Sut beth yw adeiladu yng nghanol dinas?
Sut beth yw adeiladu yng nghanol dinas?
Wedi’i greu o ffrâm ddur 2000-tunnell wedi’i orchuddio â gwydr, mae ffasâd disglair pencadlys BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd yn olygfa drawiadol. O’r adeilad hwn, darlledir newyddion ar draws y wlad gyfan bob dydd, gan gyrraedd miliynau.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y prosiect gwerth £100m ym mis Rhagfyr 2015 a chwblhawyd y gwaith ym mis Mawrth 2018. Mae canolfan y BBC, a arferai fod yn safle gorsaf fysiau, erbyn hyn yn gartref i 1,200 o staff mewn swyddfeydd, stiwdios a mannau cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau.
Mae’r adeilad nodedig hwn reit yng nghanol Caerdydd, wedi’i amgylchynu gan ffyrdd prysur a llwybrau cerdded. Roedd gan y prif gontractwyr, ISG, dipyn o dasg i sicrhau nad oedd y gwaith adeiladu yn achosi problemau i fusnesau lleol, rheoli traffig na diogelwch cerddwyr.
Gweithio gydag eraill
Mae Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn syth y tu ôl i bencadlys y BBC, ac mae’r adeilad newydd yn wynebu gorsaf Ganolog y ddinas. Cyn, ac yn ystod y gwaith adeiladu, cynhaliodd cynllunwyr a rheolwyr prosiect drafodaethau rheolaidd rhwng y gwahanol sefydliadau er mwyn osgoi tarfu pan oedd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn y Stadiwm a sicrhau bod mynediad i’r orsaf yn cael ei gynnal.
Osgoi rhwystrau ffordd
Un o’r tasgau mawr cyntaf ar y safle oedd gosod seilbyst a, dros 40 wythnos, tynnwyd oddeutu 47,500 metr ciwbig o ddeunydd, er mwyn gallu gosod is-strwythur yr adeilad yn ei le.
Roedd tua 100 o lorïau’n ymweld â’r safle bob dydd i dynnu’r swm enfawr hwn o ddeunydd o ganol y ddinas. Drwy ddefnyddio ap rheoli traffig a ddatblygwyd ganddynt yn fewnol, llwyddodd y contractwyr i osgoi rhwystro ffyrdd yng nghanol y ddinas, ac ni chafwyd cwynion gan y cyhoedd.
Dod â’r cyfan at ei gilydd
Her fwyaf y gwaith adeiladu oedd gosod y ffrâm ddur. Mewn llawer o adeiladau, mae’r ffrâm yn gwbl strwythurol ac wedi’i guddio o’r golwg. Fodd bynnag, bwriad penseiri’r prosiect, Foster + Partners, oedd ei adael yn y golwg dan y to gwydr, fel nodwedd hanfodol o ddyluniad yr adeilad. Roedd hyn yn golygu bod angen i’r ffrâm ddur aros mewn cyflwr perffaith. Roedd yn rhaid ei osod a’i weldio yn ei le heb ei farcio, fel bod yr effaith wrth gerdded drwy’r gofod yn parhau’n daclus.
Tynnu sylw at rai o’r swyddi dan sylw:
Mae pob prosiect adeiladu yn ganlyniad i waith tîm rhwng gweithwyr proffesiynol, sy’n gweithio gyda’i gilydd i rannu arbenigedd a dod â strwythur yn fyw. Nid yw’r dasg o adeiladu pencadlys BBC Cymru yn wahanol o gwbl. Dyma rai o’r arbenigwyr a helpodd i’w wireddu.
Gweithwyr gosod seilbyst
Cyn tynnu’r mwd i wneud lle i is-strwythur yr adeilad, gwthiodd y gweithwyr seilbyst i’r ddaear gan ddefnyddio peiriannau trwm i ddarparu cynhaliaeth hanfodol i sylfeini’r adeilad a sicrhau na fyddai’r ddaear yn suddo yn ystod y gwaith cloddio.
Adeiladwyr dur
Roedd adeiladwyr dur yn hanfodol, ac yn gosod ffrâm ddur nodedig yr adeilad, a sicrhau nad oedd yn cael ei farcio wrth iddo gael ei osod a’i roi yn ei le, gan gadw at y cynlluniau a gafodd eu creu gan benseiri a pheirianwyr.
Technegwyr BIM
Casglodd technegwyr Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (neu BIM) argymhellion at ei gilydd gan syrfewyr, penseiri a pheirianwyr i greu delweddau 3D digidol o’r ffrâm ddur cyn y gwaith adeiladu. Roedd hyn yn helpu i sicrhau y byddai pob rhan yn ffitio gyda’i gilydd yn y ffordd a fwriadwyd, ac y byddai’r adeilad yn ymdopi â’i ddefnydd.
Er mwyn osgoi tagfeydd traffig yng nghanol dinas Caerdydd wrth i lorïau symud deunyddiau dros ben oddi ar y safle, helpodd rheolwyr trafnidiaeth i ddatblygu ap rheoli traffig arbennig a lwyddodd i ragweld ac osgoi unrhyw darfu.
Swyddogion cysylltiadau cyhoeddus a marchnata
Cyn, yn ystod ac ar ôl y gwaith adeiladu, roedd swyddogion Cysylltiadau Cyhoeddus yn rhoi newyddion am y prosiect i’r cyhoedd, gan gynnal enw da’r cleient a’r contractwyr. Roeddent yn gyfrifol am rannu manylion y prosiect a’i fanteision ar-lein, ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy sicrhau sylw cadarnhaol yn y wasg.
Rhagor o wybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiant adeiladu
Ydych chi’n meddwl tybed a fyddai rôl yn y diwydiant adeiladu yn addas i chi? Defnyddiwch ein Chwilotwr Gyrfa i ddarganfod swyddi yn y diwydiant sy’n cyfateb â’ch sgiliau a’ch diddordebau.