Beth yw adeiladu?
Beth yw adeiladu?
Mae’n cyfeirio’n syml at y weithred o adeiladu rhywbeth. Bydd yr erthygl hon yn mynd ychydig yn ddyfnach na hynny, gan y byddwn yn edrych ar y gwahanol fathau o adeiladu, pob un â chyfleoedd gwaith cyffrous y gallwch gael golwg arnynt yma.
Beth yw’r gwahanol fathau o adeiladu?
Mae mwy nag un math o waith adeiladu, sy’n cael eu diffinio fel arfer gan y math o adeilad a fydd yn cael ei godi, neu faint y prosiect. Mae gan bob math o waith adeiladu ran hollbwysig yn y gwaith o siapio’r diwydiant.
Adeiladu ac adnewyddu tai
Pan fydd tai’n cael eu hadeiladu, eu hadnewyddu, eu diweddaru neu eu newid at ddiben newydd h.y. cynyddu eu maint, mae hwn yn un math penodol o waith adeiladu. Rhaid i’r deunyddiau a ddefnyddir fod yn ddiogel i bobl fyw yn y tŷ, gydag ystyriaethau fel gwastraff ac effeithlonrwydd ynni yn cael sylw.
Mae cynlluniau’n cael eu creu, ac fel arfer mae grwpiau o dai (sy’n cael galw’n ystadau tai yn aml) yn cael eu hadeiladu gan un neu ragor o gwmnïau, neu gontractwyr i wneud y prosiect mor effeithlon ag sy’n bosibl o ran amser.
Adeiladu masnachol a diwydiannol
Mae adeiladau sy’n cael eu defnyddio at ddibenion masnachol neu ddiwydiannol fel arfer yn cael eu defnyddio gan fusnesau, busnesau manwerthu neu gorfforaethau mawr. Yn yr un modd ag y mae gan dŷ bwrpas penodol ac felly angen deunyddiau sy’n addas i’r pwrpas, mae hynny hefyd yn wir am y prosiectau adeiladu hyn.
Bydd pobl yn gweithio yn yr adeiladau hyn, felly maent wedi’u cynllunio i fod yn ddiogel, yn effeithiol o ran ynni, ac yn cael eu rheoli i sicrhau eu bod yn cadw at derfynau amser er mwyn agor yn brydlon a dechrau cyflawni eu pwrpas.
Adeiladu seilwaith
Adeiladu seilwaith yw adeiladu unrhyw beth sy’n helpu i gysylltu trefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig. Gall hyn gynnwys systemau pŵer, ffyrdd a phontydd (a llawer mwy). Meddyliwch amdano fel adeiladu gwasanaethau neu gyfleusterau, yn hytrach na chartrefi neu swyddfeydd. Mae’r math hwn o waith adeiladu yn hanfodol i economi gwlad ac mae llawer o wahanol swyddi ar gael yn y maes. Cliciwch yma i ddysgu mwy am rolau posibl mewn adeiladu seilwaith.
Gweithgynhyrchu oddi ar y safle
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae cynlluniau a deunyddiau’n cael eu dylunio oddi ar y safle adeiladu, a’u datblygu i helpu i symud y prosiect yn ei flaen, gan gynnwys gweithgynhyrchu deunyddiau. Mae’n bosib y bydd darnau’n cael cydosod ymlaen llaw neu eu rhoi at ei gilydd cyn eu gosod ar y safle, gyda swyddi’n amrywio o rolau dylunio i waith llaw.
Beth ydy gwaith adeiladu mawr?
Gellir disgrifio gwaith adeiladu mawr mewn sawl ffordd:
- Maint ffisegol yr adeilad neu’r seilwaith gorffenedig
- P’un ai yw’n bwrpasol neu at ddiben unigryw
- Faint fydd cost y prosiect a faint o gyllid y bydd yn ei dderbyn
- Ei leoliad, er enghraifft ffordd sy’n cael ei hadeiladu drwy ddinas brysur
Gallai rhai prosiectau sy’n fach o ran maint, gael eu hystyried yn rai mawr oherwydd deunyddiau neu leoliad unigryw.
Pam mae adeiladu’n bwysig?
Mae adeiladu yn ddiwydiant hanfodol, sy’n creu adeiladau a mannau sy’n cysylltu cymunedau, yn darparu swyddi ac yn gwella cymdeithas.
Manteision adeiladu
Mae adeiladu’n darparu atebion go iawn ar gyfer anghenion dynol. Mae sicrwydd swydd yn gymharol uchel o’i gymharu â diwydiannau eraill gan fod cymaint o brosiectau’n datblygu ar yr un pryd. Mae’r rhan fwyaf o swyddi’n talu’n dda ac mae’r diwydiant yn gyffredinol yn newid drwy’r amser, felly mae’r gwaith yn parhau i fod yn gyffrous ac yn werth chweil.
Adeiladu Cynaliadwy
Mae hyn yn rhywbeth llawer mwy cyffredin, wrth i’r diwydiant adeiladu weithio tuag at greu byd mwy cynaliadwy drwy brosiectau a seilwaith. Mae datblygiadau ym maes rheoli gwastraff, adeiladau gwyrdd, a deunyddiau amgylcheddol-gyfeillgar i gyd yn bwysig a gallwch weithio mewn nifer o rolau yn y diwydiant, gan gynnwys arbenigwr cynaliadwyedd.
Technoleg ac adeiladu
Mae’r maes adeiladu bob amser yn addasu ar gyfer y dyfodol Mae datblygiadau technolegol newydd yn cael eu defnyddio i greu adeiladau cyffrous, yn enwedig yn ystod cyfnod dylunio a datblygu prosiectau adeiladu. Mae pethau fel modelu 3D, VR, ac AR (realiti rhithwir ac estynedig) i gyd yn creu swyddi newydd a chyffrous fel technolegwyr pensaernïol a syrfewyr hydrograffig.
Sut i ddechrau gyrfa ym maes adeiladu
Ydych chi’n meddwl tybed beth yw eich opsiynau yn y diwydiant adeiladu? Gallwch edrych ar eich opsiynau yma, gan gynnwys dysgu sut mae ymuno â’r diwydiant drwy hyfforddiant, prentisiaethau neu brofiad gwaith.
Rhagor o wybodaeth am wahanol yrfaoedd adeiladu
Cysylltwch â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol os oes gennych unrhyw ymholiadau:
Instagram - @goconstructuk
Facebook - @GoConstructUK
Twitter - @GoConstructUK
Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Cymrwch sbec ar ein prentisiaethau neu gyrsiau a chymwysterau CITB, neu darllenwch ein blogiau eraill i gael ysbrydoliaeth. Mae gennym hefyd gwis personoliaeth i’ch helpu i ddod o hyd i’r rolau sydd fwyaf addas i chi.