Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae ffurfweithiwr yn gyfrifol am osod ac atgyweirio fframweithiau dros dro sy’n cefnogi’r broses adeiladu yn ystod y gwaith adeiladu. Gellir defnyddio gwahanol ddeunyddiau i wneud y strwythurau dros dro hyn, ond fel arfer maen nhw wedi eu gwneud o naill ai bren neu fetel ac yn cael eu defnyddio i helpu i fowldio concrit a deunyddiau eraill.
£19000
-£27000
Mae sawl ffordd o ddod yn ffurfweithiwr. Gallech chi gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith, neu wneud cais uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
I ddechrau ar eich taith tuag at fod yn ffurfweithiwr, gallech gwblhau cwrs perthnasol sy’n cael ei ddarparu gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol, fel Diploma Lefel 2 neu Lefel 3 mewn Gwaith Saer ac Asiedydd.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.
Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd mewn gwaith saer ac asiedydd i fod yn ffurfweithiwr.
Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel ffurfweithiwr. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i ffurfweithiwr mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel ffurfweithiwr. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel ffurfweithiwr:
Fel ffurfweithiwr, byddwch chi’n gyfrifol am ddefnyddio castiau i ffurfio slabiau concrit, trawstiau cynnal a waliau, i gefnogi’r broses adeiladu yn ystod y gwaith adeiladu.
Mae swydd ffurfweithiwr yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i ffurfweithiwr yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer ffurfweithwyr:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel ffurfweithiwr, gallech chi barhau i hyfforddi a throsglwyddo eich sgiliau i rôl debyg fel saer coed, neu weithio fel gweithiwr adeiladu cyffredinol.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod