Pa gymwysterau sydd eu hangen arna’i i fod yn blymwr?
Gallwch ddod yn blymwr drwy amrywiaeth o lwybrau, boed hynny drwy weithio, dilyn cwrs coleg neu ddilyn prentisiaeth. Ceir hyfforddiant plymio galwedigaethol y bydd angen i chi ei wneud, sy'n galw am rai cymwysterau sylfaenol. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Pa gymwysterau TGAU ddylwn i eu cymryd i fod yn blymwr?
Does dim pynciau TGAU penodol y dylech eu hastudio os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn blymwr. Fodd bynnag, bydd angen i chi gael o leiaf ddau gymhwyster TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i D) er mwyn cael eich derbyn ar gwrs Diploma NVQ Lefel 2. Mae prentisiaeth ganolradd fel arfer yn gofyn i’r cymwysterau hynny fod mewn Saesneg a Mathemateg. Mae angen 4-5 cymhwyster TGAU ar raddau 9 i 3 ar gyfer Diploma Lefel 3.
Pa gymwysterau plymio sydd ar gael?
Mae cwrs Plymio a Gwresogi Domestig City and Guilds yn un o’r prentisiaethau ‘Trailblazer’ newydd sy’n rhoi’r sgiliau craidd i newydd-ddyfodiaid ar gyfer gyrfa mewn systemau plymio a gwresogi. Cewch eich hyfforddi ym mhob agwedd ar y grefft, gan gynnwys marcio, mesur a thorri pibellau, a gweithio gyda pheiriannau nwy, olew a thanwydd solet traddodiadol yn ogystal â phympiau gwres a systemau biomas.
Mae’r Diploma Lefel 2 yn darparu’r holl hyfforddiant y byddai ei angen ar beiriannydd plymio a gwresogi domestig sylfaenol i ddechrau datblygu ei yrfa. Mae prentisiaid canolradd yn dilyn y cwrs hwn, sy’n cynnwys y meysydd canlynol:
- Deall a gweithredu arferion diogel ym maes peirianneg gwasanaethau adeiladu
- Deall a defnyddio prosesau gosod a chynnal a chadw system dŵr poeth ddomestig
- Deall a defnyddio technegau gosod a chynnal a chadw systemau domestig draenio uwchben y ddaear
- Gosod a chynnal systemau gwresogi domestig.
Gall plymwr profiadol, prentis uwch neu rywun sydd wedi cyflawni’r Diploma Lefel 2 ddilyn y cymhwyster NVQ Lefel 3. Mae Lefel 3 yn darparu llwybr i blymwyr gael eu cofrestru gyda Gas-safe. Mae unedau gorfodol y Diploma Lefel 3 yn cynnwys:
- Deall a gwneud gwaith trydanol ar gydrannau a systemau plymio a gwresogi domestig
- Gwasanaethu a chynnal a chadw offer chwistrellu olew domestig
- Gosod, comisiynu a throsglwyddo systemau dŵr poeth solar ‘gweithredol’
- Gwybod beth yw’r gofynion ar gyfer gosod, comisiynu a throsglwyddo systemau casglu dŵr glaw ac ailddefnyddio dŵr llwyd.
Bydd angen i blymwyr a pheirianwyr gwresogi sy’n gweithio ar safleoedd adeiladu gael cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS). Gwnewch gais am eich cerdyn yma.
Prentisiaethau plymio
Fel y soniwyd uchod, mae’r hyfforddiant plymio ar gyfer prentisiaid yn golygu dilyn y Diplomâu NVQ fel rhan o brentisiaeth ganolradd (Lefel 2) a phrentisiaeth uwch (Lefel 3).
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gael hyd at bum cymhwyster TGAU, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg fel arfer, ar gyfer prentisiaethau canolradd yn Lloegr. Dylai unrhyw un sy’n gwneud cais am brentisiaeth uwch mewn plymio gael pum cymhwyster TGAU Graddau 9 i 4, sydd hefyd yn cynnwys Saesneg a Mathemateg.
Dod o hyd i brentisiaeth plymio yn Talentview
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn blymwr, mae amrywiaeth eang o brentisiaethau plymio a gwresogi domestig ar gael yn Talentview Construction.
Cael gwybod mwy am yrfa fel plymwr
Mae plymio yn yrfa amrywiol sy'n rhoi boddhad, gyda llawer o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau ac arbenigo mewn meysydd penodol o'r grefft. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllaw manwl ar blymio.