Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gweithiwr cynnal a chadw yn rhywun sy’n gwneud amrywiaeth o dasgau mewn adeiladau, i’w cadw mewn cyflwr da. Gall y dyletswyddau gynnwys gweithgareddau fel trwsio toeau, paentio waliau, neu osod drysau a sgyrtin.
£20000
-£25000
35-40
Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr cynnal a chadw. Gallech ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech gwblhau cwrs coleg mewn crefft sy’n gysylltiedig ag adeiladu, fel paentio ac addurno, gwaith coed, plastro, neu fwy, i’ch helpu i ennill rhai o’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i fod yn weithiwr cynnal a chadw.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn weithiwr cynnal a chadw.
Gallech chi hefyd gwblhau prentisiaeth ganolradd neu uwch brentisiaeth mewn crefft adeiladu fel plymio, gwaith coed neu deilsio.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad fel gweithiwr cynnal a chadw. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i weithiwr cynnal a chadw mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Gallech wirfoddoli i helpu gyda thasgau DIY ar gyfer cymdeithas dai neu elusen. Byddai hyn yn gyfle i chi ddysgu sgiliau a gwneud cysylltiadau, a allai arwain at waith am dâl.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr cynnal a chadw. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr cynnal a chadw:
Fel gweithiwr cynnal a chadw, byddwch yn gyfrifol am gynnal a chadw, atgyweirio neu drwsio amrywiaeth o bethau mewn adeiladau neu’r tu allan iddynt. Gall y dyletswyddau gynnwys paentio ac addurno, trwsio gollyngiadau mewn toeau, neu adeiladu dodrefn.
Gall swydd gweithiwr cynnal a chadw gynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr cynnal a chadw yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i weithwyr cynnal a chadw:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gweithiwr cynnal a chadw, gallech ddilyn cyrsiau pellach ac arbenigo mewn maes penodol, fel gwaith coed neu blymio. Mae llawer o weithwyr cynnal a chadw yn sefydlu eu cwmnïau eu hunain ac yn gweithio ar sail hunangyflogedig.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod