Ble alla i ddod o hyd i brentisiaethau yn Amwythig?
Mae Swydd Amwythig yn enwog am ei bryniau, ei phontydd ac am fod ar y ffin â Chymru. Gan ei bod yn sir wledig yn bennaf, heb drefi na dinasoedd mawr, fe allech chi feddwl ei bod hi’n anodd dod o hyd i gyfleoedd prentisiaeth yma. Fodd bynnag, ni allai dim fod ymhellach o’r gwir.
Os ydych chi’n byw yn y sir, chwiliwch ar Talentview am y cyfleoedd prentisiaethau diweddaraf yn Swydd Amwythig.
Y prif leoliadau prentisiaethau yn Swydd Amwythig
Prentisiaethau yn Amwythig
Grŵp Colegau Amwythig (SCG) yw’r prif ddarparwr prentisiaethau yn Amwythig, sef tref sirol Swydd Amwythig. Gan weithio gyda chyflogwyr yn Swydd Amwythig, Telford a Wrekin a’r ardaloedd cyfagos, mae SCG yn cynnig prentisiaethau mewn sectorau fel Cyfrifeg, Adeiladu, Peirianneg, Gofal Plant, Gwaith Plymwr a Chynnal a Chadw Cerbydau Modur. Dylid cyflwyno ceisiadau ar wefan Grŵp Colegau Amwythig, yn ddelfrydol ychydig fisoedd cyn dyddiadau dechrau mis Medi.
Prentisiaethau yn Telford
Mae Telford wedi ei enwi ar ôl Thomas Telford, y peiriannydd sifil a adeiladodd rai o bontydd a thraphontydd enwocaf y 18fed a’r 19eg ganrif. Mae’n briodol o bosibl, felly, bod Coleg Telford yn cynnig amrywiaeth eang o brentisiaethau ym maes adeiladu a pheirianneg, ochr yn ochr â rhaglenni mewn cyfrifiadura, iechyd a gofal cymdeithasol, busnes a rheoli. Mae gan y coleg ganolfannau hyfforddi modern sydd â digon o gyfarpar, ac mae nifer ohonynt wedi eu hadeiladu’n benodol i ddarparu’r cyrsiau hyfforddi hyn yn y gwaith.
Prentisiaethau yng Nghroesoswallt
Mae Coleg Gogledd Swydd Amwythig yng Nghroesoswallt yn goleg partner yng Ngholeg Swydd Henffordd, Llwydlo a Gogledd Swydd Amwythig (HLNSC). Mae prentisiaethau Lefel 2, Lefel 3, Prentisiaethau Uwch a Gradd-brentisiaethau ar gael. Mae Coleg Walford, sydd ddim yn bell o Groesoswallt, ac sy'n rhan o HLNSC, yn gampws gwledig sy'n cynnig cyrsiau ar ofal anifeiliaid a marchogaeth, gan gynnwys prentisiaethau Lefel 2 mewn gwaith fferm, gofal a llesiant anifeiliaid, a milfeddygaeth.
Prentisiaethau yn Llwydlo
Roedd y bardd John Betjeman yn hoff iawn o Lwydlo. Fe’i galwodd ‘y dref brydferthaf yn Lloegr’. Bydd prentisiaid yn hoffi Llwydlo hefyd oherwydd bod cyfleoedd yma i ennill cymhwyster mewn lletygarwch, gofal plant, gweithrediadau warws a marchnata. Mae gallu ennill cyflog wrth ddysgu yn un o fanteision mawr dilyn prentisiaeth, ond mae gwneud hynny mewn tref mor dawel a dymunol â Llwydlo yn fantais annisgwyl arall i brentisiaid.
