Pam dod yn brentis?
Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau rhwng 4 - 8 Mawrth! Felly, fe wnaethon ni benderfynu holi dau ddarpar beiriannydd pam eu bod wedi penderfynu dod yn brentisiaid. Yn fwy na hynny, roedden ni eisiau gwybod os oedden nhw’n difaru...
Oeddech chi’n gwybod beth roeddech chi eisiau ei wneud gyda gweddill eich bywyd pan oeddech chi ym Mlwyddyn 9? Doedd Lexxi Evans ddim yn gwybod chwaith!
Felly cafodd sgwrs â’i rhieni. Dywedodd ei thad ei fod â'i fryd erioed ar fod yn bensaer ond doedd pethau ddim wedi gweithio allan. Wnaeth hi ddim anghofio hyn.
Rwy’n cael cymaint o foddhad wrth ddod â lluniau pensaer yn fyw yn y byd go iawn – ac fe wnes i hynny’n eithaf annibynnol yn ystod fy mlwyddyn gyntaf fel prentis!
Lexxi Evans
Gwneud penderfyniad
“Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd â chelf – ac adeiladau hefyd,” meddai Lexxi. “Roedd gen i ddiddordeb yn y ffordd maen nhw’n cael eu gwneud ers i mi fod yn ifanc iawn. Roedd bod yn bensaer yn gwneud llawer o synnwyr.
“Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael profiad gwaith mewn cwmni pensaernïol pan oeddwn i yn yr ysgol. Ond sylweddolais nad yr ochr bensaernïol oedd gennyf ddiddordeb mawr ynddo. Ond yn hytrach, peirianneg.
“Cefais fy nghyflwyno i feddalwedd dylunio drwy gymorth cyfrifiadur (CAD) - yr hyn mae peirianwyr yn ei ddefnyddio i wneud dyluniadau a modelau. Dysgais yr hanfodion mewn diwrnod neu ddau. Roedd yn braf cael defnyddio fy sgiliau artistig i ddatrys problemau.
“A dyna fu - roeddwn i’n gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud! Dewisais y cymwysterau TGAU mwyaf perthnasol, gan gynnwys celf a chyfrifiadureg. Ond ar ôl fy arholiadau, doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i’r cyrsiau peirianneg iawn mewn colegau.”
Llun drwy garedigrwydd Forefront Contractors
Y ffordd orau o ddysgu
“Es i ffair yrfaoedd a daeth gwraig hyfryd o hyd i brentisiaeth peirianneg dylunio digidol dwy flynedd i mi drwy CADCOE (Canolfan Ragoriaeth Adeiladu a Dylunio) a TDS, cwmni sy’n arbenigo mewn modelu ar gyfer y diwydiant adeiladu. Roedd yn berffaith i mi.
“Mae wedi bod yn anhygoel cael hyfforddi wrth weithio. Rydw i’n gwneud yr un math o waith â phawb yn y swyddfa – rydyn ni’n cael rhoi cynnig ar bopeth. Mae’n dîm agos ac mae pawb yn dysgu oddi wrth ei gilydd. Rydw i wrth fy modd â’r ffaith bod mwy i’w ddysgu bob amser!
“Roedden nhw hyd yn oed wedi caniatáu i mi fodelu prosiect cyfan ar fy mhen fy hun – tŷ wedi’i wneud â ffrâm ddur ysgafn. Rwy’n cael cymaint o foddhad wrth ddod â lluniau pensaer yn fyw yn y byd go iawn – ac fe wnes i hynny’n eithaf annibynnol yn ystod fy mlwyddyn gyntaf fel prentis!
“Rydw i wedi darganfod bod gen i ddawn naturiol a brwdfrydedd cryf iawn ar gyfer y gwaith hwn. Rydw i wedi mwynhau pob eiliad o’m prentisiaeth ac rydw i am ddal ati i’w mwynhau.”
Llun drwy garedigrwydd Forefront Contractors
Gwaith ar adeiladau enwog
Roedd cyd-brentis Lexxi yn TDS, Adam Rowley, hefyd wedi darganfod bod peirianneg CAD yn ffordd wych o ddefnyddio’i sgiliau artistig.
“Rwy’n tynnu lluniau i’m teulu – portreadau ar gyfer pen-blwyddi ac yn y blaen. Mae tynnu llun ar gyfrifiadur yn wahanol, ond rydych chi’n dal i gael defnyddio eich creadigrwydd. Mae’n rhywbeth rwy’n ei fwynhau’n fawr,” meddai Adam.
“Mae bob amser yn ddiddorol dysgu wrth weithio oherwydd mae cymaint o amrywiaeth. A chymaint o gyfleoedd!
“Cefais weithio ar gynllun Cwrt Rhif 1 yn Wimbledon. Mae cyfrannu at adeiladau eiconig yn rhywbeth rwy’n dyheu am gael ei wneud.
“Mae’r brentisiaeth wedi gwneud llawer i mi yn barod, mae wedi rhoi ymdeimlad o aeddfedrwydd a chyfrifoldeb i mi. Mae rhai o’m ffrindiau a arhosodd yn yr ysgol bellach yn difaru nad oedden nhw wedi dilyn prentisiaeth!”
Mae cymaint o amrywiaeth a chymaint o gyfleoedd! Cefais weithio ar gynllun Cwrt Rhif 1 yn Wimbledon.
Adam Rowley
Ewch amdani!
Mae’n amlwg nad yw’r ddau brentis yn difaru, ond pa gyngor sydd ganddyn nhw i bobl sy’n ystyried ymgeisio?
“Ewch amdani!” meddai Adam. “Peidiwch ag ymatal, efallai na ddaw’r cyfle heibio fyth eto a gallai fynd â chi ar drywydd newydd gwych mewn bywyd.”
Mae Lexxi yn cytuno. “Mentrwch a pheidiwch byth â gadael i unrhyw un ddweud wrthych na allwch chi. ‘Rhagorwch ar eich disgwyliadau’ ydy un ymadrodd sy’n fy nghadw i fynd.
“Mae’r hyn rydw i’n ei gyflawni ar fy mhrentisiaeth yn sicr yn rhagori ar fy nisgwyliadau!”
A yw prentisiaeth yn iawn i chi?
Gyda chymaint o yrfaoedd a chyfleoedd ym maes adeiladu, mae rhywbeth i bawb. Beth am ddarganfod beth allai weithio i chi?
Dysgwch fwy am brentisiaethau a chwilio am ddigwyddiad prentisiaethau yn eich ardal chi.