Rydych chi wedi gwneud cais am swydd adeiladu ac wedi cael cyfweliad – da iawn chi! Mae cyrraedd mor bell â hyn gyflawniad gwych, a nawr mae’n amser paratoi at y cyfweliad er mwyn i chi gael y swydd honno.

Beth yw cyfweliad swydd?

Meddyliwch am gyfweliad swydd fel sgwrs gwrtais, yn hytrach na holi. Mae’r cyfweliad yn gyfle i weld a hoffech chi’r swydd a’r cwmni, yn ogystal â chyfle i’r cyflogwr weld a ydych chi’n ffit dda ar gyfer y rôl.

Gall cyfweliad fod yn brofiad brawychus, felly mae’n gwbl naturiol bod ychydig yn nerfus. Yr allwedd i gael cyfweliad swydd llwyddiannus yw paratoi, a’r ffordd orau o baratoi yw ymchwilio i’r cwmni, meddwl am y cwestiynau y gallech eu cael, a chael syniad o sut y byddech chi’n eu hateb cyn i chi gyrraedd.

 

Pam mae paratoi at gyfweliad yn bwysig?

Ydych chi’n cofio’r ‘5P’ o’r ysgol? Prior Planning Prevents Poor Performance – mae’n berthnasol i gyfweliadau hefyd, oherwydd mae’n wych i ymddangos fel eich bod wedi paratoi’n dda.

 

Cyn y cyfweliad

Ymchwilio i’r cwmni

Lle da i ddechrau yw cynnal rhywfaint o ymchwil gefndir ar y cwmni sy'n eich cyfweld:

  • Ewch i'w gwefan i ddarganfod eu gwerthoedd craidd a'u meysydd arbenigol
  • Dysgwch am unrhyw brosiectau allweddol y maent yn gweithio arnynt
  • Chwiliwch ar-lein am unrhyw newyddion sy'n ymwneud â'r cwmni.

Mae cael rhywfaint o wybodaeth gefndir sylfaenol am y cwmni yn rhywbeth y mae cyflogwyr yn ei werthfawrogi’n fawr, gan ei fod yn dangos bod gennych chi ddiddordeb gwirioneddol ynddynt. Gall hefyd fod yn ffordd ddefnyddiol o dorri'r garw.

Deall y disgrifiad swydd

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y disgrifiad swydd yn ofalus. Bydd hyn yn rhoi syniad o'r math o berson y mae'r cwmni'n chwilio amdano o fewn y rôl, pa gryfderau a phrofiad y dylai fod ganddynt, a beth mae'r swydd yn ei olygu. Bydd cyfeirio at y disgrifiad swydd yn ystod y cyfweliad yn cael ei dderbyn yn gadarnhaol gan y cyfwelwyr.

Casglu dogfennaeth berthnasol

Os yw’r cwmni wedi gofyn i chi ddod ag unrhyw ddogfennaeth gyda chi, fel pasbort neu drwydded yrru i brofi pwy ydych chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio dod â nhw.

Syniadau ac Awgrymiadau

  • Paratowch rywbeth smart a chyfforddus i'w wisgo. Oni bai eich bod yn gwybod bod gan y cwmni bolisi gwisg hamddenol, mae bob amser yn ddoeth i ddynion wisgo dillad ffurfiol (crys, tei a siwt os yn bosibl)
  • Gwiriwch faint o’r gloch sydd angen i chi gyrraedd ac enw’r person rydych chi’n ei weld – mae’n arfer da cyrraedd 5-10 munud yn gynnar
  • Cynlluniwch eich llwybr i'r cyfweliad ymlaen llaw
  • Os oes gennych anabledd ac angen addasiadau i wneud y cyfweliad yn hygyrch, gallwch gael cyngor gan Scope ar sut i ofyn amdanynt.

 

Yn ystod y cyfweliad

Pan fyddwch chi’n cwrdd â’ch cyfwelydd, neu gyfwelwyr os mai cyfweliad panel ydyw, ysgwyd eu llaw a gwneud rhywfaint o sgwrs fach gychwynnol. Dywedwch eich bod yn falch o gwrdd â nhw, a diolch iddynt am gymryd yr amser i'ch gweld. Ceisiwch gadw cyswllt llygad yn ystod y cyfweliad.

Byddwch yn barod i drafod eich profiad ac enghreifftiau penodol

Mae'n bwysig eich bod yn darparu enghreifftiau o'r hyn yr ydych wedi'i wneud yn y gorffennol yn ystod eich gyrfa sy'n eich gwneud yn ymgeisydd da ar gyfer y swydd. Gallai fod pan wnaethoch chi gynhyrchu neu adeiladu rhywbeth, gweithio fel rhan o dîm neu gyfrannu'n sylweddol at brosiect, neu ddangos y sgiliau y mae'r cyfwelydd yn chwilio amdanynt.

Arddangos eich sgiliau

Mae’r rhan fwyaf o gyfweliadau yn seiliedig ar gymhwysedd, yn yr ystyr eu bod yn canolbwyntio ar y pethau y gallwch chi eu gwneud yn dda. Felly gofynnir i chi roi enghreifftiau i ddangos bod gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd.

Gofyn cwestiynau i’r cyflogwr

Gall cwestiynau godi’n naturiol o’r drafodaeth, ond mae’n arfer da mynd i’r cyfweliad gydag ychydig wedi’u paratoi. Mae rhai defnyddiol yn cynnwys:

  • Beth sydd fwyaf pleserus i chi am weithio i'r cwmni hwn?
  • Pa gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael?
  • Pa fath o heriau sy'n wynebu'r diwydiant adeiladu?
  • Gofynnwch am brosiectau allweddol y cwmni, ei gyflawniadau a'r pethau y maent yn falch ohonynt yn eu cyfanrwydd.

 

Cwestiynau cyfweliad cyffredin

Dywedwch wrthym amdanoch chi’ch hun

Mae'n un o'r cwestiynau cyfweliad mwyaf cyffredin, ac mae yna lawer o ffyrdd i'w ateb.

Y peth allweddol yma yw ei gadw’n berthnasol i adeiladu a’r swydd – gallwch siarad am rai o’ch hobïau neu ddiddordebau, ond peidiwch â mynd i fanylder mawr am eich cariad at gathod neu bêl-droed.

Yn lle hynny, trafodwch yr hyn a’ch denodd i fod eisiau gweithio ym maes adeiladu, pam y byddech am weithio i’r cyflogwr hwnnw, unrhyw gyflawniadau sy’n ymwneud â gwaith neu addysg yr ydych yn falch ohonynt, a pha sgiliau defnyddiol yr ydych wedi’u dysgu ar eich taith. Cadwch bethau’n bersonol, yn agored ac yn onest – mae’n ffordd dda o roi gwybod i’r cyflogwr pa fath o berson ydych chi.

Rhowch enghraifft i ni o…

Defnyddir y math hwn o gwestiwn i ganfod a oes gennych y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swydd. Mae rhai pethau cyffredin yn cynnwys: ‘Disgrifiwch adeg pan wnaethoch chi ddangos arweinyddiaeth’, ‘Rhowch enghraifft o bryd wnaethoch chi ddefnyddio eich menter’ a ‘Rhowch enghraifft o bryd y gwnaethoch chi jyglo terfynau amser’.

Atebwch y cwestiynau hyn gan ddefnyddio fformat STAC: eglurwch y Sefyllfa, y Tasg(au) roedd yn rhaid i chi eu cwblhau, y camau y rhoddwch Ar Waith a Chanlyniadau eich gweithredoedd. Rhowch y pwyslais mwyaf ar y camau y rhoddwch Ar Waith a Chanlyniadau.

Gallwch ddefnyddio enghreifftiau o'ch profiad gwaith neu addysg, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi pwyslais ar y sgiliau y mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt.

