Cyngor gyrfa yn yr Alban
Ble gall pobl droi am gyngor gyrfa yn yr Alban? Mae nifer o sefydliadau a gwefannau sy’n gallu rhoi cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth, a darparu cyfleoedd i chwilio am waith, hyfforddiant a phrentisiaethau yn yr Alban.
Ble i gael cyngor ar yrfaoedd
Skills Development Scotland
Skills Development Scotland yw’r corff canolog sy’n helpu pobl o bob oed yn yr Alban i wella eu sgiliau yn y gwaith. Mae’n rhedeg gwasanaeth Cyngor a Chanllawiau Gwybodaeth Gyrfaoedd sy’n arfogi gweithlu heddiw a’r dyfodol gyda’r sgiliau i gyflawni eu potensial. Os ydych chi’n ddisgybl sy'n gadael yr ysgol yn yr Alban, bydd modd i chi weld cynghorwyr gyrfa o Skills Development Scotland. Yn y sgyrsiau gyrfa hyn, byddwch yn cael dealltwriaeth o’r sgiliau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt a’r opsiynau sydd ar gael i symud i fyd gwaith. Fe welwch swyddfeydd Skills Development Scotland ar y stryd fawr ac mewn lleoliadau cymunedol, sy'n cynnig gwybodaeth, cefnogaeth, cyngor ac arweiniad.
My World of Work
Mae My World of Work yn ganolfan wybodaeth gyrfaoedd i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yn yr Alban. Mae rhai o’r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys adnoddau i’ch helpu i ddysgu pa swyddi allai fod o ddiddordeb i chi ac i ddeall y sgiliau sydd gennych a allai eich helpu yn eich gyrfa.
Gallwch chwilio am swyddi, prentisiaethau, cyrsiau addysg bellach ac addysg uwch, cyfleoedd gwirfoddoli, cyrsiau ar-lein am ddim, a chael gwybodaeth am gyllid a grantiau i gefnogi dulliau dysgu. Mae cyfle hefyd i gael awgrymiadau ar ysgrifennu CV a thechnegau cyfweld.
Hwb Gyrfaoedd My Job Scotland
Mae hwn yn blatfform gwych! Yn ogystal â darparu amrywiaeth enfawr o wybodaeth am chwilio am waith, prentisiaethau a gwirfoddoli, ceir peiriant chwilio sy’n rhoi cyfle i chi chwilio am swyddi mewn sectorau fel awdurdodau lleol, gofal i oedolion, gofal plant, addysg a gwasanaethau brys.
Mae Hwb Gyrfaoedd My Job Scotland hefyd yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth gan gynnwys gwybodaeth am sut mae gwneud cais am swyddi, deall Fframwaith Credydau a Chymwysterau’r Alban, datblygu sgiliau cyfweld effeithiol, gwirfoddoli a phrentisiaethau.
Adnoddau chwilio am swyddi yn yr Alban
Cwmni Adeiladu Talentview
Un o’r gwefannau gorau i chwilio am brentisiaethau gwag ar hyn o bryd yw Talentview. Gallwch hidlo eich chwiliadau yn ôl rôl swydd, lleoliad a phrentisiaethau lefelau penodol.
Cynllun Cadw Talent CLC
Mae Cynllun Cadw Talent y Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu (CLC TRS) yn helpu unigolion talentog i arddangos eu profiad a’u harbenigedd. Mae’n helpu busnesau i ddod o hyd i’r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Drwy’r porth, gall unigolion gofrestru eu proffil personol a’u CV a chwilio am swyddi gwag.
Y prif safleoedd porth swyddi
Gallwch hefyd gofrestru gyda safleoedd swyddi fel Indeed neu TotalJobs. Byddwch yn gallu llwytho eich CV i fyny a gofyn am hysbysiadau swyddi i’ch helpu i ddod o hyd i gyfleoedd addas. Bydd cyflogwyr hefyd yn gallu cysylltu â chi’n uniongyrchol.
Chwilio am swydd ar Google
Gallwch chwilio am unrhyw beth ar Google, gan gynnwys chwilio am swydd. Mae peiriant chwilio Google Careers yn gadael i chi hidlo yn ôl maes swydd, lleoliad, sgiliau a chymwysterau a sefydliadau. Llwythwch broffil i fyny a gwneud cais yn uniongyrchol am unrhyw swydd a restrir.
Dod o hyd i dros 170 o yrfaoedd adeiladu
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes adeiladu, mae un lle i gael yr holl gyngor a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch. Mae gan Am Adeiladu wybodaeth fanwl a chrynodebau o dros 170 o wahanol lwybrau gyrfa yn y diwydiant adeiladu, o gyfrifeg i weldio.