Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae towyr diddosi hylifol yn gosod pilenni hylifol amddiffynnol ar strwythurau to fflat newydd neu bresennol i sicrhau eu bod yn dal dŵr. Gallant ddod o hyd i waith gyda chwmnïau toi arbenigol, contractwyr adeiladu, awdurdodau lleol a sefydliadau cyhoeddus eraill.
£17000
-£40000
35-40
Mae sawl ffordd o ddod yn döwr diddosi hylifol. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn döwr diddosi hylifol i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Mae towyr diddosi hylifol yn aml yn dechrau fel labrwyr toi, ac yn ennill profiad o dechnegau arbenigol ar y safle.
Mae'n bosibl y bydd eich coleg neu'ch darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau fel Diploma Lefel 2 mewn Galwedigaethau Toi neu Ddiploma Lefel 2 mewn Toi gyda Llechi a Theils.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu neu doi yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Mae’r Gymdeithas Diddosi a Thoi Hylifol (LRWA) yn cynnig rhaglen brentisiaeth unigryw, sy’n arbenigo mewn gosod systemau diddosi hylifol.
Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni toi i gael profiad ar safle fel töwr diddosi hylifol. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i döwr diddosi hylifol mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel töwr diddosi hylifol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel töwr diddosi hylifol:
Fel töwr diddosi hylifol byddwch yn gyfrifol am helpu i drwsio toeau gyda deunyddiau hylifol. Gallech fod yn clirio’r safle gwaith, yn gwneud gwaith atgyweirio, neu’n glanhau’r cyfarpar.
Mae swydd töwr diddosi hylifol yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i döwr diddosi hylifol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer towyr diddosi hylifol:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel töwr diddosi hylifol, gallech symud i rôl fel gweithiwr toi.
Neu, gallech symud ymlaen i fod yn rheolwr safle neu symud i faes gwerthiannau technegol.
Gallech fod yn gontractwr hunangyflogedig a gosod eich cyflog eich hun.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod