Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae rheolwyr risg yn nodi ac yn asesu bygythiadau posibl i brosiectau adeiladu. Maent yn ystyried risgiau ariannol, cyfreithiol, amgylcheddol ac enw da, ynghyd â risgiau i'r gweithlu a'r sefydliad y maent yn gweithio iddo. Maent yn cydweithio'n agos â rheolwyr prosiectau, timau iechyd a diogelwch, a thimau adnoddau dynol a chyfreithiol. Bydd rheolwyr risg yn creu polisïau i amddiffyn asedau a lleihau damweiniau, camgymeriadau, colledion ariannol neu atebolrwydd cyhoeddus.
£25000
-£75000
40-42
Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gwblhau cwrs prifysgol.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech astudio gradd israddedig.
Wedi hynny, efallai y gallwch ymuno â chynllun hyfforddeion graddedig cwmni.
Os oes gennych radd gyntaf nad yw’n gysylltiedig â rheoli risg, gallech wneud cymhwyster dysgu o bell i'ch helpu i symud i'r maes hwn. Mae'r Sefydliad Rheoli Risgiau (IRM) yn cynnig dau gwrs:
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Fel rheolwr risg, gallech chi fod yn gwneud y canlynol:
Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr risg:
Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.
Ar ôl cael profiad, gallech ddatblygu i ddod yn uwch swyddog neu brif swyddog risg ac ennill cyflog uwch.
Gallech arbenigo mewn mathau penodol o risg, megis risg ariannol, gweithredol neu amgylcheddol.
Gallech weithio fel ymgynghorydd risg hunangyflogedig.