Beth fyddech chi'n ei wneud pe bai…?

Mae hwn yn gwestiwn seiliedig ar senario a all gwmpasu pynciau fel delio â gwrthdaro o fewn tîm neu gyda chleient, derbyn adborth negyddol, oedi annisgwyl i weithio, pibell ddŵr wedi byrstio ac ati.

Nod y cwestiynau hyn yw gweld sut yr ewch ati i ddatrys problemau, felly eglurwch eich ffordd o feddwl a pham y byddech yn cymryd camau penodol. Os yn bosibl, galwch ar adegau yn y gorffennol pan fyddwch wedi wynebu problemau tebyg a sut yr arweiniodd eich gweithredoedd at ganlyniad cadarnhaol.

Unwaith eto, gall hyn ddod o brofiad gwaith neu addysg, ac nid o reidrwydd o amgylchedd adeiladu.

Beth ydych chi’n ei wybod am y cwmni?

Dyma le cewch gyfle i ddangos eich bod wedi gwneud eich ymchwil am y cwmni adeiladu. Gallwch siarad yma am y math o brosiectau y mae'r cwmni wedi gweithio arnynt, ei hanes a beth yw ei werthoedd. Efallai y gallwch hefyd grybwyll rhai o'r gwobrau y gallai fod wedi'u hennill neu fentrau y bu'n rhan ohonynt.

Beth yw eich cryfderau a’ch gwendidau?

Wrth feddwl am eich cryfderau, ceisiwch eu cysylltu â'r disgrifiad swydd, a rhowch enghreifftiau o sut y dangoswyd y cryfderau hynny. Gall nodi eich gwendidau ymddangos yn llawer anoddach i'w wneud, ond mae cyflogwyr yn gofyn y cwestiwn hwn oherwydd eu bod eisiau gwybod am eich lefel o hunanymwybyddiaeth a'r potensial sydd gennych ar gyfer twf personol mewn rôl swydd.

Ceisiwch ganolbwyntio ar y meysydd hynny o'ch personoliaeth nad ydynt yn adlewyrchu'n wael arnoch chi'ch hun ac a fyddai'n atal rhywun rhag eich cyflogi. Mae’n well dweud, er enghraifft, ‘Rwy’n ormod o berffeithydd’, na ‘Rwy’n colli ffocws yn hawdd’.

Allwch chi ddisgrifio cyfnod pan oeddech chi'n gweithio fel rhan o dîm?

Mae cyfwelwyr yn gofyn y cwestiwn hwn oherwydd eu bod eisiau gwybod pa mor dda rydych chi'n gweithio fel rhan o dîm. Mae adeiladu yn seiliedig ar waith tîm - ni all unrhyw beth gael ei adeiladu gan bobl sy'n gweithio ar eu pen eu hunain. Dylech baratoi ateb i'r cwestiwn hwn ymlaen llaw. Nid yw’n ddigon dim ond dweud ‘Gweithiais gyda thîm o seiri’ ar brosiect; Eglurwch yr heriau a wynebodd y tîm, sut y gwnaethoch gydweithio i ymateb a datrys yr anawsterau hynny, a beth ddysgoch o ganlyniad.

Cwestiynau cyfweliad adeiladu

Pam ydych chi eisiau gweithio ym maes adeiladu?

Mae hyn yn glasur. Dyma’ch cyfle i ddangos eich brwdfrydedd dros adeiladu – beth am y diwydiant sy’n tanio’ch brwdfrydedd? Beth ydych chi am ei gyflawni yn eich gyrfa, a pham mai chi yw’r ychwanegiad gorau i’r maes?

Beth yw eich hoff adeilad neu strwythur?

