Facebook Pixel

Prentisiaethau Tyrbinau Gwynt

Beth yw Peirianneg Tyrbinau Gwynt?

Mewn adroddiad diweddar1, amcangyfrifwyd bod y DU angen 400,000 o swyddi newydd yn y diwydiant ynni er mwyn i’r wlad ddod yn sero net erbyn 2050. Mae sero net yn golygu bod faint o nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu cynhyrchu yr un fath neu’n is na’r allyriadau sy’n cael eu tynnu o atmosffer y Ddaear. 

Rhagwelir y bydd angen 60,000 o’r swyddi hynny mewn ffermydd gwynt ar y tir ac ar y môr, gan fod mwy a mwy o’n trydan yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Mae sawl ffordd o ddod yn beiriannydd tyrbinau gwynt, ond beth mae prentisiaeth tyrbinau gwynt yn ei olygu? 

Workers planning job on wind turbine site

Sut mae prentisiaethau tyrbinau gwynt yn gweithio?

Mae peirianwyr tyrbinau gwynt yn cynllunio, yn dylunio ac yn goruchwylio’r gwaith o adeiladu gorsafoedd pŵer a gynhyrchir gan wynt. Maent yn dadansoddi’r lleoliadau gorau ar gyfer safleoedd, yn ymchwilio ac yn dylunio ffermydd gwynt newydd, yn goruchwylio rhaglenni cynhyrchu ar gyfer safleoedd newydd, yn rheoli technegwyr a gweithwyr safle, ac yn dylunio a dewis offer addas. 

Mae technegwyr tyrbinau gwynt yn profi ac yn gosod tyrau tyrbinau gwynt ar safleoedd ar y tir ac ar y môr. Mae technegwyr yn cynnal archwiliadau cynnal a chadw ac yn gwneud gwaith atgyweirio os oes angen. Mae gyrfa mewn peirianneg tyrbinau gwynt fel arfer yn dechrau gyda rôl fel technegydd.   

Mae nifer o gwmnïau ynni, fel RWE, Rampion and Ørsted, yn rhedeg rhaglenni prentisiaeth tyrbinau gwynt. Prentisiaethau Lefel 3 neu brentisiaethau Uwch yw’r rhain, felly maen nhw’n agored i ymgeiswyr 16 oed a hŷn sydd wedi pasio pum gradd TGAU 9-4 (A*-C). 

Pa mor hir yw prentisiaethau tyrbinau gwynt?

Yn gyffredinol, mae prentisiaethau technegwyr tyrbinau gwynt yn cymryd tair blynedd i’w cwblhau.  

Faint o gyflog fydda i’n ei gael fel prentis tyrbinau gwynt?

Bydd y cyflogau y gall prentisiaid sy’n dechnegwyr tyrbinau gwynt eu hennill yn amrywio o gynllun i gynllun. Mae rhai cwmnïau, fel RWE, yn gweithredu graddfa gyflog haenog felly wrth i brentisiaid fynd ati i gyflawni bob blwyddyn o’u rhaglen hyfforddi, byddant yn ennill mwy. Ar hyn o bryd, dylai prentis tyrbin gwynt blwyddyn olaf ddisgwyl ennill oddeutu £20,000-£23,000. 

 

Pa fathau o brentisiaethau tyrbinau gwynt sydd ar gael?

I fod yn beiriannydd tyrbinau gwynt, gallech chi gwblhau NVQ Lefel 3 mewn Peirianneg Pŵer Trydanol - Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt, neu Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt. Mae’r rhain ar gael gyda nifer o gwmnïau ynni adnewyddadwy. Neu, gallech ddilyn gradd-brentisiaeth mewn Peirianneg Niwclear neu Bŵer.

Mae cyfleoedd ledled Lloegr i ddarpar brentisiaid tyrbinau gwynt. Mae ffermydd Ørsted ar y môr yn Grimsby a Barrow-in-Furness yn cynnig prentisiaeth 3 blynedd i dechnegwyr tyrbinau gwynt.

