Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae aseswyr ynni domestig yn cyfrifo effeithlonrwydd ynni cartrefi, fflatiau ac adeiladau domestig eraill.
£18000
-£35000
38-40
I fod yn asesydd ynni domestig, bydd angen i chi gwblhau cwrs hyfforddiant arbenigol.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
I weithio fel asesydd ynni domestig, bydd angen i chi gwblhau Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Ynni Domestig a dod yn aelod o gynllun achredu cymeradwy.
Os oes gennych brofiad blaenorol mewn maes tebyg, fel arolygu eiddo neu beirianneg ynni, efallai na fydd yn rhaid i chi gwblhau cymaint o hyfforddiant â rhywun sy’n dechrau o’r newydd.
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel asesydd ynni domestig. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel asesydd ynni domestig:
Fel asesydd ynni domestig, byddwch yn gweld pa mor ynni effeithlon ydy adeiladau preswyl.
Mae swydd asesydd ynni domestig yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i asesydd ynni domestig yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer aseswyr ynni domestig:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel asesydd ynni domestig, gallech symud i rôl fel asesydd ynni masnachol.