Gyrfaoedd digidol ym maes adeiladu
Mae mwy i adeiladu na sgiliau corfforol neu ddeunyddiau traddodiadol yn unig. Fel unrhyw ddiwydiant arall, mae technoleg ddigidol yn chwarae
Beth yw adeiladu digidol?
Adeiladu digidol yw’r defnydd o dechnoleg ac offer digidol yn y broses adeiladu, o ddylunio i gynllunio prosiect, o’r math o ddeunyddiau a ddefnyddir i’r ffordd y caiff adeiladau eu hadeiladu. Gellir ystyried unrhyw fath o feddalwedd neu dechnoleg ddigidol a ddefnyddir fel rhan o broses adeiladu yn adeiladwaith digidol.
Beth yw'r technolegau digidol a ddefnyddir yn y diwydiant adeiladu?
Mae’r diwydiant adeiladu yn newid i adlewyrchu’r defnydd mwy cyffredin o dechnoleg ddigidol. Mae sgiliau newydd yn cael effaith ar bron bob agwedd ar sut mae prosiect adeiladu yn gweithio. Wrth i faes adeiladu ddod yn fwy cynaliadwy, mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan fawr yn y newid hwn, oherwydd ei fod yn fwy effeithlon ac yn cael llai o effaith amgylcheddol na deunyddiau neu dechnolegau traddodiadol.
Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM)
Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM) yw pan fydd adeiladau a seilwaith yn cael eu dylunio â chymorth modelau digidol rhyngweithiol, yn hytrach na glasbrintiau papur traddodiadol. Mae’n ddatblygiad pwysig gan ei fod yn golygu cydweithio agosach rhwng contractwyr a chleientiaid gan y gallant oll weld y dyluniad a’r holl wybodaeth sy’n gysylltiedig ag ef, yn ogystal â gofyn cwestiynau ac awgrymu newidiadau.
Realiti Rhithiol ac Estynedig (VR ac AR)
Mae datblygiadau mewn VR ac AR yn golygu cynllunio mwy effeithlon ar gyfer prosiectau adeiladu oherwydd gall dylunwyr ddangos i gleientiaid sut olwg fydd ar eu hadeilad cyn i’r gwaith ddechrau. Gellir hefyd arddangos agweddau mwy cymhleth ar brosiectau yn weledol, gan gynorthwyo tryloywder, a helpu i leihau gwastraff deunydd neu lafur.
Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Mae AI yn ymwneud â defnyddio peiriannau neu feddalwedd sy’n gallu copïo swyddogaethau dynol a phrosesu symiau enfawr o ddata. Mewn adeiladu, gallai hyn fod yn roboteg neu’n beiriannau sy’n ymgymryd â llafur llaw prosiect i arbed amser ac arian, neu raglenni sy’n cymryd data a’i droi’n fodelau 3D o brosiectau, fel y gellir eu dadansoddi ar gyfer diogelwch a chost-effeithlonrwydd cyn iddynt gael eu hadeiladu’n gorfforol.
Rhyngrwyd Pethau (IoT)
Mae IoT bellach yn rhan sefydledig o flwch offer safle adeiladu. Gellir defnyddio synwyryddion IoT ar gyfer monitro amgylcheddol (tymheredd aer, lefelau sŵn, ansawdd dŵr) neu i wirio am doriadau i ddiogelwch ac afreoleidd-dra gweithredol.
Argraffu 3D
Mae argraffu 3D yn helpu i greu strwythurau dylunio cymhleth neu bwrpasol ar raddfa lai, gan leihau costau deunydd a llafur ac yn cynhyrchu llai o wastraff. Gallai hefyd ganiatáu i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau mewn amgylcheddau nad ydynt yn addas i bobl weithio ynddynt neu eu defnyddio i leihau damweiniau.
Dronau
Mae dronau (neu gerbydau awyr di-griw) yn arf gwerthfawr ar gyfer ystod eang o weithwyr adeiladu proffesiynol yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â rheoli safle neu arolygu. Gellir defnyddio dronau ar gyfer arolygon ac archwiliadau o’r awyr, i amlygu materion iechyd a diogelwch neu i fonitro cynnydd prosiectau.
Technoleg symudol a chyfrifiadura cwmwl
Mae technoleg symudol, gan gynnwys apiau a meddalwedd negeusua gwib, wedi gwella cyfathrebu a rheoli amser ar safleoedd adeiladu. Mae llwyfannau cyfrifiadura cwmwl yn caniatáu i unrhyw un mewn tîm prosiect rannu a diweddaru dogfennau mewn amser real, gan wneud rheoli prosiect yn llawer mwy effeithlon.
Gyrfaoedd adeiladu digidol
Technegydd Pensaernïol
Mae technegydd pensaernïol yn arbenigo mewn cyflwyno dyluniadau adeiladu gan ddefnyddio technoleg. Maent yn darparu arweiniad technegol i gleientiaid ac yn cysylltu â’r tîm dylunio adeiladu i ddod â strwythurau newydd yn fyw. Mae technegwyr pensaernïol yn gweithio gyda phenseiri i helpu datblygu modelau adeiladu, cyn i’r gwaith adeiladu cychwyn.
