Sut i baratoi at gyfweliad prentisiaeth
Rydych chi wedi gwneud cais am brentisiaeth adeiladu ac wedi cael cyfweliad - da iawn chi! Mae cyrraedd mor bell â hyn yn gyflawniad gwych, a nawr mae’n bryd paratoi er mwyn i chi gael y brentisiaeth honno.
Meddyliwch am gyfweliad am brentisiaeth fel sgwrs gwrtais, yn hytrach nag ymholiad. Mae’r cyfweliad yn gyfle i weld a hoffech chi’r brentisiaeth a’r cwmni, yn ogystal â chyfle i’r cyflogwr weld a ydych chi’n addas ar gyfer y rôl.
Gall cyfweliad fod yn brofiad brawychus, felly mae’n gwbl naturiol bod ychydig yn nerfus. Yr allwedd i lwyddo mewn cyfweliad yw paratoi, a'r ffordd orau o baratoi yw ymchwilio i'r cwmni, meddwl am y cwestiynau y gallech eu gofyn, a chael syniad sut y byddech chi'n eu hateb cyn i chi gamu i'r drws.
Cyfweliadau am Brentisiaeth - y pethau sylfaenol
Gall cyfweliadau fod ar sawl ffurf, o drafodaethau panel grŵp i brofion ynghylch barn sefyllfaol, i sgwrs syml, felly bydd y canllaw hwn yn canolbwyntio ar y math mwyaf cyffredin o gyfweliad: cyfweliadau’n seiliedig ar gymhwysedd. Yn syml, mae cyfweliad sy’n seiliedig ar gymhwysedd yn canolbwyntio ar y pethau y gallwch eu gwneud, felly gofynnir i chi roi enghreifftiau i ddangos bod gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl.
Fodd bynnag, bydd y canllaw hwn hefyd yn cynnwys cyngor cyffredinol ac awgrymiadau y gellir eu cymhwyso i unrhyw leoliad cyfweliad.
Yn ystod y cyfweliad, gallwch ddisgwyl i'r sawl sy’n rhoi’r cyfweliad ofyn am:
- Eich sgiliau a’ch profiad
- Eich cryfderau (ac o bosibl eich gwendidau)
- Pam rydych eisiau’r brentisiaeth benodol hon
- Eich dealltwriaeth am y diwydiant adeiladu a’r swydd benodol
- Eich nodau ar gyfer y dyfodol
Paratoi at y cyfweliad
A ydych yn cofio’r awgrym a gawsoch (mae cynllunio ymlaen llaw yn atal perfformiad gwael) yn yr ysgol? Mae hefyd yn berthnasol i gyfweliadau – mae mynd i gyfweliad wedi’ch paratoi’n dda yn sicrhau y gallwch chi bortreadu eich hun yn y darlun orau.
Lle da i ddechrau yw gwneud ychydig o ymchwil gefndirol ar y cwmni sy'n eich cyfweld:
- Ewch i'w gwefan i ddarganfod eu gwerthoedd craidd a'u meysydd arbenigol
- Dysgwch am unrhyw brosiectau adeiladu allweddol y maent yn gweithio arnynt
- Edrychwch am unrhyw newyddion sy'n ymwneud â'r cwmni.
Nid oes angen i chi fynd i’r afael â’r manylion, ond mae cael ychydig o wybodaeth gefndirol sylfaenol am y cwmni yn rhywbeth y mae cyflogwyr yn ei werthfawrogi’n fawr gan ei fod yn dangos bod gennych chi ddiddordeb gwirioneddol ynddynt. Gall hefyd fod yn ffordd ddefnyddiol o dorri'r tensiwn.
Mae nifer o ffyrdd eraill o baratoi’n effeithiol at gyfweliad am brentisiaeth adeiladu:
- Darllenwch y disgrifiad swydd a’r fanyleb bersonol yn ofalus a byddwch yn glir ynghylch y sgiliau a’r rhinweddau y mae’r cyflogwr yn chwilio amdanynt
- Paratowch rywbeth smart a chyfforddus i'w wisgo
- Gwiriwch faint o’r gloch sydd angen i chi gyrraedd ac enw’r unigolyn rydych chi’n ei weld – mae’n arfer da cyrraedd 5-10 munud yn gynnar
- Cynlluniwch eich llwybr i'r cyfweliad ymlaen llaw
- Os oes gennych anabledd a bod angen addasiadau arnoch i wneud y cyfweliad yn hygyrch, gallwch gael cyngor gan Scope (Saesneg yn unig) ar sut i ofyn amdanynt
- Ewch dros eich CV neu ffurflen gais a meddyliwch am y pethau y gall y cyflogwr ofyn i chi amdanynt
- Paratowch 2-3 cwestiwn y gallech eu gofyn i’r cyflogwr ar ddiwedd y cyfweliad – mae hyn yn ffordd wych o ddangos eich brwdfrydedd am y rôl.
Cwestiynau cyfweliad
Fe wnaethom grybwyll hyn uchod, ond y peth pwysicaf i baratoi ar ei gyfer yw'r cwestiynau. Mae’n amhosib paratoi ar gyfer pob cwestiwn y gall cyflogwr ei ofyn – felly gadewch i ni fynd trwy rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir a’r ffordd orau i’w hateb.
Dywedwch rywbeth am eich hun
Yn aml y cwestiwn cyntaf un, mae yna lawer o ffyrdd i'w ateb.
Y peth allweddol yma yw ei gadw’n berthnasol i’r diwydiant adeiladu a’r swydd – gallwch siarad am rai o’ch hobïau neu ddiddordebau, ond peidiwch â mynd i fanylder mawr am eich cariad at gathod neu bêl-droed.
Yn lle hynny, trafodwch yr hyn a’ch denodd i fod eisiau gweithio ym maes adeiladu, pam y byddech am weithio i’r cyflogwr hwnnw, unrhyw gyraeddiadau sy’n ymwneud â gwaith neu addysg yr ydych yn falch ohonynt, pa sgiliau defnyddiol yr ydych wedi’u dysgu ar eich taith. Cadwch bethau’n bersonol, yn agored ac yn onest – mae’n ffordd dda o roi gwybod i’r cyflogwr pa fath o berson ydych chi.
Rhowch enghraifft o pan wnaethoch chi…
Defnyddir y math hwn o gwestiwn i ganfod a oes gennych y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rôl. Mae rhai cyffredin yn cynnwys: ‘Disgrifiwch adeg pan wnaethoch chi ddangos arweinyddiaeth’, ‘Rhowch enghraifft o bryd wnaethoch chi ddefnyddio eich cymhelliant’ a ‘Rhowch enghraifft o bryd y gwnaethoch chi gwblhau sawl terfyn amser’.
Atebwch y cwestiynau hyn gan ddefnyddio fformat STAR: eglurwch y Sefyllfa, y Tasgau roedd yn rhaid i chi eu cwblhau, y Camau a Gymerwyd gennych a Chanlyniadau eich gweithredoedd. Dylech roi’r pwyslais mwyaf ar Gamau Gweithredu a Chanlyniadau.
Gallwch ddefnyddio enghreifftiau o'ch profiad gwaith neu addysg, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi pwyslais ar y sgiliau y mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt.
Beth fyddech chi'n ei wneud pe bai…?
Mae hwn yn gwestiwn yn seiliedig ar senario a all gynnwys pynciau fel delio â gwrthdaro o fewn tîm neu gyda chleient, cael adborth negyddol, oedi annisgwyl yn y gwaith, pibell ddŵr wedi byrstio ac ati.
Nod y cwestiynau hyn yw gweld sut yr ydych yn mynd ati i ddatrys problemau, felly eglurwch eich ffordd o feddwl a pham y byddech yn cymryd camau penodol. Os yw’n bosibl, edrychwch ar adegau yn y gorffennol pan fyddwch wedi wynebu problemau tebyg a sut yr arweiniodd eich gweithredoedd at ganlyniad cadarnhaol.
Unwaith eto, gall hyn ddod o brofiad gwaith neu addysg, ac nid o reidrwydd o amgylchedd adeiladu.
Yn ystod y cyfweliad
Nawr eich bod wedi ymchwilio i'r cwmni ac wedi paratoi rhai atebion, dyma rai awgrymiadau da ar gyfer yn ystod y cyfweliad:
- Cyflwynwch eich hun yn hyderus i'r sawl sy'n rhoi'r cyfweliad, gwenwch a gwnewch gyswllt llygad
- Byddwch yn gwrtais a defnyddiwch y gofles a'r iaith gywir ar gyfer sefyllfa ffurfiol
- Os nad ydych yn deall cwestiwn, gofynnwch iddynt ei ailadrodd neu am ragor o wybodaeth
- Byddwch yn gadarnhaol! Bydd gennych ddigon o sgiliau a chyraeddiadau i fod wedi cyrraedd mor bell, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu sylw atynt
- Os ydych chi wedi wynebu sefyllfaoedd anodd, dangoswch yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu ohonynt
- Dywedwch y gwir – peidiwch â gorliwio
- Ar y diwedd, diolchwch i’r cyflogwr am eu hamser a dywedwch eich bod yn edrych ymlaen at glywed ganddynt.
Gofynnwch gwestiynau i’r cyflogwr
Mae'n bwysig gofyn cwestiynau i'r cyflogwr hefyd, ac mae hyn fel arfer yn digwydd ar ddiwedd y cyfweliad. Gall cwestiynau godi’n naturiol o’r drafodaeth, ond mae’n arfer da mynd i’r cyfweliad gydag ychydig o gwestiynau wedi’u paratoi. Mae rhai defnyddiol yn cynnwys:
- Beth rydych chi’n ei fwynhau fwyaf am weithio i'r cwmni hwn?
- Pa gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael?
- Pa fath o heriau sy'n wynebu'r diwydiant adeiladu?
- Holwch am brosiectau allweddol y cwmni, ei lwyddiannau a’r pethau maen nhw’n falch ohonynt yn eu cyfanrwydd.