Adfer Palas San Steffan
Yn ogystal â chreu strwythurau ac adeiladau newydd, mae rhan o’r gwaith adeiladu’n ymwneud ag adfer adeiladau hanesyddol hefyd. Mae angen sgiliau arbenigol i gadw strwythurau a chynnal lleoedd sy’n rhan o hanes cymdeithas, ac mae’r gwaith gorffenedig yn sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau’r lleoedd hyn am flynyddoedd (neu efallai hyd yn oed ganrifoedd) i ddod.
Rydym yn canolbwyntio yma ar Balas Westminster yn Llundain, enghraifft wych o sut mae’r diwydiant adeiladu yn cefnogi hanes. Bydd prosiect ‘Adfer ac Adnewyddu’ yn cael ei gwblhau arno, gan ddechrau ganol yr 2020au, a gallwch ddysgu amdano isod.
Mae Palas San Steffan wrth gwrs yn adnabyddus am fod yn safle ymgais aflwyddiannus gan Guto Ffowc, aelod o Gynllwyn y Powdr Gwn, i ladd y Brenin James I ym 1605. Mae’r DU yn dal i goffáu’r diwrnod hwn hyd heddiw, ac mae’n cael ei adnabod fel noson tân gwyllt.
Hanes Palas San Steffan
Dau Dŷ'r Senedd yw’r enw anffurfiol ar Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Mae Dau Dŷ’r Senedd y tu mewn i Balas San Steffan mewn gwirionedd, lle mae ASau yn cyfarfod ac yn trafod materion llywodraeth sy’n ymwneud â’r DU.
Mae gan y Palas hanes helaeth, gydag adeilad cychwynnol wedi’i adeiladu yn yr 11eg ganrif, ond cafodd y Palas a welwch heddiw ei ailadeiladu gan y pensaer Charles Barry ar ôl tân mawr ym 1834. Adeiladodd Barry yr adeilad mewn arddull Gothig perpendicwlar, gyda llawer o fanylion cyfoethog y tu mewn a’r tu allan. Cafodd Barry ei urddo’n farchog am ei waith, er i’r gwaith a amcangyfrifodd a fyddai’n cymryd tua chwe blynedd gymryd dros 30 mlynedd i’w gwblhau, ac i’r amcan-gost o £724,986 godi i dros £2 filiwn!
Yn ystod y Blitz yn yr Ail Ryfel Byd, gyda’r nos ar 10 Mai 1941, dinistriwyd Siambr Tŷ’r Cyffredin gan fomiau, a difrodwyd Tŵr y Cloc (sy’n gartref i Big Ben), yn ogystal â rhannau eraill o’r adeilad. Gorchmynnodd Winston Churchill i’r Palas gael ei godi eto, gan ddweud:
“Dyma gadarnle rhyddid; dyma sylfaen ein cyfreithiau; mae ei draddodiadau a’i freintiau mor fyw heddiw ag yr oedd pan dorrodd rym gormesol y Goron. Mae’r Tŷ wedi dangos y gall wynebu’r posibilrwydd o ddistryw cenedlaethol gan barhau’n gwbl ddigynnwrf.”
Winston Churchill
Pam mae'r Palas yn cael ei adfer?
Mae’r Palas yn bwysig iawn yn hanes y DU. Mae llawer o ddigwyddiadau a phenderfyniadau gwleidyddol pwysig wedi cael eu gwneud o fewn ei furiau, felly byddwn yn gofalu amdano bob amser er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu ei fwynhau a’i werthfawrogi yn y dyfodol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae angen ei atgyweirio mor aml, fel ei bod yn gwneud synnwyr gwneud gwaith adfer ar raddfa fawr, yn hytrach na gwneud atgyweiriadau llai yn gyson. Yn 2019, ataliodd pibell wedi torri drafodaethau Tŷ’r Cyffredin, rhywbeth y dylid ei osgoi lle bo hynny’n bosibl!
Mae’r gwaith adfer yn heriol am sawl rheswm, ac un o’r rhesymau hynny yw ei faint. Mae gan y Palas arwynebedd llawr maint 16 cae pêl-droed gyda 1,100 o ystafelloedd, 100 o risiau, tair milltir o goridorau, pedwar llawr, a 65 o wahanol lefelau. Bydd yn gostus dod o hyd i’r deunyddiau a’r gweithwyr medrus sydd eu hangen i adfer adeilad o’r maint a’r oedran hwn.
