Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Swydd ymgynghorydd treftadaeth yw rheoli prosiectau adeiladu ac adfer ar safleoedd treftadaeth, fel adeiladau hanesyddol neu restredig, tirweddau, amgueddfeydd ac eiddo eraill, drwy roi arweiniad ar faterion treftadaeth a llunio strategaethau i’w rheoli.
£17000
-£60000
37-40
Mae sawl ffordd o ddod yn ymgynghorydd treftadaeth. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn ymgynghorydd treftadaeth i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Mae nifer o gyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd â gradd ôl-raddedig berthnasol fel rheoli treftadaeth neu gadwraeth hanesyddol, a phrofiad gwaith yn y sector treftadaeth
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Gallech chi gwblhau cwrs adeiladu, hanes, astudiaethau amgylcheddol neu arolygu, ac yna cwblhau hyfforddiant arbenigol pellach i fod yn ymgynghorydd treftadaeth.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Gallech chi gwblhau prentisiaeth cynorthwyydd cyngor amgylchedd hanesyddol i fod yn ymgynghorydd treftadaeth. Bydd yn cymryd dwy flynedd i’w gwblhau hyn.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Os oes gennych brofiad neu sgiliau perthnasol ym maes rheoli prosiectau adeiladu, pensaernïaeth, cynllunio awdurdod lleol neu gynnal arolygon ar adeiladau, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel ymgynghorydd treftadaeth.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel ymgynghorydd treftadaeth. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. Mae llawer o fudiadau diwylliannol yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli a fydd yn rhoi blas i chi ar waith treftadaeth, ac yn datblygu eich sgiliau a'ch cysylltiadau.
Dyma rai o’r sgiliau sy’n ddymunol ar gyfer rhywun sy’n ystyried gyrfa fel ymgynghorydd treftadaeth:
Mae ymgynghorydd treftadaeth yn cynghori ar waith adeiladu sydd i fod i ddigwydd mewn adeilad neu leoliad hanesyddol, fel y gellir cadw safleoedd o bwysigrwydd diwylliannol neu hanesyddol sylweddol am genedlaethau i ddod.
Mae dyletswyddau ymgynghorydd treftadaeth yn cynnwys:
Mae’r cyflog disgwyliedig i ymgynghorydd treftadaeth yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. Gallai cyflogau wella os bydd gennych statws siartredig.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer ymgynghorwyr treftadaeth:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel ymgynghorydd treftadaeth, gallech symud ymlaen i rôl uwch a dod yn rheolwr prosiectau treftadaeth.
Gallech weithio i gwmni adeiladu, awdurdod lleol, practis pensaernïol, neu sefydlu eich hun fel ymgynghorydd treftadaeth hunangyflogedig.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod