Menywod yn y diwydiant adeiladu: hanes byr
Gan fod miloedd o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu bob blwyddyn, heb sôn am brosiectau masnachol yn y dyfodol, mae arweinwyr y diwydiant adeiladu yn gwybod bod yn rhaid iddynt ddenu cynifer â phosibl o bobl i yrfaoedd ym maes adeiladu.
Am yn rhy hir, ystyriwyd bod y diwydiant yn fwy addas i ddynion, ond mae hyn wedi newid, ac mae’n dal i ddatblygu, gyda’r diwydiant adeiladu yn dod yn ddiwydiant addas i unrhyw un weithio ynddo.
Yn yr erthygl hon, rydym yn edrych yn fras ar sut y digwyddodd y newidiadau hyn ac yn rhannu straeon ysbrydoledig am y menywod sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu heddiw.
Pam mae angen menywod arnom yn y diwydiant adeiladu?
Mae angen mwy o fenywod arnom yn y diwydiant adeiladu er mwyn adlewyrchu’r gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi. Mae menywod yn defnyddio’r gofodau hyn, felly dylen nhw fod yn eu hadeiladu nhw hefyd. Bu cynnydd da yn ddiweddar. Mae disgwyl i fwy na chwarter y gweithlu adeiladu fod yn fenywod erbyn 2020, sy’n gynnydd o’r lefel bresennol o tua 14%. Mae cyflogau menywod sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu yn codi hefyd, ac mae cyfran y menywod mewn swyddi uwch wedi bron a threblu ers 2005.
Os yw arbenigwyr yn iawn y gallai hanner y gweithlu newydd fod yn fenywod cyn bo hir, yna mae’n rhaid ystyried hynny’n garreg filltir bwysig mewn hanes hir lle mae menywod wedi gorfod brwydro’n galed i gael cydnabyddiaeth a chydraddoldeb ym mhob rôl – fel dylunwyr, penseiri, peirianwyr a gweithwyr adeiladu, a hefyd fel defnyddwyr gofodau, adeiladau, sefydliadau a’r amgylchedd adeiledig ei hun.
Penseiri benywaidd arloesol
Yr Arglwyddes Anne Clifford
Yn ôl y cofnodion, yr Arglwyddes Anne Clifford (1590–1676) oedd y fenyw gyntaf yn hanes Prydain i arwain prosiectau adeiladu. Gyda phenderfyniad a dycnwch anhygoel, treuliodd Clifford lawer o’i hoes yn ymladd brwydr gyfreithiol hirfaith i adennill ystadau mawr ei theulu, a adawyd i’w hewythr gan ei thad ym 1605. Ar ôl 44 mlynedd, cymerodd feddiant ohonynt o’r diwedd a dechreuodd ar raglen sylweddol o waith gwella ac ehangu. Roedd hyn yn cynnwys eglwysi a phum castell yn Swydd Efrog a Cumbria. Pan fu farw Clifford, hi oedd un o fenywod cyfoethocaf y wlad.
Yr Arglwyddes Elizabeth Wilbraham
Yr aristocrat Elizabeth, Arglwyddes Wilbraham (1632-1705) oedd y pensaer benywaidd cyntaf i greu ei dyluniadau ei hun. Cynlluniodd dai mawr i’w theulu, fel Weston Park yn Swydd Stafford. Yn ôl un damcaniaeth, mae’n bosib bod Wilbraham wedi cyfrannu at 400 o adeiladau eraill, gan gynnwys 18 o eglwysi yn Llundain a briodolwyd yn swyddogol i Christopher Wren, gan nad oedd hawl gan ferched i ddal swyddi proffesiynol ar y pryd. Mae’n bosibl y defnyddiodd Elizabeth benseiri gwrywaidd i gyflawni ei chynlluniau ar ei chyfer. Efallai mai Wren oedd un o’r rhain, a’i bod wedi dylanwadu ar lawer o’i syniadau diweddarach.
Ethel Charles
Roedd rhaid aros tan 1898 i bensaer benywaidd gael cydnabyddiaeth broffesiynol lawn am y tro cyntaf, pan dderbyniwyd Ethel Charles (1871–1962) i Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA). Fodd bynnag, nid oedd hyn yn golygu ei bod wedi cael unrhyw gomisiynau ar gyfer prosiectau mawr, a oedd yn dal i gael eu rheoli gan ddynion.
Yn hytrach, bu’n gweithio ar wella bythynnod labrwyr, gyda’i chwaer Bessie fel arfer, sef yr ail fenyw i fod yn aelod o RIBA. Bellach, mae cynlluniau Ethel yn cael eu hystyried yn gam ymlaen sylweddol o’r Hen arddull Seisnig tuag at fudiad gardd-ddinas, sef dull o gynllunio trefol a oedd yn amgylchynu cymunedau â thir llain las. Mae enghreifftiau o hyn i’w gweld yn Brentham Garden Suburb a Welwyn Garden City.
Gallwch ddysgu mwy am yr holl ‘droeon cyntaf i fenywod’ yma.
Merched a dylunio adeiladau
Er bod y proffesiwn allan o’u cyrraedd am amser maith, llwyddodd menywod i wneud gwelliannau pwysig yn y ffordd rydym yn cynllunio ac yn defnyddio ein hadeiladau a’n mannau cyhoeddus.
Er enghraifft, arweiniodd safbwyntiau Florence Nightingale (1820–1910), a fu’n gyfrifol am chwyldroi’r byd nyrsio a gosod safonau newydd ar gyfer tosturi yn y gofal i gleifion, at syniadau newydd am gynllun ysbytai.
Galwodd am well golau ac awyru, a threfn o wardiau er mwyn lleihau lledaeniad clefydau heintus. Mabwysiadwyd y syniadau hyn yn adeiladau newydd Ysbyty St Thomas yn Llundain ym 1868, lle aeth Nightingale ati’n ddiweddarach i sefydlu’r ysgol nyrsio broffesiynol gyntaf yn y byd. Daeth ei datblygiadau arloesol yn boblogaidd wedyn mewn ysbytai ledled y byd.
Cymdeithas sy'n fwy cyfartal
Wrth i fenywod ennill mwy o ryddid ac annibyniaeth, roedd yn rhaid iddynt newid yr amgylchedd adeiledig ar gyfer eu hanghenion. Fodd bynnag, roedd hi hyd yn oed yn anodd i’r ffeministiaid cynnar a’r etholfreintwyr ddod o hyd i fannau diogel i gyfarfod. Fel y dywedodd yr ymgyrchydd Ray Strachey (1887–1940) yn ddiweddarach: “roedd bodolaeth pwyllgor o fenywod hyd yn oed yn ddatblygiad newydd syfrdanol”. Bu’n rhaid iddynt drefnu ymgyrchoedd a phrotestiadau o gartrefi preifat.
Roedd rhoddion gan gymwynaswyr yn caniatáu i ferched ymgynnull, ffurfio cymdeithasau a chreu sefydliadau, fel y London and National Society for Women’s Service, a oedd â digon o adnoddau yn y pen draw i gomisiynu ei adeilad ei hun yn San Steffan, Neuadd Milicent Fawcett, a enwyd ar ôl ei harweinydd. Datblygodd ei lyfrgell i fod yn sail i Lyfrgell y Menywod heddiw, sydd bellach wedi’i lleoli yn Ysgol Economeg Llundain.
Heddiw, fe welwch gymdeithasau fel Cymdeithas Genedlaethol Menywod ym maes Adeiladu, sy’n cefnogi menywod ym mhob rôl yn y diwydiant.
Hanes menywod mewn addysg
Roedd menywod cyffredin wedi eu cau allan o addysg ffurfiol i raddau helaeth tan 1870, pan roedd disgwyl i bob plentyn rhwng 5 a 12 dderbyn addysg. Tan hynny, dibynnwyd ar gymwynaswyr fel Angela Burdett-Coutts (1814-1906), a gefnogodd y gwaith o adeiladu cannoedd o Ysgolion y Tlodion, a fwriadwyd ar gyfer y plant tlotaf.
Barn y mwyafrif oedd nad oedd addysg ac ymarfer corff mor addas i ferched ag yr oedd i fechgyn. Aeth addysgwyr fel Frances Mary Buss (1827–1894) ati i gywiro hyn, gan agor ysgol uwchradd i ferched yn Llundain ym 1850, a ddaeth yn Ysgol Golegol Gogledd Llundain ac yn fodel i lawer o ysgolion eraill a ddilynodd. Roedd Buss yn rym deallusol enfawr, a hi fathodd y term ‘headmistress’ a hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn gymrawd ar yr hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel y Chartered College of Teaching.