Perygl o dân
Oherwydd ei oed, nid chafodd y Palas ei gynllunio gan ystyried diogelwch tân modern. Bydd cael gwared ar asbestos, adnewyddu ei 4,000 o ffenestri efydd, a phwyntiau mynediad newydd i gyd yn ei godi i safon fwy diogel pe bai tân. Bydd deunyddiau a dodrefn newydd hefyd yn ddiogel rhag tân, gan y gallai llawer o’r dodrefn hanesyddol gael eu symud allan neu eu storio’n ddiogel ar ôl cwblhau’r gwaith adfer.
Gwaith maen yn adfeilio
Mae angen gwaith brys i drwsio a chynnal gwaith carreg hardd a chywrain y Palas. Mae gwaith maen yn disgyn eisoes wedi achosi pryderon difrifol o ran iechyd a diogelwch, wrth i faint ddarn maint pêl-droed ddisgyn o gerflun o angel yn 2018.
Diweddaru systemau mecanyddol a thrydanol
Mae hen systemau'n golygu nad yw'r Palas yn gweithio'n effeithiol. Drwy ddiweddaru’r system fecanyddol a thrydanol, bydd yn lleihau’r galw am waith atgyweirio brys, costus. Pe bai nam mawr, gallai darfu ar y Senedd, sy’n arafu penderfyniadau pwysig y llywodraeth. Bydd yr holl systemau tân, gwresogi, draenio, mecanyddol a thrydanol yn cael eu disodli yn ystod y prosiect hwn. Mae pibellau stêm yn rhedeg ochr yn ochr â cheblau trydanol, ac mae’r system allsugno carthion yn dyddio’n ôl i 1888. Ers 2017 mae dros 40,000 o broblemau wedi cael eu cofnodi yn y Palas.
Manteision adfer y Palas
Bydd y prosiect adfer yn diogelu dyfodol y Palas fel cartref Senedd y DU ac yn cynnal ei statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae nifer o fanteision eraill hefyd, gan gynnwys:
Diogelu cartref democratiaeth
Palas San Steffan yw cartref Llywodraeth y DU, sy’n golygu fod gwaith hanfodol yn cael ei wneud yma er budd cymdeithas a’i datblygiad. Mae’n rhaid iddo fod yn lle diogel a hygyrch i bobl weithio ynddo a bod yn dyst i ddemocratiaeth.
Gwneud y Senedd yn fwy hygyrch
Mae mynediad i ddefnyddwyr anabl yn hanfodol ar gyfer unrhyw adeilad. Mae’r Senedd yn agored i’r cyhoedd sy’n cael gwylio, yn ogystal ag Aelodau Seneddol, Arglwyddi a ffigyrau cyhoeddus eraill, felly rhaid iddi fod yn hygyrch i bawb.
Agor y drysau i’r cyhoedd
Bydd gan y cyhoedd well golygfa o’r hyn sy’n digwydd yn y Senedd, gan roi teimlad mwy agored ac ymddiriedus na phetai’r llywodraeth yn gweithredu’n gyfrinachol.
Effeithlonrwydd ynni
Bydd costau rhedeg y Palas newydd yn is gan ei fod yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon, a bydd ei ôl troed carbon yn is o lawer. Yn wyneb y newid yn yr hinsawdd, mae’n bwysig bod man cyfarfod y llywodraeth yn rhan o ymdrech gadarnhaol i leihau ei heffaith.
Manteision economaidd
Bydd gwaith atgyweirio a chynnal a chadw costus yn cael ei leihau’n sylweddol ar ôl cwblhau’r gwaith adfer. Hefyd, bydd y prosiect hwn yn creu miloedd o swyddi a bydd angen gweithwyr o’r diwydiant adeiladu gyda sgiliau arbenigol. Disgwylir y bydd hyfforddeion a phrentisiaid hefyd gael cyfle i weithio ar y prosiect hwn gyda chwmnïau’n buddsoddi yn y cynlluniau hyn.
