Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae lleithder yn achosi problemau difrifol i adeiladau a gall beryglu iechyd pobl. Fel gweithiwr atal lleithder, byddech yn atal lleithder rhag treiddio i mewn i adeiladau o'r ddaear, a thrwy waliau a chraciau. Gallech fod yn gosod cynhyrchion atal lleithder ac yn diogelu brics a phren. Efallai y byddwch hefyd yn atgyweirio difrod strwythurol a bydd angen deall systemau draenio ac awyru.
£17000
-£30000
Mae sawl llwybr i ddod yn weithiwr atal lleithder. Gallwch ennill cymwysterau trwy gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu hyfforddi yn y gwaith.
Dylech archwilio'r llwybrau hyn i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Er y bydd rhai o'r opsiynau hyn yn gofyn am gymwysterau, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sydd yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Efallai y bydd angen i chi fynychu cyrsiau gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant arbenigol er mwyn dod yn weithiwr atal lleithder. Gallech gwblhau NVQ Lefel 2 mewn Inswleiddio a Thriniaethau Adeiladau (Adeiladu) Diogelu Pren ac Atal Lleithder.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.
I ddod yn weithiwr atal lleithder, byddech yn cwblhau Rhaglen Brentisiaeth Arbenigol, gan ganolbwyntio ar drin lleithder mewn adeiladau. Mae’n cymryd tua 2 flynedd i'w chwblhau, ac mae'n cynnig hyfforddiant yn y gwaith ac amser gyda darparwr hyfforddiant arbenigol.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Os ydych yn gweithio yn y diwydiant adeiladu eisoes, efallai eich bod wedi datblygu'r profiad perthnasol sydd ei angen i ddod yn weithiwr atal lleithder. Efallai y bydd rhai cwmnïau'n cynnig cyrsiau hyfforddi byr i ddatblygu sgiliau mwy arbenigol. Gallwch anfon cais yn uniongyrchol at y cwmnïau hyn trwy wefan Cymdeithas Gofal Eiddo (Cymdeithas Diogelu Pren ac atal lleithder Prydain yn flaenorol).
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gellid bod wedi cael y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.
Fel gweithiwr atal lleithder, gallech fod yn gwneud y canlynol:
Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithwyr atal lleithder:
Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.
Ar ôl cael profiad, gallech weithio i berchnogion tai, cwmnïau adeiladu neu fusnesau.
Gallech wneud rhagor o hyfforddiant ac arbenigo mewn adnewyddu adeiladau neu amddiffyn adeiladau newydd.
Fel arall, gallech symud ymlaen i swydd uwch reolwr neu reolwr prosiectau ac ennill cyflog uwch. Gallech hefyd sefydlu eich busnes eich hun a gweithio fel is-gontractwr.