Y Brentisiaeth Fodern mewn Gweithredu a Chynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt yw’r hyn sy’n cyfateb yn yr Alban i’r brentisiaeth NVQ Lefel 3 yn Lloegr. Mae’n cael ei gynnig drwy sawl fferm wynt ar y tir yn Ucheldir yr Alban.

Mae prentisiaethau tyrbinau gwynt yn cael eu cynnig yng Nghymru drwy gyfleuster hyfforddi pwrpasol RWE yng Ngholeg Llandrillo, Llandrillo yn Rhos, Gogledd Cymru.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu yn ystod prentisiaeth tyrbinau gwynt?

Bydd pob cynllun prentisiaeth yn amrywio o gwmni i gwmni, ond fel arfer bydd yn cynnwys: 

  • Gweithio gyda thechnegwyr tyrbinau gwynt arbenigol
  • Dysgu sut mae cynnal a chadw tyrbinau gwynt a’u gwasanaethu 
  • Agweddau technegol ar weithrediad tyrbinau gwynt
  • Protocolau iechyd a diogelwch 
  • Dysgu sut mae defnyddio offer mecanyddol a thrydanol arbenigol

 

Y cymwysterau sydd eu hangen i fod yn beiriannydd tyrbinau gwynt

Mae rhaglenni prentisiaeth tyrbinau gwynt fel arfer yn gofyn am o leiaf bum gradd TGAU 9 i 4 (A*-C). Nid oes rhaglenni gradd penodol a fyddai’n hwyluso mynediad i beirianneg tyrbinau gwynt, ond gellid cyfuno cyrsiau mewn gwyddorau’r ddaear, peirianneg ynni, peirianneg amgylcheddol neu ynni adnewyddadwy â phrofiad gwaith perthnasol.

Fel arfer, mae rhaglenni prentisiaeth tyrbinau gwynt yn yr Alban yn gofyn am basio o leiaf 5 gradd A-C o gymwysterau cenedlaethol yr Alban. 

Mae rhaglenni prentisiaeth tyrbinau gwynt yng Nghymru fel arfer yn gofyn am o leiaf bum gradd TGAU 9 i 4 (A*-C).

Y rhagolygon ar gyfer y dyfodol a chamu ymlaen yn eich gyrfa

Gan fod cymaint o alw am ynni adnewyddadwy yn y dyfodol mae galw enfawr am weithwyr proffesiynol hyfforddedig yn y sector hwn. Gall peirianwyr tyrbinau gwynt helpu’r DU i gyflawni ei nodau Sero Net, felly mae’n yrfa sydd â photensial a chyfleoedd sylweddol i symud ymlaen. Mae lle i beirianwyr tyrbinau gwynt profiadol ddod yn dechnegwyr, rheolwyr gweithrediadau a chynnal a chadw awdurdodedig neu beirianwyr systemau rheoli.

Sut i wneud cais am brentisiaeth tyrbinau gwynt?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am brentisiaeth technegydd tyrbinau gwynt, mae’n well cysylltu â’r cwmni unigol sy’n gweithredu’r cynllun. Yn ogystal â’r rhai a nodwyd uchod, mae cwmnïau fel EDF Renewables a Triton Knoll hefyd yn rhedeg rhaglenni prentisiaeth ar gyfer technegwyr tyrbinau gwynt. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am unrhyw rôl brentisiaeth, felly bydd angen i chi lunio CV, ysgrifennu llythyr eglurhaol a mynd i gyfweliad

[1] Ffynhonnell: Adroddiad Adeiladu’r Gweithlu Ynni Sero Net, a gyhoeddwyd gan y Grid Cenedlaethol, 2020

Wind Turbine Apprenticeships: A Guide

Find out more about the role of a wind turbine apprentice

You could:

Ble i ddod o hyd i brentisiaethau tyrbinau gwynt

Dewiswch un o’r safleoedd postio swyddi isod i ddod o hyd i brentisiaethau tyrbinau gwynt yn Lloegr, Cymru a’r Alban. 

Dyluniwyd y wefan gan S8080