Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae rheolwyr asedau yn rheoli ac yn monitro asedau cwmni. Gall hyn gynnwys eiddo, arian, stociau, cyfranddaliadau a bondiau, nwyddau, ecwiti a chynhyrchion ariannol eraill. Fel rheolwr asedau, byddech yn anelu at sicrhau'r enillion mwyaf posibl ar fuddsoddiad eich cyflogwr. Byddech yn sicrhau bod eu prosiectau'n gwella incwm a sefydlogrwydd ariannol.
£21000
-£40000
Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gyflawni cwrs prifysgol neu gynllun hyfforddi graddedigion, neu drwy ennill cymwysterau sy'n cael eu cydnabod gan y diwydiant. Os oes gennych sgiliau neu brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallech anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr neu hyfforddi yn y gwaith.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech gwblhau gradd israddedig ym meysydd adeiladu, astudiaethau busnes, cyllid, ystadegau, economeg, rheoli neu gyfrifeg. I wneud hyn, bydd angen 1 - 2 o gymwysterau Safon Uwch (neu gyfwerth) arnoch, gan gynnwys mathemateg.
Wedi hynny, gallech wneud cais ar gyfer cynllun hyfforddeion graddedig. Gallech weithio i fanc neu gwmni adeiladu fel rheolwr asedau iau neu gynorthwyol.
Os oes gennych radd gyntaf berthnasol yn barod, gallech ennill cymhwyster ôl-raddedig i wella'ch cyflogadwyedd.
Mae Sefydliad Rheoli Asedau (IAM) yn cynnig cyrsiau sy'n ymdrin â hanfodion rheoli asedau. Nid oes angen i chi fod wedi ennill cymwysterau'n barod i wneud y rhain.
Mae Sefydliad Siartredig Gwarantau a Buddsoddi (CISI) hefyd yn cynnig cymwysterau a chyrsiau hyfforddi. Mae'r rhain ar gyfer gweithwyr proffesiynol profiadol a’r rhai sy’n gadael yr ysgol sydd â diddordeb mewn gyrfa sy’n ymwneud ag arian.
Mae profiad gwaith yn hanfodol i ennill cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.
Fel rheolwr asedau, gallech fod yn gwneud y canlynol:
Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio. Mae cyflogau a dewisiadau gyrfa yn gwella â statws siartredig.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr asedau:
Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.
Gallech weithio i gwmni adeiladu, banc neu wasanaeth ariannol arall, yn cynorthwyo busnesau neu unigolion.
Mae rhai rheolwyr asedau yn arbenigo mewn rheoli eiddo neu fuddsoddiadau. Ar ôl ennill profiad, gallech symud ymlaen i rolau ariannol uwch ac ennill cyflog uwch.
Fel rheolwr asedau, gallech hefyd ddod yn gyfrifydd neu'n ymgynghorydd ariannol. Yn yr un modd, gallech symud i faes rheoli asedau os oes gennych brofiad fel cyfrifydd.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod