Adeiladu ac ethnigrwydd
Mae budd amrywiaeth yn y gweithle bellach yn cael ei ddeall a’i werthfawrogi’n dda. Gall cwmnïau adeiladu sydd â gweithluoedd ethnig amrywiol gynrychioli a gwasanaethu eu cleientiaid yn well. Mae’r diwydiant adeiladu yn ymfalchïo yn ei gydraddoldeb, amrywiaeth a’i gynhwysiant, ac mae am gynnig amgylchedd croesawgar i ddarpar weithwyr o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i weithio ynddo.
Cynnwys gweithwyr o gefndiroedd ethnig amrywiol
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y bobl o grwpiau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy’n ymuno â’r diwydiant adeiladu ac sy’n datblygu wedi bod yn cynyddu. Ond mae’n dal i lusgo y tu ôl i ffigur cyffredinol y DU ar gyfer cynrychiolaeth y cymunedau hyn.
Rhagwelir y bydd poblogaeth y DU yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd, ac yn ffynhonnell refeniw sylweddol yn y dyfodol, felly mae parhau i gynnwys gweithwyr o leiafrifoedd ethnig yn hanfodol ar gyfer y diwydiant adeiladu.
Manteision amrywiaeth ethnig yn y diwydiant adeliadu i weithwyr a chleientiaid
Gall gweithlu sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd wneud cwmni nid yn unig yn fwy deniadol i ddarpar weithwyr, ond hefyd i gwsmeriaid, a’i wneud yn fwy arloesol o ran ei ddulliau gweithredu. Fel y dywedodd un o’r rhai a gyfwelwyd sy’n gweithio ym maes adeiladu mewn arolwg:
“Rydyn ni’n darparu gwasanaethau mewn ardaloedd lle mae poblogaeth BAME* uchel, ond nid ydym wedi ein lleoli mewn ardal debyg. Dwi’n teimlo ein bod ni angen gweithlu BAME i gynrychioli ein grŵp cleientiaid.”
Roedd un arall a gafodd ei gyfweld hefyd yn meddwl y byddai’n fwy cystadleuol pe bai ei weithlu’n cyd-fynd yn agosach o ran ethnigrwydd â’i sylfaen cwsmeriaid amrywiol.
Dywedodd un arall: “Os oes gennym ni weithlu mwy amrywiol, bydd gennym ni syniadau gwell. Os na fyddwn yn arloesi, ni fyddwn yn edrych tua’r dyfodol. Mae hyn yn golygu y tîm yn dod at ei gilydd, yn cydweithio gyda gwahanol safbwyntiau, ac mae’n rhaid iddo fod yn gadarnhaol.”
Os bydd gennym weithlu mwy amrywiol, bydd gennym syniadau gwell. Os nad ydym yn arloesi, fyddwn ni ddim yn edrych tua’r dyfodol.
AROLWG AMRYWIAETH
Dathlu Mis Hanes Pobl Ddu
Beth yw Mis Hanes Pobl Ddu?
Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol sy'n ceisio hyrwyddo cyflawniadau pobl o dras Affricanaidd-Americanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd yng nghymdeithas Prydain.
Pryd mae Mis Hanes Pobl Ddu yn y DU?
Cynhelir Mis Hanes Pobl Ddu ym mis Hydref yn y DU (ac ym mis Chwefror yn yr Unol Daleithiau).
Pam mae Mis Hanes Pobl Ddu yn bwysig?
Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn bwysig gan ei fod yn tynnu sylw at brofiad pobl Ddu yn y DU, yn hanesyddol a heddiw. Mae’n adrodd straeon am sut mae pobl Ddu a phobl o leiafrifoedd ethnig wedi goresgyn heriau a rhagfarn, ac wedi brwydro dros gyfiawnder cymdeithasol, rhagor o gyfleoedd economaidd a chynrychiolaeth wleidyddol.
Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn atgoffa’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chyflogwyr ym maes adeiladu bod gwella amrywiaeth ethnig yn hanfodol ar gyfer dyfodol y diwydiant, a barn pobl ohono.
Pam Rydym yn Dathlu Mis Hanes Pobl Ddu?
Rydym yn dathlu Mis Hanes Pobl Ddu i dynnu sylw at brofiad pobl ddu yn y DU, yn hanesyddol a heddiw. Mae digwyddiadau a gweithgareddau Mis Hanes Pobl Ddu yn adrodd straeon am sut mae pobl ddu a’r rhai o leiafrifoedd ethnig wedi goresgyn heriau a rhagfarn ac wedi brwydro dros gyfiawnder cymdeithasol, mwy o gyfleoedd economaidd a chynrychiolaeth wleidyddol.
Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn atgoffa’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chyflogwyr ym maes adeiladu bod gwella amrywiaeth ethnig yn hanfodol ar gyfer dyfodol y diwydiant, a barn pobl ohono.
Sut I Ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu yn y Gwaith?
Mae llawer o ffyrdd y gall gweithwyr adeiladu nodi Mis Hanes Pobl Ddu yn eu sefydliad, a chyfrannu’n gadarnhaol at amrywiaeth mewn adeiladu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Trefnu i siaradwyr gwadd o grwpiau lleiafrifoedd ethnig siarad â gweithwyr, gan amlygu eu straeon a’u profiadau
- Gofyn i’ch cyflogeion eich hun rannu eu profiadau
- Cynnal gweithdai ar bynciau fel hunaniaeth hiliol a thuedd anymwybodol
- Darparu hyfforddiant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Beth Yw BAME?
Mae BAME yn derm a ddefnyddiwyd yn eang tan yn ddiweddar i ddisgrifio pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Fel term eang, mae wedi colli ei fri i raddau helaeth, gan yr ystyrir yn gyffredinol ei fod yn brin o naws ac nid yw’n adlewyrchu unigoliaeth ethnigrwydd, cenedligrwydd a diwylliannau gwahanol.
Deddf Cydraddoldeb 2010: Gwahardd Gwahaniaethu ar sail Ethnigrwydd
Mae’r gyfraith yn rhoi hwb pellach i gyfleoedd i leiafrifoedd ethnig. Nid yn unig y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwahardd gwahaniaethu ar sail ethnigrwydd, ond mae hefyd yn cynnwys pwerau sy’n galluogi cyrff cyhoeddus i ddefnyddio prosesau caffael i hybu cydraddoldeb.
Yn gryno, os bydd corff cyhoeddus yn contractio cwmni adeiladu y canfyddir ei fod yn gweithredu mewn ffordd wahaniaethol, gellir dal y corff cyhoeddus yn atebol. Nod hyn yw taflu goleuni ar ddiwylliannau busnes contractwyr.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010
Beth Yw Deddf Cydraddoldeb 2010?
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn pobl ar sail eu hil tra’u bod nhw’n weithwyr cyflogedig. Hil yw un o’r naw ‘nodwedd warchodedig’ y mae’r Ddeddf yn eu cwmpasu, ochr yn ochr ag oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Pam Cyflwynwyd Deddf Cydraddoldeb 2010?
Cyflwynwyd y Ddeddf Cydraddoldeb i ddod â gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth gwrth-wahaniaethu at ei gilydd mewn un Ddeddf Seneddol a oedd yn cryfhau’r gyfraith ar fater cydraddoldeb.
Dysgwch fwy am amrywiaeth ethnig ym maes adeiladu heddiw
I gael rhagor o wybodaeth am amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu a Mis Hanes Pobl Ddu, tarwch olwg ar unrhyw rai o’r adnoddau a’r dolenni isod.
(*Mae’r term BAME yn derm a ddefnyddiwyd yn eang tan yn ddiweddar i ddisgrifio pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Nid yw Am Adeiladu yn defnyddio’r term hwn mwyach, ond efallai y bydd cyfeiriadau hanesyddol at BAME o hyd, ac mewn dyfyniadau wedi’u priodoli ac enwau sefydliadau, ar wefan Am Adeiladu)