Crane

Mae gweithredwyr peiriannau yn gyrru, yn gweithredu ac yn cynnal a chadw peiriannau ac offer adeiladu mawr ar safleoedd adeiladu, fel peiriannau tyrchu, tryciau dadlwytho a chraeniau. Mae’r peiriannau hyn hefyd yn cael eu defnyddio’n helaeth mewn chwareli, ar safleoedd cynnal a chadw ffyrdd ac ar safleoedd diwydiannol eraill. Yma, rydyn ni’n edrych ar sut mae hyfforddi i fod yn weithredwr peiriannau, eu prif gyfrifoldebau a rhai o’r peiriannau maen nhw’n gweithio arnyn nhw.

Beth yw peiriannau adeiladu?

Mae peiriannau adeiladu’n cyfeirio at unrhyw un o’r cerbydau peiriannau trwm ar safle adeiladu sy’n symud deunydd ar raddfa fawr – yr offer sydd ei angen i glirio, tirlunio neu baratoi safle, er enghraifft. Dyma’r ‘bwystfilod mawr’ ar unrhyw safle adeiladu – y peiriannau cloddio, y tryciau dadlwytho a’r llwythwyr sydd angen gyrrwr a digon o hyfforddiant i allu eu trin dan reolaeth.

Y gwahanol fathau o beiriannau

Mae sawl math o beiriannau adeiladu, ac mae gweithredwyr peiriannau’n tueddu i arbenigo mewn un ohonynt yn unig – beth am gael golwg ar rai o’r peiriannau y gallech chi fod yn eu gweithredu.

Peiriannau tyrchu

Mae peiriannau tyrchu’n beiriannau amlbwrpas sy’n cloddio ac yn symud deunyddiau fel pridd, creigiau a cherrig. Gyda chab sy’n cylchdroi 360 gradd a breichiau cloddio, gall peiriannau tyrchu hefyd gynnwys bwcedi, gwellaifau a thorrwr i gyflawni amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys:

  • Creu ffosydd
  • Symud deunydd o amgylch safle
  • Dymchwel
  • Tirlunio
  • Mwyngloddio
  • Gosod stanciau a siafftiau yn y ddaear
  • Cael gwared ar eira

Tryciau dadlwytho

Dim ond ar gyfer cludo, cario llwythi mawr o ddeunyddiau ar draws safleoedd adeiladu y defnyddir tryc dadlwytho. Gyda sgip fawr o flaen y caban, mae’n bosibl llwytho a dadlwytho deunydd mewn llwythi llawn neu lwythi rhannol i’r ardal a ddynodir. Dyma rai o’r mathau o dryciau dadlwytho sy’n cael ei ddefnyddio amlaf ar gyfer gwaith adeiladu:

  • Tryciau dadlwytho gyda sgip dadlwytho uchel
  • Tryciau dadlwytho gyda sgip troi
  • Tryciau dadlwytho gyda sgip blaen trwm
  • Tryciau dadlwytho a chludo ar draciau

Llwythwyr telesgopig

Mae llwythwyr telesgopig yn cynnwys braich estynadwy fawr – neu fŵm – i godi, symud a gosod deunyddiau mewn mannau uchel. Gall llwythwr telesgopig ymgymryd â sawl swyddogaeth, gydag atodiadau fel ffyrc, winshis a bwcedi sy’n eu galluogi i gwblhau amrywiaeth eang o swyddi ar y safle. Maen nhw’n cael eu defnyddio’n aml i wneud y canlynol:

  • Gosod deunyddiau cychwynnol
  • Codi a symud paledi
  • Cludo llwythi crog
  • Glanhau safle ar ddiwedd gwaith

Peiriannau Jac codi baw                   

Gall peiriannau jac codi baw gloddio a llwytho deunyddiau. Maen nhw’n beiriannau cyffredinol sydd i’w cael ar y rhan fwyaf o safleoedd adeiladu, ac yn aml maent yn cael eu defnyddio yn lle peiriannau cloddio a pheiriannau llwythwyr ar olwynion. Maen nhw’n cynnwys llwythwr pen blaen sy’n codi deunyddiau, yn ogystal â llwythwr cefn sy’n cloddio ac yn symud deunyddiau o’r un caban. Maen nhw’n cael eu defnyddio fel arfer ar gyfer y tasgau canlynol:

  • Dymchwel ar raddfa fach
  • Cludo deunyddiau adeiladu ysgafn
  • Cloddio a thyllu
  • Tirlunio
  • Torri deunyddiau

Y sgiliau sydd eu hangen i fod yn weithredwr peiriannau

Mae gweithredwyr peiriannau’n gyfrifol am beiriannau enfawr, felly mae’n swydd hynod fedrus sy’n talu’n dda. Mae gyrfaoedd eraill ar gael hefyd ym maes peiriannau:

H3: Gweithredu a chynnal a chadw peiriannau trwm

Fel arfer, mae gweithredwyr peiriannau’n arbenigo mewn un math o beiriant, fel peiriannau cloddio neu deirw dur, felly mae sgiliau gyrru da ac ymwybyddiaeth ofodol dda yn angenrheidiol.

Mae gan beiriannau adeiladu sawl gêr, pedal a nobyn – wrth weithredu’r holl rannau hyn ar yr un pryd, mae angen i chi hefyd gadw llygad ar y safle gwaith a’ch cyd-weithwyr. Os ydych chi’n adnabod eich peiriant fel cefn eich llaw, bydd hyn yn eich helpu i weithio’n effeithiol ac yn ddiogel, a bydd hyn yn gwella wrth i chi gael profiad.

I ddefnyddio peiriannau, bydd angen cerdyn CPCS arnoch chi.

Gweithio’n effeithiol mewn tîm

Rhaid i weithredwyr peiriannau weithio’n agos gyda chydweithwyr eraill ar safleoedd adeiladu. Efallai y bydd yn rhaid iddynt gyfathrebu â signalwyr slingio, sydd ar lefel y ddaear a dweud wrth y gweithredwr peiriannau pa symudiadau y mae angen iddynt eu gwneud gyda’u peiriannau. Mae hyn yn digwydd dros set radio neu drwy ddefnyddio signalau llaw, felly mae gwaith tîm rhagorol yn allweddol.

Mae gweithredwyr peiriannau’n gweithio ym mhob math o amgylcheddau adeiladu – mae’n rhaid iddyn nhw allu cyfathrebu’n glir er mwyn gweithio’n ddiogel.

Agwedd dda at waith

Dylai fod gan weithredwyr peiriannau agwedd dda at waith. Gall gweithio o amgylch peiriannau adeiladu mawr fod yn anodd yn gorfforol, felly mae’n allweddol fod unrhyw weithredwr peiriannau’n gallu ymdopi â gwaith llaw caled.

 

Prif gyfrifoldebau

Mae gan weithredwyr peiriannau swydd bwysig – mae ganddynt amrywiaeth o gyfrifoldebau sy’n ymwneud â pheiriannau trwm, ac mae angen i’w gwybodaeth am iechyd a diogelwch fod o safon uchel. Rhagor o wybodaeth am brif gyfrifoldebau a dyletswyddau bob dydd gweithredwyr peiriannau.

Atgyweirio a chynnal a chadw peiriannau

Yn ogystal â gweithredu peiriannau, mae gweithredwyr peiriannau’n gyfrifol am eu hatgyweirio a’u cynnal a’u cadw. Mae hyn yn dechrau gydag archwiliadau diogelwch sylfaenol, newid bwcedi ac unrhyw atodiadau eraill maen nhw’n eu defnyddio pan fydd angen. Fel arfer, mae tasgau cynnal a chadw sylfaenol yn digwydd bob dydd, felly mae angen gwybodaeth sylfaenol am fecaneg cerbydau.

