Troeon cyntaf i fenywod ym maes adeiladu
Ar gyfer Mis Hanes Menywod (1 - 31 Mawrth), rydym yn edrych yn ôl ar rai o'r troeon cyntaf i fenywod ym maes adeiladu. Y cyflawniadau hyn yw'r sylfeini i fenywod heddiw wireddu eu potensial a llwyddo yn eu rôl ddewisol.
Yr Arglwyddes Anne Clifford
Yr Arglwyddes Anne Clifford (1590-1676) oedd y fenyw gyntaf i gymryd rhan weithredol mewn prosiect adeiladu, gan reoli'r rhaglen ddylunio ac adeiladu ar gyfer gwelliannau i'w hystadau yn Westmorland. Go dda Arglwyddes Anne!
Yr Arglwyddes Elizabeth Wilbraham
Tua 1701, cynhyrchodd yr Arglwyddes Elizabeth Wilbraham y darluniau pensaernïol cynharaf y gwyddys iddynt gael eu gwneud gan fenyw, ar gyfer ailadeiladu eglwys Sant Andreas yn Swydd Stafford. A allai eich darluniadau chi fod y campwaith pensaernïol nesaf?
Sarah Guppy
Cyfrannodd Sarah Guppy at ddyluniad seilwaith Prydain, ac ym 1811 rhoddodd batent ar y cyntaf o'i dyfeisiadau, sef dull o wneud seilbyst diogel ar gyfer pontydd. Ond rhoddodd hi'r cynllun i ffwrdd am ddim gan ei bod yn credu na ddylai merched “frolio gormod”. A fyddai hi wedi bod mor wylaidd nawr?
Ethel Charles
Ym 1898, Ethel Charles oedd y fenyw gyntaf i gael mynediad i Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), wedi'i dilyn gan ei chwaer Bessie ym 1900. Ydych chi'n dyheu am adael eich marc ar y byd trwy ddod yn bensaer?
Alice Perry
Ym 1906, deallir mai Alice Perry oedd y fenyw gyntaf i gael gradd mewn peirianneg yn Iwerddon neu Brydain Fawr - o bosibl y byd! Fe raddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Queen's College Galway (bellach yn NUI, Galway). Ai gradd yw'r llwybr cywir i chi?
Y Fonesig Caroline Haslett
Ym 1918, y Fonesig Caroline Haslett DBE, YH oedd ysgrifennydd cyntaf y Gymdeithas Peirianneg Menywod ac yn fuan daeth yn llais i fenywod mewn peirianneg ledled y byd. Fe wnaeth ei gwaith ysbrydoli llawer o fenywod i fynd i mewn i beirianneg a busnes. Diolch Caroline!
Irene Barclay
Ym 1922, Irene Barclay oedd y Syrfëwr Siartredig benywaidd cyntaf ym Mhrydain ac un o ddiwygwyr cymdeithasol allweddol yr 20fed ganrif am ei gwaith i wella amgylchiadau tai yn slymiau St. Pancras. A allech chi wella'r tai yn eich ardal chi?
Amy Johnson
Ym 1929, Amy Johnson oedd y fenyw gyntaf o Brydain i gymhwyso fel Peiriannydd Tir ac am gyfnod byr, hi oedd yr unig fenyw yn y byd i ddal teitl y swydd honno! Ac… Amy oedd y fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun o Loegr i Awstralia - waw!
Elisabeth Scott
Ym 1929-32, Elisabeth Scott oedd y pensaer benywaidd cyntaf i ennill cystadleuaeth bensaernïaeth ryngwladol am ei chynllun i ailadeiladu Canolfan Goffa Shakespeare (y Royal Shakespeare Theatre erbyn hyn) yn Stratford-upon-Avon.
Ladies Bridge
Mae Pont Waterloo hefyd yn cael ei galw'n ‘Ladies Bridge,’ am ei bod wedi cael ei hadeiladu gan oddeutu 350 o fenywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cofiwch hyn y tro nesaf y byddwch yn cerdded dros y bont.
Carol Bell
Ddiwedd y 90au a dechrau'r 00au, Carol Bell oedd Dirprwy Reolwr Prosiect yr Eden Project arobryn yng Nghernyw - yr heulfan fwyaf yn y byd. Hoffech chi ymgymryd â phrosiect cyffrous fel hwn?
Zaha Hadid
Cafodd ei geni yn Baghdad, Irac ym 1950, ac enillodd y pensaer o Lundain Zaha Hadid Wobr Bensaernïaeth Pritzker 2004 - y fenyw gyntaf erioed i dderbyn anrhydedd uchaf pensaernïaeth! Yn anffodus, bu farw Zaha yn 2016, ond mae ei hetifeddiaeth a'i heffaith ar y byd pensaernïaeth yn parhau.
Wedi’ch ysbrydoli?
Edrychwch ar ein blogiau blaenorol ar fenywod yn y maes adeiladu a gweld a fyddai gweithio yn y diwydiant yn addas i chi!
Ffynhonnell y lluniau
Yr Arglwyddes Anne Clifford a Chastell Appleby
Yr Arglwyddes Elizabeth Wilbraham a llun o Eglwys Sant Andreas
Sarah Guppy a Phont Grog Clifton
Ethel Charles a Dyluniadau gan Ethel Charles, 1907
Irene Barclay a slymiau St. Pancras