Gwisgo i Lwyddo
Mae James Whitaker, Cyfarwyddwr Marchnata yn Dickies Workwear – un o noddwyr Rownd Derfynol Genedlaethol Adeiladu Sgiliau y DU eleni – yn rhannu ei gyngor ynghylch beth i chwilio amdano wrth siopa am ddillad gwaith proffesiynol ...
Mae’r ansawdd a’r dewis sydd ar gael yn y farchnad dillad gwaith heddiw yn drawiadol. Fodd bynnag, gyda chymaint o ddewis, gall fod yn dasg frawychus i wybod o ble i ddechrau. Yn Dickies, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr wrth iddyn nhw ddechrau eu gyrfaoedd.
Dyma fy nghyngor i ar yr hyn y mae angen i chi feddwl amdano wrth siopa am ddillad ac esgidiau i’ch cefnogi yn y gwaith:
Dewis cynnyrch addas i’r diben
Mae buddsoddi mewn dillad sydd wedi’i ddylunio’n benodol i’ch cefnogi yn y gwaith yn cynnig llawer o fanteision ymarferol, gan helpu i hyrwyddo edrychiad modern a phroffesiynol.
Er enghraifft, un eitem o ddillad y byddem bob amser yn cynghori crefftwyr i fuddsoddi ynddynt yw trowsus sydd wedi’u dylunio fel dillad gwaith, yn hytrach na gwisgo jîns. Chwiliwch am nodweddion fel pocedi ymarferol ar gyfer eitemau penodol (fel pren mesur neu ffôn), a dolenni ar gyfer morthwylion. Er mwyn bod mor hyblyg â phosibl, dylai trowsus gynnwys bandiau elastig am eich canol a phwythau wedi’u hatgyfnerthu, a dylai cynhyrchion premiwm hefyd gynnwys padiau pen-glin.
Ystyriwch bob posibilrwydd
Efallai fod hynny’n swnio’n amlwg, ond pan rydych chi’n debygol o fod yn gweithio yn yr awyr agored mewn pob math o dywydd, mae’n bwysig bod gennych eitemau a fydd yn gwneud eich swydd mor gyfforddus â phosibl – boed hi’n boeth iawn neu’n tywallt y glaw.
Er enghraifft, ar ddiwrnodau pan fydd y tymheredd yn codi’n sylweddol rhwng dechrau’r bore a diwedd y prynhawn, mae’n allweddol eich bod yn gwisgo haenau. Dylech ystyried opsiynau fel top thermol haen isaf sy’n ddigon smart i fod yn eitem ar ei phen ei hun wrth i’r diwrnod gynhesu.
Yn yr un modd, bydd buddsoddi mewn siwt law lawn sy’n dal dŵr ac yn gallu ffitio’n rhwydd ac yn gyfforddus dros eich dillad arferol yn sicrhau eich bod yn barod amdani beth bynnag fo’r tywydd. Dewiswch eitemau sy’n dal dŵr ac y gallu anadlu.
Chwiliwch am ddefnyddiau arloesol
Mae gwneuthurwyr dillad gwaith yn gallu cael gafael ar ffabrigau sy’n fwy hyblyg a gwydn nag erioed o’r blaen, gyda buddion ychwanegol fel gwarchod rhag pelydrau UV. Mae hyn yn rhoi haen ychwanegol o amddiffyniad rhag yr haul i grefftwyr wrth iddynt weithio yn yr awyr agored.
Rhai enghreifftiau penodol o hyn yw Coolcore®, sy’n rheoleiddio lleithder a Cordura®, sy’n cynnig amddiffyniad ychwanegol rhag traul ar baneli penelin a phengliniau, gan helpu dillad i bara’n hirach.
Cadw'n ddiogel
Os ydych chi’n debygol o fod yn gweithio yn yr awyr agored mewn amgylchiadau tywyll, mae gwelededd yn allweddol. Y siaced Wakefield yw un o’n datblygiadau arloesol ni yn y maes hwn. Mae’r siaced hon yn ymddangos fel siaced feddal arferol, ond mae’n mynd yn llachar pan fo’r golau’n wael, gan adael i’r sawl sy’n ei gwisgo fod yn weladwy heb amharu ar y steil.
Meddyliwch am eich delwedd
Gall gwisgo dillad sy’n hyrwyddo delwedd broffesiynol helpu i greu’r argraff iawn ar eich cyflogwyr, eich cydweithwyr a’ch cleientiaid yn y dyfodol.
Does dim angen cyfaddawdu gyda’ch dillad gwaith! Mae dyluniadau swyddogaethol, ymarferol sy’n gwneud eich swydd mor hawdd a diogel â phosibl, ac yn cynnig steil proffesiynol, yn rhywbeth y dylech ei fynnu wrth i chi siopa am ddillad ac esgidiau newydd.
Mae’r dillad gwaith diweddaraf ar gael ar: www.dicksworkwear.com