Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae peiriannwr pren yn torri ac yn paratoi pren ar gyfer prosiectau adeiladu. Gallan nhw gynhyrchu pren ar gyfer paneli, estyll llawr, cownteri cegin, bariau, canllawiau grisiau, sgyrtins, fframiau ffenestri a drysau, a mwy. Fel peiriannwr pren, byddai angen dealltwriaeth dda arnoch o wahanol fathau o bren a’u defnyddiau, a’r gallu i ddefnyddio amrywiaeth o offer llaw a pheiriannau.
£17000
-£35000
41-43
Mae sawl ffordd o ddod yn beiriannwr pren. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn beiriannwr pren i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech gwblhau cwrs coleg i’ch helpu i ddod yn beiriannwr pren.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.
Gallech gwblhau prentisiaeth ganolradd fel gweithiwr creu cynhyrchion pren, neu brentisiaeth uwch fel peiriannwr coed.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol ym maes adeiladu, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr i gael profiad fel peiriannwr pren. Gallech ddechrau ar eich gyrfa fel cynorthwyydd neu hyfforddai. Wrth i chi gael mwy o brofiad, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig hyfforddiant i'ch helpu i symud ymlaen yn y rôl.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannwr pren. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau sy’n ddymunol ar gyfer peiriannwr pren:
Gan ddibynnu ar y prosiect, mae cyfrifoldebau peiriannwr pren yn amrywio o ddydd i ddydd.
Dyma rai o ddyletswyddau arferol peiriannwr pren:
Robert Hainsworth
“Rydw i wir yn mwynhau’r amrywiaeth yn fy ngwaith, mae pob diwrnod yn wahanol.”
Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannwr pren yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr pren:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel peiriannwr pren, gallech symud i rôl gysylltiedig fel gwaith saer, aseidydd neu gallech ddod yn ddodrefnwr siopau, yn osodwr ceginau neu’n osodwr ystafelloedd ymolchi. Neu, gallech chi addasu eich sgiliau i fod yn weithredwr CAD.
Gyda phrofiad, gallech chi symud ymlaen i swydd uwch fel goruchwyliwr, arweinydd tîm neu reolwr.