Beth fydd yn digwydd i Dŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin?
Cyn y gall gwaith ar y Palas ddechrau, y cam cyntaf hollbwysig yw adfer Ystâd y Gogledd, casgliad o adeiladau o'r 18fed ganrif i'r 21ain ganrif, y rhan fwyaf ohonynt wedi'u rhestru ac eisoes yn cael eu defnyddio gan ASau, eu staff a staff Tŷ'r Cyffredin. Dyma le bydd Tŷ’r Cyffredin yn eistedd ac yn gweithredu tra bydd y Palas yn cael ei adfer.
Bydd pawb sy’n gweithio yn y Palas yn symud allan erbyn canol y 2020au er mwyn gallu dechrau’r gwaith adfer. Disgwylir y bydd y ddau Dŷ yn dychwelyd ddechrau’r 2030au, neu pan fydd y prosiect wedi’i gwblhau.
Gallwch weld trosolwg o’r cynllun ar gyfer y prosiect cyfan, gan gynnwys symud y Senedd yma.
Symud Tŷ’r Arglwyddi
Disgwylir i Dŷ’r Arglwyddi symud i Ganolfan Gynadledda Brenhines Elizabeth II, gyferbyn ag Abaty Westminster, a fydd â siambr ar gyfer cyfarfodydd a swyddfeydd. Mae’r llywodraeth eisoes yn berchen ar y Ganolfan Gynadledda, ac nid yw’n adeilad rhestredig, ac mae’n agos at adrannau eraill y llywodraeth a lleoliad dros dro Tŷ’r Cyffredin.
Symud Tŷ’r Cyffredin
Dyma fydd cam hanfodol cyntaf y prosiect adfer ac adnewyddu. Ar ôl eu symud, bydd pob AS yn gweithio o fewn yr un safle diogel hwn. Mae gan Ystad y Gogledd siambr yn Richmond House sy’n debyg o ran cynllun i Siambr bresennol Tŷ’r Cyffredin, ond mae’n darparu mwy o hygyrchedd i ASau ac ymwelwyr, gan gynnwys mynediad i gadeiriau olwyn i’r oriel gyhoeddus.
Diogelu’r casgliad treftadaeth
Mae Palas San Steffan yn gartref i gasgliad unigryw o dros 25,000 o weithiau celf, dodrefn, archifau a chasgliadau llyfrgell. Mae hyn yn cynnwys tua 11,000 o eitemau o ddodrefn, clociau a serameg a dros 9,000 o wrthrychau celf. Mae llawer o wrthrychau unigryw yn y casgliad, fel Gorsedd y Teyrn yn Siambr yr Arglwyddi a dodrefn a ddyluniwyd gan Giles Gilbert Scott, a gafodd y dasg o ddodrefnu’r rhannau o Dŷ’r Cyffredin a fomiwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Rhoddodd Augustus Pugin, a ddyluniodd du mewn gwreiddiol yr adeilad, lawer o eitemau fel serameg a llestri arian yn rhoddion.
Bydd y Rhaglen Adfer ac Adnewyddu yn trefnu’r gwaith o ddiogelu’r eitemau hyn. Byddant i gyd yn cael eu symud yn ystod y prosiect i’w cadw’n ddiogel, ac yna’n cael eu dychwelyd ar ôl hynny oni bai eu bod ar fenthyg mewn amgueddfeydd neu orielau eraill. Bydd rhai yn anoddach i’w diogelu nag eraill, fel y casgliad o ffabrigau a ddefnyddiwyd drwy gydol hanes yr adeilad, gyda rhai ohonynt yn eithriadol o fregus.
Dysgwch fwy am y prosiect adfer
Gallwch weld y newyddion diweddaraf am y prosiect, o ddyddiadau allweddol i ddiweddariadau ar gynnydd y gwaith, yn ogystal ag ymweld â safle Ystâd y Gogledd, lle bydd y prosiect yn dechrau.
Eisiau dechrau arni ym maes adeiladu? Chwiliwch drwy’r gwahanol rolau ar ein safle, neu edrychwch ar brentisiaethau, ffordd wych o ddechrau arni yn y diwydiant.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ni ar Facebook, Twitter, Instagram, ac YouTube.