Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae rheolwyr cydymffurfiaeth yn sicrhau bod busnes, ei gyflogeion a’i brosiectau yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a manylebau perthnasol. Gallai hyn gynnwys safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, cyfreithiol neu ansawdd, yn ogystal ag unrhyw bolisïau moesegol sydd gan y cwmni.
£30000
-£70000
Mae sawl ffordd o ddod yn rheolwr cydymffurfiaeth. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr cydymffurfiaeth i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech gwblhau gradd israddedig mewn pwnc perthnasol, fel iechyd a diogelwch neu weinyddu busnes.
Bydd angen 2 - 3 lefel A neu gymhwyster cyfatebol arnoch i astudio gradd.
Ar ôl i chi gael eich gradd gyntaf, gallech fynd ymlaen i gwblhau gradd ôl-radd i gael mwy o arbenigedd, neu ymgymryd â chymwysterau proffesiynol pellach a gynigir gan y Gymdeithas Cydymffurfio Rhyngwladol (ICA) sy’n arbenigo yn y gyfraith, cydymffurfiaeth, llywodraethu a risg.
Os oes gennych radd gyntaf mewn pwnc cysylltiedig, gallech wneud cais i ymuno â chynllun hyfforddi graddedigion. Efallai y bydd eich cyflogwr yn eich cefnogi i gwblhau cymwysterau uwch neu i gael hyfforddiant pellach gyda'r Gymdeithas Cydymffurfio Rhyngwladol (ICA).
Gallech gwblhau cwrs coleg i’ch helpu i ddechrau ar eich taith i fod yn rheolwr cydymffurfiaeth, fel cwrs cyfrifeg neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch.
Bydd angen i chi gael 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) neu gymhwyster cyfatebol i gofrestru ar gwrs coleg.
Gallech gwblhau prentisiaeth i’ch helpu ar eich llwybr gyrfa i ddod yn rheolwr cydymffurfiaeth.
Gallech gofrestru ar brentisiaeth cyfrifyddu neu seiliedig ar y gyfraith. Ni fyddai angen i hyn fod gyda chwmni adeiladu o reidrwydd, oherwydd gallech arbenigo ym maes cydymffurfiaeth yn y diwydiant adeiladu ar ôl i chi gymhwyso.
Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol neu gymwysterau perthnasol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i ennill profiad fel rheolwr cydymffurfiaeth. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr cydymffurfiaeth. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr cydymffurfiaeth:
Fel rheolwr cydymffurfiaeth yn y diwydiant adeiladu, byddwch yn sicrhau bod prosiectau adeiladu yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Gall y dyletswyddau gynnwys cynnal archwiliadau safle rheolaidd a chasglu tystiolaeth i brofi cydymffurfiaeth.
Mae rôl rheolwr cydymffurfiaeth yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr cydymffurfiaeth yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr cydymffurfiaeth:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel rheolwr cydymffurfiaeth, gallech symud ymlaen i rôl ymgynghoriaeth.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod