodol i chi weithio fel teilsiwr. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer penodol, gweithio gyda gwahanol fathau o deils, paratoi arwynebau, torri teils ac arsylwi iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd gwaith.

Pa mor hir yw prentisiaethau teilsio?

Bydd hyd cyrsiau prentisiaeth teilsio yn amrywio, yn dibynnu ar faint o amser mae prentis yn ei roi i’r hyfforddiant. Yn ddelfrydol, mae prentisiaid yn treulio tua 20% (neu ddiwrnod bob wythnos) gyda’u darparwr hyfforddiant. Cynigir rhai cyrsiau mewn canolfannau hyfforddi lle gellir eu cwblhau mewn cyfnod o 6 wythnos o hyfforddiant dwys.

At ei gilydd, ystyrir mai’r rhaglenni prentisiaeth NVQ Lefel 2 yw’r prif lwybrau tuag at yrfa broffesiynol fel teilsiwr waliau a lloriau a theilsiwr toi. Bydd y cymhwyster llechi a theils to yn cymryd tua 24 mis i’w gwblhau, a bydd y brentisiaeth teilsio waliau a lloriau yn para 30-36 mis.

Faint o gyflog fydda i’n ei gael fel prentis teilsio?

Mae teilswyr waliau, lloriau a thoi sydd newydd gael eu hyfforddi yn ennill tua £17,000-£20,000. Gall teilswyr profiadol ennill dros £30,000.

 

 

Pa fathau o brentisiaethau teilsio sydd ar gael?

Dyma’r prif gymwysterau prentisiaeth NVQ teilsio waliau a lloriau, llechi toi a theilsio yn Lloegr: 

  • Diploma Lefel 1 mewn Teilsio Waliau a Lloriau 
  • Tystysgrif Lefel 1 mewn Teilsio Waliau a Lloriau 
  • Diploma Lefel 2 mewn Teilsio Waliau a Lloriau 
  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Teilsio Waliau a Lloriau ar gyfer Cynnal a Chadw Eiddo 
  • Diploma Adeiladu Lefel 2 mewn Gwaith Toi - Llechi a Theils
  • Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Toi
  • Diploma Lefel 3 mewn Teilsio Waliau a Lloriau

Yn yr Alban, dyma’r opsiynau prentisiaeth ar gyfer teilswyr waliau a lloriau, llechi a theils:

  • Prentisiaeth Fodern mewn Teilsio Waliau a Lloriau (SVQ Lefel 3)
  • Prentisiaeth Fodern mewn Toi
  • Prentisiaeth Fodern mewn Arbenigwr Adeiladu/Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 5 SCQF)

Yng Nghymru, gall teilswyr waliau, lloriau a thoi ddilyn y prentisiaethau canlynol:

  • Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu
  • Cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu
  • Adeiladu Lefel 3 – Teilsio Waliau a Lloriau
  • Adeiladu Lefel 3 – Gwaith Toi - Llechi a Theils

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu yn ystod prentisiaeth teilsio?

Mae’n amlwg y bydd gwahaniaethau mawr rhwng prentisiaeth teilsio waliau a lloriau, a phrentisiaeth teilsio a llechi toi, ond dyma rai o’r agweddau sylfaenol a drafodir:  

  • Gweithio’n ddiogel 
  • Dysgu am ddulliau adeiladu a thechnoleg adeiladu
  • Cyfrifo faint o deils a deunyddiau sydd eu hangen 
  • Dulliau paratoi cyffredin 
  • Defnyddio offer a chyfarpar teilsio a thoi 
  • Sut mae defnyddio teils plaen a theils sy’n cydblethu, llechi naturiol a deunyddiau eraill i orchuddio cafnau, ymylon main ac ardaloedd toi cyffredinol
  • Mesur
  • Technegau torri teils 
  • Dulliau gosod

 

