Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae syrfewyr tir yn mesur ac yn mapio siâp tir. Maent yn casglu data ar gyfer prosiectau peirianneg sifil ac adeiladu fel y gellir lluniadu cynlluniau safle cywir. Fel syrfëwr, byddwch chi'n rhan o ddiwydiant cyflym, datblygedig yn dechnolegol. Fe dreulir llawer o'ch amser ar y safle, gan ddefnyddio offerynnau technegol i gofnodi'r amgylchedd.
£20000
-£70000
38-40
71,920
Gallwch chi ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy wneud cwrs prifysgol, cynllun hyfforddi graddedigion, neu brentisiaeth.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch chi(CSCS) i weithio ar safle adeiladu.
Bydd angen i chi gwblhau gradd sydd wedi'i hachredu gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS). Mae pynciau perthnasol yn cynnwys tirfesur, peirianneg sifil, geomateg neu wyddor gwybodaeth ddaearyddol.
Ar gyfer gradd israddedig, bydd arnoch angen:
Os nad yw'ch gradd gyntaf yn berthnasol i dirfesur, gallech chi wneud cwrs trosi ôl-raddedig yn y brifysgol, neu drwy gyflogwr.
Gallech hefyd ennill cymwysterau uwch trwy gynllun hyfforddi i raddedigion gan gyflogwr. Os oes gennych radd sylfaen neu ddiploma i raddedigion mewn tirfesur, gallech chi gael swydd i raddedig fel technegydd tirfesur. Yna gallech chi wneud cais am aelodaeth RICS ac astudio i fod yn syrfëwr tir cwbl gymwys.
Mae rhai pobl yn dod yn syrfewyr trwy weithio i bractis tirfesur a chwblhau cwrs dysgu o bell gyda Choleg Rheoli Ystad y Brifysgol.
Mae prentisiaeth gyda chwmni tirfesur tir yn ffordd dda i mewn i'r diwydiant. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad ar y swydd a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.
Gallech chi ddechrau'ch gyrfa fel technegydd tirfesur neu dechnegydd tirfesur geo-ofodol.
Mae gofynion mynediad yn amrywio, ond fel rheol bydd arnoch angen:
Mae profiad gwaith yn hanfodol i ennill cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill hwn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar-gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.
Fel syrfëwr tir gallech chi:
Hannah Alsop
Mae Hannah Alsop yn Syrfëwr Tir Iau gyda Technics Group.
Mae cyflogau'n dibynnu ar leoliad, cyflogwr a lefel gyfrifoldeb, a gall cyflogau a dewisiadau gyrfaol wella â statws siartredig.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Gwiriwch y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer syrfëwr tir/geomatig:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.
Gallech wneud cais am statws siartredig trwy Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS). Bydd hyn yn gwella'ch rhagolygon swyddi a gallech ennill cyflog uwch.
 phrofiad, gallech chi ddod yn rheolwr prosiect neu gontract, neu arbenigo mewn maes megis peirianneg ar y môr neu arolygu adeiladu.
Mae rhai syrfewyr tir yn gweithio fel ymgynghorwyr hunangyflogedig neu isgontractwyr.