Roedd rhaid aros hyd yn oed yn hirach i ferched gael lleoedd mewn prifysgolion. Gwthiodd y diwygwyr Emily Davies (1830-1921) a Barbara Bodichon (1827–1891) i fenywod gael yr hawl i sefyll arholiadau a chael graddau. Ym 1869, aethant ati i sefydlu coleg newydd mewn arddull brics coch Fictoraidd ar gyrion Caergrawnt, un o’r colegau preswyl cyntaf i fenywod yn Lloegr. Mae bellach yn cael ei adnabod fel Coleg Girton, ond ni ddaeth yn rhan swyddogol o Brifysgol Caergrawnt nes i fenywod gael eu derbyn yn llawn i’r brifysgol ym 1948.
Sut wnaeth menywod helpu i wella tai
Byddai dinasoedd Prydain yn llawer gwaeth eu byd heb ddiwygwyr ac ymgyrchwyr cymdeithasol di-ofn fel Octavia Hill (1838–1912), a helpodd i sefydlu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd Hill wedi sylweddol fod rhaglenni tai cymdeithasol trefol yn methu yn eu hymgais i achub tlodion y trefi rhag amodau byw erchyll a landlordiaid didostur.
Datblygodd Hill system lle byddai buddsoddwyr cyfoethog yn ei helpu i brynu tai syml i’r tlodion yn gyfnewid am elw o 5% ar eu buddsoddiad. Golygai hyn bod yn rhaid i’w thenantiaid newydd dalu rhent, ac yn aml roeddent yn trawsnewid eu bywydau er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ei fforddio. Fe helpodd ei byddin o wirfoddolwyr iddynt i wneud gwaith atgyweirio, dod o hyd i waith, dysgu sgiliau newydd a ‘gwella eu byd’ yn gyffredinol.
Nid oedd unrhyw amheuon gan Hill ynghylch rôl menywod yn hyn o beth: “Mae’n rhaid i fenywod ei wneud, gan ei fod yn waith manwl; mae’n rhaid i fenywod ei wneud, gan ei fod yn waith tŷ; ar ben hynny, mae angen amynedd, tynerwch a gobaith parhaus”, meddai.
Roedd Hill yn credu bod mannau agored, gerddi, coed a blodau yn hanfodol ar gyfer yr hyn rydym bellach yn ei alw’n ‘ansawdd bywyd’. Ymgyrchodd yn llwyddiannus i sicrhau na fyddai unrhyw ddatblygu’n digwydd ar Hampstead Heath a Parliament Hill Fields, sydd bellach yn rai o’r mannau gwyrdd agosaf at galonnau pobl Llundain; ac yn lle’r tenementau o dai digalon, di-goed, creodd fythynnod gardd yn y ddinas fel canolbwyntiau ar gyfer cymuned iach.
Straeon gan fenywod sy’n gweithio ym maes adeiladu
Diolch byth, mae llawer mwy o fenywod bellach yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, llawer ohonynt â straeon ysbrydoledig a llwybrau gyrfa amrywiol. Cliciwch ar unrhyw un o’r enwau isod i ddysgu mwy am eu rôl a’r llwybr i gyrraedd yno.
Bu Brianne Asbury yn ddylunydd dan hyfforddiant, ac mae Amy Griffiths yn gweithio fel rheolwr safle cynorthwyol gyda Kier Construction.
Ar ôl cwblhau ei Lefel A, penderfynodd Jaeger Petry, a oedd wedi ystyried mynd i’r brifysgol, roi cynnig ar ychydig wythnosau o brofiad gwaith fel gweithredwr peiriannau, a dydi hi heb ddifaru o gwbl! Mae Sonia Jamieson yn rheolwr HSQE, a’i gwaith yw ymgysylltu â phrentisiaid i helpu i ddatblygu gweithlu’r dyfodol.
Rhagor o wybodaeth am rolau i ferched yn y maes adeiladu.
Mae hanes menywod ym maes adeiladu yn dangos bod brwydro dros gymdeithas well a mwy cyfartal yn gallu cyflawni gwelliannau dwys a pharhaol i’n hamgylchedd adeiledig a’r gymdeithas sy’n cael ei gwasanaethu ganddi.
Rhaid i hyn barhau, a dyma’r amser perffaith i fenywod ymuno â’r diwydiant.
Dysgwch am fenywod yn y diwydiant adeiladu, yn ogystal â’r amrywiaeth enfawr o swyddi adeiladu a chyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y sector gyda’n Chwilotwr Gyrfa, sy’n seilio ei argymhellion ar eich sgiliau a’ch personoliaeth.
Gallwch hefyd danysgrifio i gylchgronau (sydd hefyd ar gael ar-lein) fel Women in Construction i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.
A chofiwch ddilyn Am Adeiladu ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Twitter, Instagram, ac YouTube.