Y cymwysterau sydd eu hangen i fod yn deilsiwr waliau, lloriau neu doi

Nid oes angen unrhyw bynciau penodol ar gyfer prentisiaethau mewn teilsio waliau a lloriau yn Lloegr. Fodd bynnag, mae cyflogwyr bob amser yn gwerthfawrogi Saesneg a Mathemateg yn fawr. Mae mathemateg yn ddefnyddiol i deilswyr wrth gyfrifo faint o deils sydd eu hangen.
Ar gyfer mynediad ar y cwrs teilsio Lefel 1, fel arfer bydd angen i brentisiaid gael o leiaf dwy radd TGAU 3 i 1 (D i G). Mae'r Diploma a'r Dystysgrif Lefel 2 yn gofyn am ddwy radd TGAU 9 i 3 (A* i D), neu gwblhau Lefel 1.

Yn yr Alban, cynigir prentisiaethau modern ym maes teilsio waliau a lloriau. Mae’r rhain yn arwain at gymhwyster Lefel 3 ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol yn y Gwaith, sy’n cyfateb i NVQ Lefel 3. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol i ddechrau prentisiaeth fodern mewn teilsio waliau a lloriau.

I gael eich derbyn ar brentisiaeth ganolradd teilsio waliau a lloriau yng Nghymru, dylai ymgeiswyr feddu ar bum gradd TGAU 9 i 4 (A* i C). Ond bydd y gofynion mynediad yn amrywio ar draws darparwyr, ac nid oes angen unrhyw gymwysterau ar gyfer rhai rhaglenni prentisiaeth teilsio yng Nghymru.

Bydd pob lefel yn gofyn i brentisiaid weithio ar safleoedd adeiladu, lle bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch.

Y sgiliau sydd eu hangen i fod yn deilsiwr waliau, lloriau neu doi

Mae angen i deilsiwr o bob math roi sylw da i fanylion, bod â sgiliau ymarferol rhagorol a lefel resymol o rifedd i gyfrifo nifer y teils sydd eu hangen ar gyfer swyddi. Mae angen i dowyr beidio â bod ofn uchder, mwynhau gweithio yn yr awyr agored a bod â lefel resymol o ffitrwydd corfforol. Mae gallu gweithio’n dda gydag eraill yn hanfodol, gan y byddwch fel arfer yn gweithio ochr yn ochr â chrefftwyr eraill. 

Y rhagolygon ar gyfer y dyfodol a chamu ymlaen yn eich gyrfa

Teilsio a thoi yw un o’r crefftau sy’n cael eu cyflogi fwyaf yn y diwydiant adeiladu, felly mae digon o waith ar gael bob amser. Gall uwch deilswyr waliau a lloriau symud ymlaen i fod yn oruchwylwyr safle, clercod gwaith, amcangyfrifwyr neu reolwyr contractau, neu weithio fel hyfforddwyr neu aseswyr ar gyrsiau teilsio. Mae teilswyr yn aml yn dechrau eu busnesau eu hunain. 

 

Sut i wneud cais am brentisiaeth teilsio

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am brentisiaeth teilsio , un o’r pethau gorau i’w wneud yw chwilio am swyddi gwag sy’n cael eu cynnig gan gwmnïau adeiladu neu gwmnïau teilsio lleol. Chwiliwch ar wefannau swyddi, neu os ydych chi wedi cael rhywfaint o brofiad gwaith blaenorol mewn cwmni, gofynnwch a yw'n cyflogi unrhyw brentisiaid newydd. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am unrhyw rôl brentisiaeth, felly bydd angen i chi lunio CV,a mynd i gyfweliad

Rhagor o wybodaeth am rôl teilsiwr

Ble i ddod o hyd i brentisiaethau teilsio?

Dewiswch un o’r safleoedd postio swyddi isod i ddod o hyd i brentisiaethau teilsio yn Lloegr, Cymru a’r Alban. 

Dyluniwyd y wefan gan S8080