Facebook Pixel

Fforman gorffen

A elwir hefyd yn -

Rheolwr rheoli ansawdd, fforman safle

Mae fforman gorffen yn gweithio gyda rheolwyr, contractwyr a gweithwyr eraill ar y safle i sicrhau bod y gwaith adeiladu’n cael ei gwblhau’n llwyddiannus mewn pryd, o fewn y gyllideb, a’i fod yn cael ei orffen yn unol â’r safon a’r fanyleb y cytunwyd arnynt gyda’r cleient.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn fforman gorffen

Mae sawl ffordd o ddod yn fforman gorffen. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth, neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn fforman gorffen i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Prifysgol

I’ch helpu i ddod yn fforman gorffen, gallech gwblhau Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), gradd sylfaen neu radd israddedig sydd wedi’i hachredu gan y Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB).

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

I’ch helpu ar eich taith i fod yn fforman gorffen, gallech gwblhau cwrs.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi ddechrau eich gyrfa fel prentis yn y rhan fwyaf o grefftau adeiladu ac wedyn chamu ymlaen i fod yn fforman gorffen. Neu, gallech chi wneud cais am brentisiaeth uwch ym maes rheoli adeiladu. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os ydych chi’n dirfesurydd profiadol, yn oruchwyliwr safle, yn beiriannydd neu’n dechnegydd adeiladu, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol am rôl fforman gorffen a chael yr hyfforddiant pellach sydd ei angen yn y swydd.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel fforman gorffen. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel fforman gorffen:  

  • Dealltwriaeth o adeiladu 
  • Sgiliau cyfathrebu da 
  • Sylw ardderchog i fanylion 
  • Dealltwriaeth o iechyd a diogelwch ar y safle 
  • Sgiliau rheoli amser 
  • Gallu i arwain 
  • Meddwl yn feirniadol a datrys problemau. 

Cymwysterau


Beth mae fforman gorffen yn ei wneud?

Fel fforman gorffen, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio prosiectau adeiladu a sicrhau bod y gwaith gorffenedig yn bodloni’r safonau a’r manylebau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw gyda chleientiaid. 

Mae swydd fforman gorffen yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Cysylltu â chydweithwyr a chleientiaid 
  • Goruchwylio amserlenni prosiectau a sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd 
  • Monitro cyllidebau er mwyn osgoi gorwario 
  • Goruchwylio gweithwyr adeiladu ac isgontractwyr 
  • Adrodd i uwch reolwyr a rhanddeiliaid ar gynnydd prosiect 
  • Cynnal archwiliadau ansawdd a diogelwch 
  • Sicrhau bod y gwaith yn cael ei orffen yn unol â’r safonau y cytunwyd arnynt 
  • Cynnal gwiriadau rheoli ansawdd 
  • Cydlynu timau 
  • Datrys problemau o ddydd i ddydd a delio ag unrhyw faterion sy’n codi 
  • Cymeradwyo a throsglwyddo gwaith wedi’i gwblhau i’r cleient. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel fforman gorffen?

Mae’r cyflog disgwyliedig i fforman gorffen yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall fforman gorffen sydd newydd ei hyfforddi ennill oddeutu £25,000 
  • Gall fforman gorffen profiadol ennill hyd at £60,000* 
  • Fel fforman gorffen hunangyflogedig, byddech yn gosod eich cyfraddau eich hun. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer fforman gorffen:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel fforman gorffen, gallech chi symud ymlaen i fod yn rheolwr sicrhau ansawdd, rheolwr safle, neu reolwr neu gyfarwyddwr adeiladu. Yn dibynnu ar eich gallu, gallech hefyd fynd yn eich blaen i faes arolygu, peirianneg neu amcangyfrif. 

Neu, gallech sefydlu eich hun fel ymgynghorydd hunangyflogedig.


Dyluniwyd y wefan gan S8080