Facebook Pixel

Amcangyfrifwr

A elwir hefyd yn -

Cynlluniwr costau

Mae amcangyfrifwyr yn cyfrifo faint fydd cost prosiectau adeiladu, gan ystyried gofynion llafur, deunyddiau ac offer. Byddant yn trafod gyda chyflenwyr ac yn cael dyfynbrisiau gan isgontractwyr ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio cynigion cost manwl ar ran cleient.

Cyflog cyfartalog*

£18000

-

£40000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn amcangyfrifwr

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn amcangyfrifwr, mae sawl llwybr y gallech eu dilyn i'ch helpu i ddilyn yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn amcangyfrifwr, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech chi gwblhau Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu radd israddedig mewn pwnc perthnasol, fel peirianneg strwythurol neu sifil, adeiladu neu arolygu meintiau.

Bydd angen 1 - 3 lefel A neu gymhwyster cyfatebol arnoch i astudio am HND neu radd.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Nid oes angen i chi gael unrhyw gymwysterau penodol er mwyn bod yn amcangyfrifwr. Fodd bynnag, mae cael TGAU graddau 9 i 4 (neu gymhwyster cyfatebol) mewn gwyddoniaeth, technoleg, TG, Saesneg a mathemateg yn ddefnyddiol ar gyfer y rôl hon.

Mae meddu ar gymwysterau coleg mewn pynciau fel peirianneg strwythurol, peirianneg sifil neu adeiladu hefyd yn gallu bod yn fuddiol i unrhyw un sy’n chwilio am swydd fel amcangyfrifwr.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Gallech chi wneud cais am brentisiaeth amcangyfrif gyda chwmni adeiladu a gweithio tuag at NVQ mewn Rheoli Prosiectau Lefel 3 a 4, NVQ mewn Gweithrediadau Contractio Adeiladu Lefel 3 a 4, neu Dystysgrif a Diploma mewn Rheoli Safle Lefel 4.

Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych brofiad blaenorol o weithio yn y diwydiant adeiladu, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr i fod yn amcangyfrifwr, neu efallai y gwnaiff eich cyflogwr eich helpu i gwblhau hyfforddiant i weithio tuag at y rôl hon.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel amcangyfrifwr. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Mae sgiliau craidd ar gyfer amcangyfrifwr yn cynnwys:

  • Sgiliau mathemateg cryf
  • Hynod o drefnus
  • Gallu dadansoddi data
  • Sgiliau meddwl yn feirniadol
  • Canolbwyntio ar fanylion
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Galluoedd technegol
  • Sgiliau rheoli amser rhagorol

Beth mae amcangyfrifwr yn ei wneud?

Mae amcangyfrifwr yn gyfrifol am gyfrifo costau prosiect cyn i’r gwaith ddechrau, gan gynnwys popeth o ddeunyddiau, llafur, llogi offer, costau cludiant a phopeth yn y canol.

Gall dyletswyddau amcangyfrifwr gynnwys:

  • Cyfrifo beth fydd cost prosiect arfaethedig
  • Ymchwilio i brisiau a chasglu dyfynbrisiau gan gyflenwyr ac isgontractwyr
  • Monitro chwyddiant a chyfraddau cyfnewid
  • Gwirio gofynion y cleient.
  • Llunio ceisiadau ar gyfer gwaith
  • Cadw llygad ar brosiectau i wneud yn siŵr bod y costau’n aros yn unol â’r rhagolygon
  • Llunio rhestrau manwl a chywir o brisiau ar gyfer popeth sydd eu hangen ar brosiect adeiladu
  • Ystyried asesiadau risg a gofynion iechyd a diogelwch

Faint o gyflog allech chi ei gael fel amcangyfrifwr?

Mae’r cyflog disgwyliedig i amcangyfrifwr yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall amcangyfrifwr sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £18,000 - £20,000
  • Gall amcangyfrifwr cymwys a phrofiadol ennill £20,000 - £35,000
  • Gall amcangyfrifwr uwch, siartredig neu feistr ennill £35,000 - £40,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. Mae cyflogau ac opsiynau gyrfa hefyd yn gwella os bydd gennych statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer amcangyfrifwyr:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel amcangyfrifwr, gallech ddal ati i hyfforddi a dod yn syrfewyr meintiau.

Gallech hefyd symud ymlaen i rôl uwch fel rheolwr contractau neu reolwr adeiladu.

Neu, gallech sefydlu eich hun fel ymgynghorydd hunan-gyflogedig.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Amcangyfrifwr Mae’r gwaith yn golygu cyfrifo cost cyflenwi cynnyrch neu wasanaethau i gleienti...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Syrfëwr meintiau Mae syrfëwr meintiau yn pennu faint y bydd adeilad yn ei gostio i'w adeiladu ac ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr adeiladu Mae gofyn i reolwyr adeiladu ddelio â’r ochr ymarferol o reoli a chynllunio’r br...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080