Technegydd CAD
Mae technegydd CAD yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i gynhyrchu lluniadau 2D a 3D ar gyfer prosiectau adeiladu a gweithgynhyrchu. Mae technegwyr neu weithredwyr CAD yn dylunio adeiladau, peiriannau neu gydrannau. Maent yn cymryd gwybodaeth gymhleth ac yn ei defnyddio i gynhyrchu diagramau adeiladu technegol ar gyfer penseiri, peirianwyr a gweithwyr adeiladu eraill. Canfyddwch sut beth yw gweithio fel technegydd CAD dan hyfforddiant.
Peiriannydd dysgu peiriannau
Mae peirianwyr dysgu peiriannau yn dylunio'r meddalwedd ac yn creu'r algorithmau sy'n galluogi peiriannau i ddeall a dehongli symiau mawr o ddata, ac yna argymell camau gweithredu. Mae dysgu peiriannau yn cael ei gymhwyso fwyfwy mewn adeiladu, gan chwarae rhan mewn dylunio cynhyrchiol, rheoli risg a lliniaru iechyd a diogelwch.
Pensaer cwmwl
Mae penseiri cwmwl yn gyfrifol am ddylunio strategaeth seilwaith cwmwl cwmni - penderfynu pa atebion sydd eu hangen, a sut maen nhw'n integreiddio ac yn cynnal pensaernïaeth y cwmwl unwaith y bydd wedi'i sefydlu. Nid yw penseiri cwmwl yn adeiladu nac yn peiriannu'r systemau eu hunain, dim ond sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu a'u rheoli'n effeithiol.
Rheolwr/Technegydd BIM
Bydd technegydd neu reolwr modelu gwybodaeth am adeiladu yn defnyddio meddalwedd a thechnolegau cyfrifiadurol i gasglu gwybodaeth am brosiect a chynhyrchu model mewn dimensiwn lluosog. Mae rheolwyr BIM yn gweithio gyda dylunwyr, cleientiaid a phenseiri i sicrhau bod deunyddiau cynhyrchu a dyluniadau yn cael eu creu a’u rheoli’n effeithlon yn ystod prosiect. Darllenwch ein hastudiaeth achos ar weithio fel cydlynydd BIM.
Cydlynydd technegol
Mae cydlynydd technegol yn ymdrin ag agweddau technegol prosiect. Yn dibynnu ar y maes adeiladu, gallai cydlynwyr technegol fod yn trin ymholiadau, yn helpu i gynhyrchu a dehongli diagramau technegol, cynlluniau a gwaith papur, llunio amserlenni cyflawni, a delio â gweinyddu prosiectau.
Datblygwr VR/AR
Mae datblygwyr Realiti Rhithiol a Realiti Estynedig yn creu'r cymwysiadau 3D trochi y mae'r diwydiant adeiladu yn eu defnyddio fwyfwy i arddangos dyluniadau prosiect. Mae datblygwyr VR ac AR yn defnyddio eu gwybodaeth o ieithoedd rhaglennu fel C#, Java, Python a C++ i adeiladu'r amgylcheddau rhyngweithiol hynod drawiadol hyn.
Technegydd argraffu 3D
Mae technegwyr argraffu 3D yn cynhyrchu'r eitemau printiedig 3D sy'n helpu i drawsnewid cynaliadwyedd y diwydiant adeiladu. Gan weithio'n agos gyda delweddwyr 3D a modelwyr BIM, mae'r gweithwyr proffesiynol medrus hyn yn dysgu sut i weithredu, gwasanaethu a thrwsio peiriannau argraffu 3D. Gallai technegwyr argraffu 3D fod yn gwneud modelau, prototeipiau a rhannau gwirioneddol o adeiladau.
Gweithredwr/peilot drôn
Nid gweithredwr drôn o reidrwydd yw'r person sy'n hedfan y drôn, ond gallant fod. Gweithredwyr yw'r person neu'r sefydliad sydd wedi'i gofrestru gyda'r Awdurdod Hedfan Sifil fel perchennog y drôn. Mae'n rhaid i beilotiaid neu hedfanwyr basio prawf theori i fod yn gymwys ar gyfer ID Hedfanwr a byddant yn ddefnyddwyr medrus o feddalwedd hedfan dronau a phecynnau delweddu 3D.
Wythnos adeiladu digidol
Os ydych chi am gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr offer, y dechnoleg a'r syniadau diweddaraf sy'n newid y ffordd y mae'r byd yn cael ei adeiladu, y digwyddiad i fynd iddo yw Wythnos Adeiladu Digidol. Yn cael ei gynnal yn ExCel London ym mis Mehefin bob blwyddyn, byddwch yn cyfarfod â’r cwmnïau a’r bobl sy’n gyrru pensaernïaeth, dylunio ac adeiladu yn eu blaenau.
Yn barod i archwilio gyrfa ddigidol ym maes adeiladu?
Dysgwch fwy am y gwahanol fathau o yrfaoedd digidol sydd ar gael yn y diwydiant:
- Pori ystod Am Adeiladu o dros 170 o broffiliau swyddi
- Darllen mwy am straeon swyddi pobl sy’n gweithio ym maes adeiladu
- Dysgu am yrfaoedd cynaliadwy ym maes adeiladu