Mathau o brentisiaethau yn Swydd Amwythig
Diwydiannau sy’n cynnig prentisiaethau
Mae’r sectorau a ganlyn yn cael eu gwasanaethu’n dda gan brentisiaethau yn Swydd Amwythig, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau gyrfa newydd yn unrhyw un o’r diwydiannau hyn, dylech allu dod o hyd i raglen i chi:
- Adeiladu
- Modurol
- Ffermio, Gwaith Cefn Gwlad a Gofalu am Anifeiliaid
Cynlluniau prentisiaeth poblogaidd yn Swydd Amwythig
SBC Training, sydd â dau gyfleuster yn Amwythig ac un arall yng Nghroesoswallt, yw prif ddarparwr rhaglenni prentisiaeth y sir. Mae’n cynnig prentisiaethau Lefel 2 a 3 uchel eu parch mewn meysydd fel Cyfrifeg, Gweinyddu Busnes, Adeiladu, Peirianneg a Gweithgynhyrchu, neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae SBC Training yn ymfalchïo mewn lefelau uchel iawn o foddhad cwsmeriaid, cyfraddau llwyddiant sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol a hanes o 98% o brentisiaid yn dod o hyd i waith parhaol.
Beth yw manteision gwneud prentisiaeth?
Cael profiad ymarferol
Nid oes unrhyw beth i guro’r profiad seiliedig ar waith mae prentisiaid yn ei gael. Fel rhan o brentisiaeth, rydych chi’n treulio 80% o’ch amser yn gweithio i gyflogwr, yn dysgu gan gydweithwyr ac yn ymateb i heriau a sefyllfaoedd bywyd go iawn o ddydd i ddydd.
Cael cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant
Fel prentis, byddwch yn cael tâl wrth ddysgu, er mwyn i chi allu ennill cymhwyster sy’n benodol i’r diwydiant heb fod angen benthyciad myfyriwr arnoch. Byddwch yn cael eich cyflogi’n amser llawn (rhwng 30 a 40 awr yr wythnos fel arfer), sy’n cynnwys amser a dreulir gyda’ch darparwr hyfforddiant.
Gwella eich cyflogadwyedd
I’r rhai sy'n gadael ysgol, mae prentisiaeth yn ddewis arall delfrydol yn lle Safon Uwch neu fynd i’r brifysgol. Os nad ydych chi’n hoffi’r syniad o astudio’n amser llawn, mae prentisiaeth yn mynd â chi i fyd gwaith ac yn eich galluogi i ennill sgiliau ymarferol mewn swydd. Bydd prentis o unrhyw oedran yn gweld bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau ymarferol y gallwch eu cael o’ch hyfforddiant yn y gwaith. Mae prentisiaethau ar unrhyw lefel yn cael eu parchu’n eang gan fusnesau.
Sut i ddod o hyd i brentisiaeth yn Swydd Amwythig
Camau i ddod o hyd i brentisiaethau addas
Mae sawl ffordd o ddod o hyd i gyflogwyr yn Swydd Amwythig sy’n cynnig prentisiaethau. Gallwch ddefnyddio gwefannau fel Talentview, gwneud cais yn uniongyrchol i gyflogwyr, cysylltu â cholegau lleol neu ofyn i ffrindiau neu aelodau o’r teulu a ydynt yn gwybod am brentisiaethau sydd ar gael mewn cwmnïau.
Awgrymiadau ar gyfer gwneud cais am brentisiaethau
Os ydych chi’n gwneud cais am brentisiaethau, mae bob amser yn syniad da:
- Ymchwilio i’r sefydliad/cwmni yn llawn ymlaen llaw
- Dysgu hanfodion ysgrifennu llythyr eglurhaol
- Paratoi’n llawn ar gyfer cyfweliadau
Archwilio cyfleoedd prentisiaeth yn Swydd Amwythig
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y sector adeiladu, mae prentisiaethau ledled Swydd Amwythig yn rhoi cyfle i chi ddechrau adeiladu eich gyrfa. Chwiliwch ar Talentview ac fe ddewch chi o hyd i gyfleoedd ym meysydd Mesur Meintiau, Peirianneg Sifil, Gosod Dur, Toi a Gwaith Plymwr, ymysg eraill.