Grymuso Llwyddiant: Cymdeithasau sy'n Cefnogi Peirianwyr Merched
Nid oedd yn hawdd i’r menywod arloesol a ffurfiodd y rhwydweithiau proffesiynol cyntaf ar gyfer peirianwyr benywaidd. Derbyniodd Hilda Counts, myfyriwr peirianneg drydanol, rai ymatebion rhyfeddol pan ysgrifennodd at brifysgolion ar draws yr Unol Daleithiau yn 1919 yn gofyn am fanylion myfyrwyr neu academyddion peirianneg benywaidd eraill:
“Rwy’n amau bod nifer y menywod sydd wedi dilyn cyrsiau peirianneg cyffredinol mor isel fel na fyddwch prin yn gallu ffurfio sefydliad”
“Nid ydym yn caniatáu i fenywod gofrestru yn yr Ysgol Peirianneg o dan y rheoliadau presennol”
Diolch byth, mae pethau wedi newid ers hynny, ac mae agweddau hefyd wedi newid. Oherwydd dylanwad menywod fel Counts ac Elsie Eaves, a gyd-sefydlodd Cymdeithas y Peirianwyr Benywaidd, mae menywod sy’n gweithio ym maes peirianneg yn cael cyd-gefnogaeth, yn gallu dysgu oddi wrth ei gilydd ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn teimlo eu bod wedi’u grymuso – i fod yn fwy hyderus yn eu gwaith, i dynnu sylw at anghydraddoldeb neu wahaniaethu ac i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol o beirianwyr benywaidd.
Dysgwch fwy am ddau o’r sefydliadau pwysicaf sy’n hyrwyddo achos menywod ym maes peirianneg heddiw.
Cymdeithas y Peirianwyr Benywaidd
Mae Cymdeithas y Peirianwyr Benywaidd (SWE) yn gymdeithas ryngwladol a sefydlwyd yn 1950 yn yr Unol Daleithiau. Dechreuodd dros 30 mlynedd yn gynharach pan ffurfiodd Hilda Counts Gymdeithas Peirianwyr a Phenseiri Benywaidd America. Ar y pryd, dim ond llond llaw o fenywod oedd yn astudio peirianneg ar draws UDA, felly roedd y gymdeithas anffurfiol yn ffordd o allu cysylltu â'i gilydd.
Beth mae Cymdeithas y Peirianwyr Benywaidd yn ei wneud?
Cenhadaeth y Gymdeithas yw:
Grymuso menywod i gyflawni eu potensial llawn mewn gyrfaoedd fel peirianwyr ac arweinwyr; ehangu delwedd y proffesiynau peirianneg a thechnoleg fel grym cadarnhaol o ran gwella ansawdd bywyd, a dangos gwerth amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae’n dathlu ac yn tynnu sylw at y gwaith arloesol a thrawsnewidiol y mae peirianwyr benywaidd yn ei wneud, gan ddangos yr effaith y gall peirianwyr ei chael o ran datrys problemau’r byd go iawn. Mae’n gwneud hyn drwy amrywiaeth o fentrau a gweithgareddau, gan gynnwys cynadleddau, digwyddiadau rhwydweithio, mentora, rhaglenni allgymorth, adnoddau a gwobrau.
Sut mae dod yn aelod o Gymdeithas y Peirianwyr Benywaidd?
Gall menywod sy’n fyfyrwyr peirianneg neu STEM a gweithwyr proffesiynol ymuno â’r Gymdeithas yma. Mae sawl math gwahanol o aelodaeth, yn amrywio o golegol i broffesiynol, athrawon i aelodau oes.
Pwy yw Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas y Peirianwyr Benywaidd?
Karen Horting yw Cyfarwyddwr Gweithredol presennol a Phrif Swyddog Gweithredol Cymdeithas y Peirianwyr Benywaidd, swydd y mae hi wedi’i dal ers 2013.
Cymdeithas Peirianneg y Menywod
Mae Cymdeithas Peirianneg y Menywod (WES), sydd bellach dros ganrif oed, yn sefydliad a wnaeth gychwyn yn y DU ac sydd â nodau ac amcanion tebyg i Gymdeithas y Peirianwyr Benywaidd.
Beth yw hanes Cymdeithas Peirianneg y Menywod?
Ffurfiwyd Cymdeithas Peirianneg y Menywod yn 1919 gan bwyllgor o Gyngor Cenedlaethol y Menywod. Sefydlwyd y Gymdeithas ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf pan fu menywod yn cyflawni gwaith ym maes peirianneg tra oedd dynion i ffwrdd yn y rhyfel. Ar ôl i’r rhyfel ddod i ben, cafodd menywod eu gorfodi i adael y swyddi hyn, er bod llawer ohonynt yn eu mwynhau ac eisiau parhau i weithio ym maes peirianneg. Sefydlwyd Cymdeithas Peirianneg y Menywod yn bennaf i hyrwyddo peirianneg fel swydd addas i fenywod, un y gallent ei gwneud o leiaf cystal os nad yn well na dynion.
Beth mae Cymdeithas Peirianneg y Menywod yn ei wneud?
Mae Cymdeithas Peirianneg y Menywod yn hyrwyddo cyflawniadau peirianwyr benywaidd ac yn rhoi cymorth i fenywod sy'n gweithio ym maes peirianneg yn y DU. Mae’r Gymdeithas yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio ledled y wlad, lle gall aelodau glywed siaradwyr gwadd, cymryd rhan mewn gweithdai a chwrdd â pheirianwyr eraill. Mae’r Gymdeithas hefyd yn cynnal ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg a ‘Peiriannydd yw Hi’, yn ogystal â Gwobrau WES a’r gwobrau 50 Menyw Amlycaf ym maes Peirianneg.
Cymdeithas Peirianneg y Menywod a Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg
Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg (INWED) yn ymgyrch ymwybyddiaeth ryngwladol sy’n codi proffil menywod sy’n gweithio ym maes peirianneg ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd gyrfa niferus cyffrous sydd ar gael i fenywod a merched yn y diwydiant.
Yn 2014, lansiodd Cymdeithas Peirianneg y Menywod Ddiwrnod Cenedlaethol Menywod ym maes Peirianneg, a thair blynedd yn ddiweddarach trodd hyn yn INWED, digwyddiad blynyddol a gydnabyddir yn fyd-eang sy’n arddangos llwyddiannau peirianwyr benywaidd ac yn tynnu sylw at yr angen am fwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y diwydiant.
Sut galla i ddod yn aelod o Gymdeithas Peirianneg y Menywod?
Mae’n hawdd dod yn aelod o Gymdeithas Peirianneg y Menywod. Mae amrywiaeth o opsiynau aelodaeth, gan gynnwys aelodaeth lawn, aelodaeth gyswllt, myfyriwr/prentis, cefnogwr a chymrodoriaeth. Does dim rhaid i chi weithio ym maes peirianneg i fod yn aelod o Gymdeithas Peirianneg y Menywod. Mae aelodaeth lawn yn agored i unrhyw fenyw sy'n gweithio ym meysydd peirianneg, technoleg, TG neu wyddoniaeth, neu unrhyw fenyw sydd â chymwysterau neu gefndir STEM ond nad yw bellach yn gweithio yn y meysydd hyn.
Ydy dynion yn gallu mynychu SWE a WES?
Gall dynion ddod yn aelodau o Gymdeithas y Peirianwyr Benywaidd a Chymdeithas Peirianneg y Menywod. Gall peirianwyr gwrywaidd a rhai nad ydynt yn beirianwyr ymuno â SWE a WES fel Aelodau Cyswllt.