Mae angen gwaith cynnal a chadw ataliol hefyd, o lanhau ac iro peiriannau i wirio cyflwr y brêcs aer a gwneud addasiadau brys. Fel arfer, cedwir cofnod i gadw golwg ar gyflwr y cyfarpar, felly mae’n rhaid i weithredwyr peiriannau fod yn gyfarwydd iawn â gweithdrefnau gweithredol a diogelwch.

Defnyddio cyfrifiaduron a meddalwedd

Mae llawer o bŵer cyfrifiadurol y tu ôl i’r peiriannau enfawr sy’n adeiladu strwythurau trawiadol. Gall gweithredwyr peiriannau ddefnyddio dyfeisiau llaw neu gyfrifiadur ar y peiriant, sy’n cael eu defnyddio i ganfod pibellau a gwifrau tanddaearol, dilyn cynlluniau, rheoli mecanweithiau ac atodiadau ac ati.

Gall fod yn ofynnol hefyd i weithredwyr peiriannau ddefnyddio meddalwedd arbenigol yn eu rôl – darperir hyfforddiant ar gyfer hyn bob amser, ond mae gwybodaeth sylfaenol am sut i ddefnyddio cyfrifiadur yn hanfodol.

Llwytho a symud deunyddiau

Elfen allweddol o rôl gweithredwr peiriannau yw defnyddio peiriannau a chyfarpar trwm i lwytho, symud neu wasgaru gwahanol ddeunyddiau neu helpu i godi neu ddymchwel strwythurau.

Mae hyn yn amrywio o helpu gyda gwaith cloddio neu ddymchwel ar safleoedd adeiladu i osod cyfarpar a chodi deunyddiau adeiladu. Yn aml, mae hyn yn cael ei wneud ar y cyd â pheiriannau eraill, gyda gweithredwyr craeniau, cywasgwyr, peiriannau tyrchu a pheiriannau cloddio yn cydweithio’n agos.

 

Cyrsiau hyfforddi gweithredwyr peiriannau

Nawr ein bod ni’n gwybod am rai o’r sgiliau allweddol sydd eu hangen, y cyfrifoldebau bob dydd a detholiad bach o’r peiriannau y gallech chi fod yn gweithio arnyn nhw – sut mae hyfforddi i fod yn weithredwr peiriannau?

Cyrsiau’r Coleg Adeiladu Cenedlaethol

Mae gan y Coleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC), sy’n cael ei redeg gan CITB, dri safle ledled y DU sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau i hyfforddi gweithredwyr peiriannau.

Mae’r canolfannau hyfforddi’n darparu hyfforddiant o’r radd flaenaf mewn amgylcheddau adeiladu go iawn wedi eu gweinyddu gan weithwyr proffesiynol. Maen nhw’n cynnig cyrsiau sy’n arbenigo mewn cynnal a chadw peiriannau yn ogystal â gweithrediadau peiriannau a rheoli peiriannau. Mae’r hyfforddiant yn enwog ac yn uchel ei barch yn y diwydiant, ac mae’n opsiwn gwych ar gyfer bod yn weithredwr peiriannau arbenigol.

Dyma rai o’r cyrsiau sydd ar gael:

Gall Cynllun Grantiau CITB dalu am gost cyrsiau hyfforddi fel hyn. Rhagor o wybodaeth

Dod o hyd i rôl gweithredwr peiriannau yn eich ardal chi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithredwyr peiriannau yn eich ardal leol ar Talentview.

 

Rhagor o wybodaeth am yrfa’n gweithredu peiriannau adeiladu

Mae gan Am Adeiladu ddigonedd o wybodaeth a chyngor am beth mae’n ei olygu i weithio fel gweithredwr peiriannau, a’r hyfforddiant y mae angen i chi ei wneud.