Mae cyfwelwyr eisiau gweld bod gennych angerdd a diddordeb mewn adeiladau. Efallai eich bod eisoes yn gwybod am yr enghreifftiau i'w defnyddio yma, ond efallai bod hwn yn faes lle mae angen i chi wneud rhywfaint o ymchwil. Mae digon o raglenni teledu a llyfrau am hanes adeiladau enwog, neu fe allech chi chwilio ar-lein. Mae gan Am Adeiladu nifer o erthyglau a allai roi rhywfaint o ysbrydoliaeth, megis yr a Ffeithiau Adeiladu Am Adeiladau Enwog.

Pa arferion diogelwch ydych chi'n eu dilyn yn ystod gwaith adeiladu?

Diogelwch yn y gweithle, neu ar safle adeiladu, yw'r ystyriaeth bwysicaf i gyflogwyr adeiladu. Dylech fynd i gyfweliad gyda gwybodaeth dda am arferion gorau iechyd a diogelwch.

Cyfeiriwch at unrhyw brofiad blaenorol sydd gennych o gynnal eich diogelwch eich hun ac eraill ar y safle, yn ogystal â sut yr ydych wedi ymdrin ag unrhyw faterion diogelwch.

Sut ydych chi’n delio â thasgau corfforol heriol ac oriau hir?

Mae angen lefelau da o ffitrwydd corfforol ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi adeiladu ar y safle. Mae cyfwelwyr eisiau gwybod a ydych chi'n barod am yr heriau ffisegol o weithio ar safle adeiladu, ym mhob tywydd. Er mai dim ond eich oriau cytundebol y bydd yn rhaid i chi eu gweithio, efallai y bydd angen goramser â thâl ar gyfer rhai prosiectau. Os mai hon yw eich swydd gyntaf, efallai y gallwch ddefnyddio enghreifftiau o brofiad gwaith neu weithgareddau gwirfoddol.

Pa offer a chyfarpar adeiladu ydych chi wedi gweithio gyda nhw fwyaf?

Mae hyn yn berthnasol ar gyfer crefftau adeiladu ar y safle fel gosod brics, gwaith coed a gweithredu peiriannau. Bydd cyfwelwyr yn chwilio am brofiad o ddefnyddio, atgyweirio a chynnal a chadw offer a chyfarpar allweddol.

Dilyniant ar ôl y cyfweliad

Fel arfer byddwch yn darganfod a oeddech yn llwyddiannus yn y cyfweliad ymhen ychydig ddyddiau. Hyd yn oed os nad ydych chi'n cael y swydd, mae pob cyfweliad yn brofiad dysgu da.

Gwerthuso beth aeth yn dda

Aseswch pa rannau o'r cyfweliad aeth yn dda. Pa gwestiynau oeddech chi fwyaf cyfforddus yn eu hateb, a pha rai a achosodd broblemau i chi? Bydd gwybod ble mae angen i chi wella yn helpu i wneud eich cyfweliad nesaf yn well.

Gofyn am adborth

Mae'n gwbl dderbyniol gofyn i'ch cyfwelydd am adborth ar sut y gwnaethoch chi berfformio yn y cyfweliad yn eu barn nhw. Efallai y bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r person a drefnodd y cyfweliad i chi os nad oes gennych fanylion cyswllt y cyfwelydd ei hun. Gallai hwn fod yn rheolwr AD yn y cwmni adeiladu neu'ch ymgynghorydd recriwtio.

Paratoi ar gyfer eich gyrfa adeiladu

Gyda chymaint o yrfaoedd a chyfleoedd ym maes adeiladu, mae rhywbeth at ddant pawb. Darganfyddwch pa rolau adeiladu sy'n addas i'ch sgiliau a'ch diddordebau trwy ddefnyddio ein chwilotwr gyrfa.

Yn Am Adeiladu mae gennym dros 170 o broffiliau swyddi gwahanol, felly mae'n debyg y gallwch ddod o hyd i yrfa mewn adeiladu sy'n addas i chi. Mae gan bob proffil swydd ddigonedd o wybodaeth ddefnyddiol, fel cyflog, opsiynau hyfforddi, sgiliau allweddol ac astudiaethau achos gan bobl sydd eisoes yn gweithio ym maes adeiladu.