Beth yw'r Rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch?
Mae’r Rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yn fenter ar draws y diwydiant sy’n ceisio newid diwylliant adeiladu a gwneud gweithleoedd yn lleoedd gwell i bawb.
Cafodd y rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch ei chreu, ei darparu a’i datblygu gan Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi i ddarparu hyfforddiant, adnoddau ac arweiniad am ddim i’r diwydiant sy’n cefnogi busnesau i fod yn fwy arloesol a chroesawgar drwy fynd i’r afael â heriau diwylliannol yn y gweithle. Mae hyn, yn ei dro, yn helpu i ddenu a chadw ystod ehangach a mwy amrywiol o weithwyr yn y diwydiant.
Gall unrhyw un gael gafael ar adnoddau ar-lein am ddim y rhaglen – sydd ar gael yn y pecyn Tegwch, Cynhwysiant a Pharch – a mynd i weithdai hyfforddi am ddim. Mae’r diwydiant adeiladu’n dod yn fwyfwy amrywiol, croesawgar a chynhwysol – gan chwalu mythau a stereoteipiau sydd wedi hen ennill eu plwyf. Mae gan y Rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch ran allweddol yn y newidiadau diwylliannol cadarnhaol yn y diwydiant.
Pam mae’r Rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yn bwysig
Mae’r diwydiant wedi gwneud cynnydd gwych dros y blynyddoedd diwethaf o ran amrywiaeth, ond mae mwy o waith i’w wneud o hyd. Mae bron i 16% o’r gweithlu presennol yn fenywod, ffigur sydd wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf, ac er bod mwy o bobl o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn ymuno â’r diwydiant adeiladu, dim ond 6% o’r cyfanswm ydynt o hyd. Mae hyn ychydig yn wahanol i’r darlun cenedlaethol, lle mae 18.5% o boblogaeth y DU yn dod o leiafrifoedd ethnig, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio ym maes adeiladu dros 40 oed, ac mae’r rheini o dan 25 oed yn lleiafrif – fodd bynnag, erbyn 2030, mae disgwyl y bydd cynnydd o 35% yn nifer yr oedolion ifanc sy’n ymuno â’r gweithlu cyffredinol. Felly, mae hwn yn gyfle gwych i’r diwydiant.
Dyma pam ei bod mor hanfodol cael mentrau fel y Rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch – er mwyn annog mwy o bobl ifanc, menywod a lleiafrifoedd ethnig i ymuno â’r diwydiant, mae angen i bobl deimlo fod y diwydiant adeiladu’n groesawgar, yn barchus, yn deg ac yn gynhwysol.
Mae’r Rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yn cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y materion hyn, ond mae hefyd yn arwain at wella ymddygiad mewn cwmnïau. Mae hyn yn helpu i greu amgylchedd mwy croesawgar i bobl newydd sy’n ymuno â’r diwydiant.
Canfu adolygiad yn 2021 o’r Rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch y wybodaeth ganlynol:
- Roedd 96% o gyfranogwyr yn dweud bod y gweithdai a’r deunyddiau’n rhagorol neu’n dda
- Roedd 92% yn dweud bod y sgyrsiau blwch offer yn rhagorol neu’n dda
- Roedd 89% yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso i ddelio’n fwy effeithiol â materion Tegwch, Cynhwysiant a Pharch
- Roedd 82% yn teimlo eu bod yn ddigon hyderus i herio ymddygiad gwael erbyn hyn
Pecyn cymorth Tegwch, Cynhwysiant a Pharch
Y pecyn Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yw cartref adnoddau rhad ac am ddim y rhaglen, sy’n cynnwys modiwlau e-ddysgu, sgyrsiau fideo blwch offer, gweminarau, cyrsiau hyfforddi a llawer mwy.
Y diwydiant adeiladu ddatblygodd y pecyn cymorth ar gyfer y diwydiant adeiladu. Lluniwyd llawer o’r adnoddau i gael eu darparu’n fewnol gan reolwyr neu hyfforddwyr i’w gweithwyr. Mae cyfres o sgyrsiau blwch offer ar fideo ar gael i weld a yw eich cwmni wedi cofrestru gydag Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi.
Os hoffech chi i’ch cwmni fynd ati’n well i wreiddio’r egwyddorion a’r manteision busnes o gael gweithle mwy teg, mwy cynhwysol a mwy parchus, beth am annog eich rheolwr i ddefnyddio’r pecyn Tegwch, Cynhwysiant a Pharch? Mae yna sesiynau gweithdy rhyngweithiol ar-lein dan arweiniad hyfforddwr sy’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, gan ddod â’r Rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch i’ch bwrdd gwaith.
Mae yna hefyd ddetholiad o adnoddau e-ddysgu ar gael i danysgrifwyr, gan gynnwys manteision gweithio hyblyg, deall anableddau anweledig, rheoli sgyrsiau heriol, a chyfres o astudiaethau achos.
Pwy sy’n gyfrifol am y Rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch?
Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi sy’n cyflwyno’r rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch.
Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi
Menter gydweithredol yw Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi sydd wedi ennill gwobrau ac yn cynnwys dros 125 o bartneriaid yn y diwydiant, gan gynnwys cwmnïau adeiladu, cyrff sector, sefydliadau ac elusennau. Mae'r Ysgol yn darparu hyfforddiant ac adnoddau am ddim i helpu cwmnïau adeiladu a chyflenwyr i fod yn fwy cynaliadwy ac yn fwy cynhwysol.
Daw 40% o ôl troed carbon y DU o’r amgylchedd adeiledig – tua hanner ohono o ynni a ddefnyddir mewn adeiladau, ar ffyrdd ac ar reilffyrdd. Rhan o brif nod yr Ysgol yw cyflwyno mesurau mwy eco-gyfeillgar i gadwyni cyflenwi prosiectau adeiladu – ac mae’r hyfforddiant y mae wedi’i ddatblygu yn helpu cwmnïau i gyflawni hyn.
Sut mae amrywiaeth a chynaliadwyedd yn mynd law yn llaw
Mae cynaliadwyedd ac amrywiaeth a chynhwysiant yn bartneriaid naturiol; mae adeiladu ar flaen y gad o ran adeiladu byd mwy cynaliadwy a chyflawni Sero Net, ond er mwyn gwneud hyn, mae angen i’r diwydiant sicrhau ei fod yn ddigon croesawgar i ddenu’r gweithwyr sydd eu hangen arno.
Iechyd a llesiant meddyliol
Un o flaenoriaethau’r Rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yw eirioli dros iechyd meddwl a llesiant.
Gall pobl sy’n gweithio ym maes adeiladu fod yn fwy agored i ddioddef iechyd meddwl gwael. Gall y gwaith fod yn straen, gydag oriau hir, a gall fod yn anodd yn feddyliol ac yn gorfforol. Un o sgil-effeithiau dominyddiaeth dynion yn y diwydiant yw pa mor amlwg yw’r ‘diwylliant o ddistawrwydd’ a stigma ynghylch materion iechyd meddwl.
Mae’r diwydiant yn cynnal cyfres o fentrau pwysig i gefnogi’r rheini sydd mewn angen. Yn ogystal â’r rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch, mae cynlluniau fel “Dechrau’r Sgwrs” a llinell gymorth y diwydiant Adeiladu yn annog pobl i fod yn agored os ydynt yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.
Mae’r Rhaglen Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yn darparu adnoddau defnyddiol ynghylch iechyd meddwl a llesiant, gan roi awgrymiadau ar gyfer sut mae cynnal iechyd meddwl da, a sut i adnabod arwyddion afiechyd meddwl.
Y Rhwydwaith Llysgenhadon Tegwch, Cynhwysiant a Pharch
Ydych chi’n gweithio yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig ac eisiau cymryd camau i wneud eich gweithle’n lle gwell i bawb? Os felly, byddech chi’n berffaith fel Llysgennad Tegwch, Cynhwysiant a Pharch.
Mae Llysgenhadon Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yn mynd ati i hyrwyddo diwylliant o degwch, cynhwysiant a pharch yn eu gweithle. Maen nhw’n gweithio’n agos yn eu sefydliad i hyrwyddo Tegwch, Cynhwysiant a Pharch fel manteision busnes ac yn herio ymddygiad a gweithdrefnau nad ydynt yn gynhwysol i gael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant y gweithle.
Gall unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant mewn unrhyw swydd fod yn Llysgennad Tegwch, Cynhwysiant a Pharch; does dim gwahaniaeth ar ba lefel rydych chi wedi eich cyflogi yn eich sefydliad. Dylai uwch reolwyr roi cymorth penodol i chi i fod yn Llysgennad, yn ogystal â gallu cynnal perthnasoedd cadarnhaol yn seiliedig ar barch.
Manteision bod yn Lysgennad Tegwch, Cynhwysiant a Pharch
Mae Llysgenhadon Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yn helpu i wella diwylliant eu gweithle eu hunain a hefyd yn y diwydiant adeiladu yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, nid dyna ddiwedd y manteision – mae llawer o fanteision personol a phroffesiynol i ymuno â’r rhwydwaith Llysgenhadon Tegwch, Cynhwysiant a Pharch, gan gynnwys y canlynol:
- Datblygu gwybodaeth werthfawr drwy ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau dysgu Tegwch, Cynhwysiant a Pharch a fydd yn helpu i ehangu eich sgiliau cyffredinol
- Ymdeimlad o gyflawniad o chwarae eich rhan yn creu amgylchedd gwaith mwy agored, cynhwysol a pharchus
- Ymunwch â bwrlwm y rhwydwaith Llysgenhadon Tegwch, Cynhwysiant a Pharch, gan rannu a chydweithio ar wybodaeth ac arferion gorau
- Codwch eich proffil eich hun yn y gwaith ac yn y diwydiant, gan roi hwb i'ch CV gyda gweithgaredd allgyrsiol gwerthfawr.