Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gweithwyr tynnu asbestos yn mynd ati i dynnu deunyddiau sy’n cynnwys asbestos yn ddiogel. Mae asbestos yn gymysgedd o fwynau sy'n cynnwys ffibrau microsgopig, a oedd yn cael eu defnyddio’n draddodiadol ar gyfer insiwleiddio. Mae bellach wedi’i wahardd yn y DU oherwydd y risgiau i iechyd ond mae’n dal i fod yn bresennol mewn llawer o adeiladau. Wrth i waith adnewyddu gael ei wneud, bydd galw o hyd am weithwyr tynnu asbestos hyfforddedig.
£20000
-£35000
Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr tynnu asbestos. Gallech chi ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth neu hyfforddiant yn y gwaith.
Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn weithiwr tynnu asbestos, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Er nad oes angen cymwysterau penodol i fod yn weithiwr tynnu asbestos, gall fod yn fuddiol cael TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg.
Bydd angen i chi gael hyfforddiant arbenigol mewn tynnu asbestos a chwblhau cwrs sydd wedi'i gymeradwyo gan Gymdeithas Hyfforddiant Asbestos y DU (UKATA) pan fyddwch yn gweithio.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn weithiwr tynnu asbestos.
Gallech ddod yn brentis gweithiwr dymchwel os ydych chi dros 18 oed. Pan fyddwch yn 16 oed, gallech ddechrau fel gweithiwr peiriannau adeiladu ac arbenigo mewn tynnu asbestos ar ôl i chi gymhwyso.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Os oes gennych rywfaint o brofiad sylfaenol fel gweithiwr adeiladu neu weithiwr dymchwel, efallai y bydd eich cyflogwr yn eich enwebu i gael hyfforddiant penodol ar gyfer tynnu asbestos.
Rhaid i’r hyfforddiant hwn gydymffurfio â chanllawiau cyfredol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hefyd angen trwydded i weithio gydag asbestos, a gyhoeddir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i weithiwr tynnu asbestos mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr tynnu asbestos. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr tynnu asbestos:
Fel gweithiwr tynnu asbestos, byddwch yn gyfrifol am dynnu asbestos yn ddiogel o safleoedd adfer a dymchwel. Bydd angen i chi weithio gyda chontractwyr tynnu asbestos trwyddedig yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae'n rhaid i'r sefydliadau hyn wneud cais i'r HSE am drwydded i weithio gydag asbestos mewn amgylchedd a reolir yn dynn.
Mae rôl gweithiwr tynnu asbestos yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Kieran McCabe
Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr tynnu asbestos yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithwyr tynnu asbestos:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gweithiwr tynnu asbestos, gallech symud ymlaen i swydd uwch fel goruchwyliwr, arweinydd tîm neu reolwr.